Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o gyrsiau BA Actio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, BA Dylunio Set a Chynhyrchu, a chyrsiau MA Cyfarwyddo Theatr yn paratoi i berfformio eu Cynyrchiadau Stiwdio.

Poster Cyflwyniad Celfyddydau Perfformio PCYDDS ar gyfer The Wonderful World of Dissocia ac Image of an Unknown Young Woman.

Bydd dau gynhyrchiad yn cael eu perfformio;  ‘Image of an Unknown Young Woman,’ a ysgrifennwyd gan Elinor Cook, ac sy’n cael ei gyfarwyddo gan William Kingshott; a ‘Wonderful World of Dissocia,’ a ysgrifennwyd gan Anthony Neilson, ac sy’n cael ei gyfarwyddo gan Oliver Goulstone, yn Theatr Parry ar Gampws Caerfyrddin, rhwng dydd Iau 18 Mai a dydd Sadwrn 20 Mai.

Bydd myfyrwyr hefyd yn perfformio yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau ddydd Llun, 21 Mai.

Mae William Kingshot yn edrych ymlaen at arddangos ei sgiliau cyfarwyddo, ar ôl gweithio’n galed, dysgu a datblygu ei grefft, cyn ei brosiect olaf yn cyfarwyddo ‘Image of an Unknown Young Woman’. Meddai:

“Mae theatr stiwdio/safle-benodol yn beth enfawr yn y diwydiant, felly mae’n braf gwybod bod y profiad hwn eisoes yn fy mharatoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

“Mae deall y broses o gyflwyno eich drama, cydweithio ag adrannau amrywiol, a’ch deall eich hun a’ch lle ymarfer fel cyfarwyddwr yn bwysig a diolch byth bod y modwl hwn yn caniatáu imi wneud hynny.

“Gan ei fod yn gwrs MA dwy flynedd - mae’r flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio llawer ar ymchwilio i wahanol arddulliau, dramâu, ymarferwyr, dulliau a thechnegau - deall beth sy’n gweithio orau i chi a’ch crefft gyfarwyddo. Mae’r cyfle hwn yn fy ngalluogi i roi’r holl ddysgu hwnnw ar waith ar gyfer fy mhrosiect traethawd hir terfynol.”

Astudiodd William y cwrs BA Actio cyn ei MA ac yn ystod ei amser yno, meddai:

“Fe wnes i fwynhau’r awyrgylch addysgu a’r ansawdd yn fawr. Wrth i mi fagu rhagor o brofiad ym maes actio, roedd y syniad o drawsnewid testun o’r dudalen i’r llwyfan yn ddiddorol iawn, felly es i ymlaen i gael rhywfaint o brofiad cyfarwyddo a arweiniodd fi at y cwrs hwn.”

Oliver Goulstone yw cyfarwyddwr ‘Wonderful World of Dissocia’. Meddai: “Mae fy nghyfnod yn Y Drindod Dewi Sant wedi rhoi cyfleoedd pellach i mi gyfarwyddo a rheoli cynhyrchiad nes ei wireddu’n llawn ac i barhau i feithrin sgiliau cyfeiriadurol, cyfathrebu a gwaith tîm gydag amrywiaeth o gyfoedion talentog.

“Mae’r cwrs dwy flynedd yn adeiladu’n raddol hyd y modwl terfynol hwn a’r cynhyrchiad, lle rydym yn defnyddio’r holl sgiliau a dulliau a ddysgwyd i gwblhau’r amcan o berfformiad terfynol caboledig.”

Ychwanegodd  Oliver fod y cwrs: “wedi rhoi llwyfan i mi barhau i feithrin sgiliau i gyfarwyddo ac ysbrydoli actorion a phobl greadigol yn y diwydiant. Rwyf wedi cael y cyfle i adeiladu gweithdai, gweithio gyda phobl o bob oed a rheoli a mynd i’r afael â llwyth gwaith a heriau. Mae’r cyfan wedi bod o fudd mawr i mi!”

Os hoffech chi archebu tocynnau i wylio’r perfformiadau hyn, cysylltwch â - s.atkinson@pcydds.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau