Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio gyda Heddlu De Cymru a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) i gyfoethogi darpariaeth cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu’r llu ac i agor cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc.

Gwirfoddolwyr ieuenctid mewn siwmperi cnu glas tywyll heddlu De Cymru wrth ymyl cynrychiolwyr o’r Drindod Dewi Sant, CWVYS a Heddlu De Cymru.

Mae’r cytundeb pedair blynedd yn cael ei ariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac yn nodi pennod newydd cyffrous ar gyfer cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu a lansiwyd am y tro cyntaf gan Heddlu De Cymru yn 2014.

Mae’r cynllun wedi tyfu’n sylweddol ers hynny – heddiw, mae dros 100 o wirfoddolwyr rhwng 14 ac 17 oed wedi’u lleoli mewn wyth hwb ar draws De Cymru a gefnogir gan dimau plismona lleol.

Mae’r gwirfoddolwyr (a elwir yn aml yn ‘PYV’) yn rhan o grŵp ieuenctid yr heddlu a gydnabyddir ar draws y DU. Nod y cynllun yw ysbrydoli aelodau i gymryd rhan bositif yn eu cymunedau ac yn annog dinasyddiaeth dda ac ysbryd anturus. Yn aml, mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn gwaith sy’n cefnogi blaenoriaethau plismona lleol ac yn dysgu sgiliau sy’n cyfoethogi eu gwaith yn y gymuned.

Bydd CWVYS yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a’u gweithwyr ieuenctid yn ogystal â PCYDDS a Metropolitan Caerdydd y mae eu myfyrwyr o’r rhaglenni ieuenctid a’r gymuned a throseddeg a phlismona yn gwirfoddoli’n rhan o’u lleoliad rhaglen. Bydd pob un yn gweithio mewn tîm gydag ‘Arweinwyr’ PYV presennol – sy’n cynnwys PCSO, heddweision a gwirfoddolwyr cymorth yr heddlu – i ddarparu rhaglen bwrpasol.

Gan weithio gyda sefydliadau fel Gwobr Dug Caeredin, St John Cymru a darparwyr gwaith ieuenctid eraill, bydd gweithgareddau wedi’u seilio ar anghenion PYV eu hunain ac yn cynnwys mynediad i ystod o gyfleoedd a fydd yn effeithio’n bositif ar eu hiechyd, llesiant, datblygiad personol a chymdeithasol a gyda chefnogaeth ar gyfer addysg hyfforddiant a rhagolygon cyflogaeth PYVS.

Meddai Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru: “Mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi’r bartneriaeth arloesol hon sy’n galluogi i ni adeiladu ar lwyddiant presennol y cynllun a’i gymryd i’r lefel nesaf. Mae gan CWVYS brofiad heb ei ail o ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd a fydd yn creu manteision gwych i’n gwirfoddolwyr niferus. Bydd y cyfle i gwblhau camau Gwobr Dug Caeredin yn ganolog i hyn, ac rwy’n gwybod yn bersonol ei fod yn helpu i bobl ifanc ffynnu a datblygu. Mae cysylltu gyda sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru a’r ddwy brifysgol yn gwneud hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn.”

Meddai Danny Richards, Dirprwy Brif Gwnstabl: “Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu dealltwriaeth o blismona a’r gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n annog datblygiad sgiliau personol a chyfathrebu gan annog dinasyddiaeth dda trwy ymgysylltu â chymunedau lleol.”

Meddai Paul Glaze, Prif Weithredwr CWVYS: “Ynghyd â’n partneriaid, mae’n bleser gennym gael y cyfle i weithio gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ar draws yr holl hybiau bywiog yn Ne Cymru. Ein nod yw cefnogi a darparu ‘r rhaglennu seiliedig ar waith ieuenctid gorau posibl sy’n bodloni anghenion yr holl PYV a’r rheiny sydd eto i ymuno. Allwn ni ddim aros i ddechrau arni!”

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Glau Glas PCYDDS: “Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas PCYDDS: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ar y cydweithrediad hwn i wella’r broses o gyflwyno cynlluniau Gwirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu. Mae’n gyfle gwych i’n myfyrwyr wirfoddoli i weithio gyda’n partneriaid ac ennill a datblygu sgiliau cyflogadwyedd amhrisiadwy. Bydd y cynllun hefyd yn galluogi gwirfoddolwyr ifanc i gael eithriadau credyd UCAS os ydynt yn dewis dod i astudio gyda ni yn PCYDDS ar ein cyrsiau plismona a throseddeg.”

Pennawd y llun

O’r chwith i’r dde: Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Amanda Everson (CWVYS), Danny Richards Dirprwy Brif Gwnstabl, Paul Glaze (Prif Weithredwr CWVYS)

O’r Dde i’r Chwith: Bronwen Williams, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Grant Pointer, Clwb Bechgyn a Merched Cymru.

Tu allan i Bridewell Merthyr gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, Cangen Merthyr.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon