Myfyrwyr yn teithio’r byd diolch i gysylltiadau newydd y Brifysgol â’r Môr Tawel
Eleni, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi anfon myfyrwyr ar leoliadau profiad addysgol a phroffesiynol a ddarperir gan Think Pacific am y tro cyntaf.
Trefnwyd bod cyllid ar gael i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant er mwyn hwyluso profiadau rhyngwladol a fydd yn ehangu gorwelion, safbwyntiau a rhagolygon y rheiny sy’n cyfranogi. Dyfernir peth o’r arian hwn trwy gynllun gan Lywodraeth Cymru o’r enw Taith.
Rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Taith. “Mae Taith ar gyfer pobl ym mhob cwr o Gymru, ym mhob sector addysg […] a phob math o addysg – ffurfiol, anffurfiol a heb fod yn ffurfiol” (Gwefan Taith, Hydref 2023).
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddatganiad am Taith yn ddiweddar, gan ddweud: “Mae dysgu a chyfnewid rhyngwladol yn meithrin ein hyder, ein hannibyniaeth, ein cryfder i oresgyn rhwystrau, mae’n agor ein llygaid i syniadau a ffyrdd newydd o feddwl.”
Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant olwg byd-eang, gan helpu myfyrwyr i fynd dramor mewn nifer o ffyrdd i sawl gwlad wahanol. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Drindod Dewi Sant feithrin cysylltiadau â Think Pacific, darparwr gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau arobryn sy’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr a graddedigion yn Ffiji neu Indonesia. Mae lleoliadau sy’n benodol i Iechyd Meddwl a Lles ar gael yn Bali.
Mae lleoliadau Think Pacific yn golygu byw a gweithio mewn cymuned fechan ac integreiddio’n llwyr i fywyd pentref, sy’n cynnig dewis arall gwerthfawr i deithio twristaidd wrth roi canlyniad mesuradwy i’r bobl leol a’r myfyrwyr ar ddiwedd pob lleoliad.
Treuliodd Joshua Todd, sy’n astudio Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol, ddeufis yn Ffiji yn ystod haf 2023 gyda Think Pacific, rhwng ei ail a’i drydedd flwyddyn astudio. Mae’n dweud wrth bobl a allai fod yn ystyried y cynllun: “Os ydych chi’n becso am fywyd pentref, neu am addasu, neu am fod yn bell o gartref, peidiwch â phoeni gormod. Buom yn ffodus iawn yn y pentref hwn, rydyn ni wedi gallu cadw mewn cysylltiad yn eithaf da, ond hefyd mae’r pentref mor groesawgar fel nad ydych chi’n teimlo wedi’ch gadael mas neu ddim yn gartrefol.
“Os byddwch chi’n dod, achubwch ar y cyfle i ymgolli yn y bywyd lleol – mae pawb mor groesawgar, mae’n siŵr y bydd angen i chi ddweud wrth bum person na allwch ddod i ginio oherwydd bod gan eich mam [yn y pentref] ginio’n aros amdanoch chi!”
Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol yn Academi Fyd-eang Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i roi cyfle rhyngwladol i fyfyrwyr, boed drwy astudio, gwaith neu wirfoddoli dramor. Yn ogystal â gwella rhagolygon a chyflogadwyedd graddedigion, mae’r profiadau hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’r byd ehangach a’n lle ni o’i fewn, gan ddarparu ymgysylltiad gwell â chymdeithas leol a byd-eang.”
I ddysgu rhagor, ewch i Go Global with UWTSD neu anfonwch e-bost at goglobal@pcydds.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384467078