Skip page header and navigation

Mae partneriaeth strategol newydd wedi’i chreu rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri a Chlwb Rygbi Llanymddyfri i ddarparu llwybr i fyfyrwyr gyfuno eu huchelgeisiau academaidd a rygbi trwy Addysg Bellach, Uwch a rygbi lled-broffesiynol. 

Grŵp o saith o ddynion yn sefyll gan ddal crysau rygbi a phêl rygbi.

Mae pob un o’r tri sefydliad eisoes wedi cydweithio ar fentrau academaidd a chwaraeon allweddol ac mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau eu perthynas ymhellach.

Mae’r dysgwr yn ganolog i Grŵp Y Drindod Dewi Sant, ac mae ei ymrwymiad i ddarparu profiad dysgu ardderchog yn greiddiol i’w weithgareddau.

Bwriad pob un o’r tri sefydliad yw cefnogi myfyrwyr sy’n ymwneud â rygbi perfformiad uchel wrth iddynt astudio.  

Bydd y bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at hyfforddiant rygbi ar lefel broffesiynol a hyfforddiant cryfder a chyflyru, yn ogystal â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw.

Bydd gan y myfyrwyr amrywiaeth o ddewisiadau academaidd yn ogystal â chael chwarae yng Nghynghrair Colegau/Ysgolion Dan 18 URC tra byddant yng Ngholeg Llanymddyfri. Mae hyn hefyd yn wir pan fyddant yn symud i’r Drindod Dewi Sant ar gyfer eu Haddysg Uwch a chwarae yn strwythur Cynghrair / Cwpan Undeb Rygbi BUCS.

Ochr yn ochr â hyn, cânt eu cefnogi gan Glwb Rygbi Llanymddyfri sydd â llwybrau i’w dimau ar lefel Dan 18 a’i dîm Lled-Broffesiynol.

Tri chrys rygbi.

Meddai Lee Tregoning, pennaeth Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn wastad yn ceisio gwella’r cysylltiadau rhwng addysg bellach ac uwch i greu llwybrau unigryw fel hwn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a pherfformiad uchel mewn rygbi a fydd o fudd i’n dysgwyr.

“Rydym yn croesawu’r cyfleoedd y mae hyn yn ei greu ar gyfer mwy o aliniad rhwng y tri sefydliad. Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd addysg bellach, uwch a rygbi Lled-broffesiynol i’n dysgwyr yn y byd academaidd a rygbi.”

Meddai Gareth Potter, pennaeth rygbi yn Y Drindod Dewi Sant:

“Bydd y gwasanaethau a ddarperir gan bob parti yn rhoi llwybr pum mlynedd i fyfyriwr nodweddiadol lle gall hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf mewn chwaraeon coleg, prifysgol a rygbi lled-broffesiynol wrth gyflawni ei nodau academaidd ar yr un pryd.”

Ychwanegodd Dominic Findlay, Warden Coleg Llanymddyfri:

“Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â Chlwb Rygbi Llanymddyfri a’r Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth gyffrous iawn sy’n rhoi cyfle i’n chwaraewyr Rygbi ifanc talentog ac uchelgeisiol hyfforddi a chwarae i dîm blaenllaw yn Uwch Gynghrair Cymru wrth gyfuno eu cyrsiau addysg Bellach.

“Mae’r Coleg hwn wedi gweithio’n llwyddiannus â’r ddau sefydliad dros nifer o flynyddoedd a bydd y bartneriaeth hon yn cyflwyno hyd yn oed yn fwy o fuddion i’n disgyblion. Mae gweithio i gadw bechgyn a merched peniog sy’n gymwys i chwarae dros Gymru yng Nghymru a’r ardal yn hynod bwysig wrth i URC a’r Rhanbarthau weithio drwy’r nifer o heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Talent ifanc Cymru yw’r dyfodol, a bydd y bartneriaeth hon yn helpu i greu llwybr arall eto iddynt yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Meddai Peter Rees, Cadeirydd Clwb Rygbi Llanymddyfri:

“Mae’r Porthmyn wedi elwa ar berthynas waith ardderchog â Choleg Llanymddyfri erioed ac rydym nawr yn falch iawn o ehangu ein partneriaeth i gynnwys Y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r Uwch Gynghrair yng Nghymru yn rhan bwysig iawn o’r llwybr at rygbi proffesiynol ond gall fod yn yrfa heriol felly mae’n bwysig iawn y gallwn ddarparu pob cyfle i’n chwaraewyr ddatblygu eu gyrfa academaidd yn gyfochrog â chwarae ac, yn yr un modd, rydym am roi cyfle i fyfyrwyr dawnus yn y Coleg a’r Brifysgol gychwyn eu gyrfa rygbi proffesiynol ar lefel uchaf rygbi clwb yng Nghymru. Credwn mai hon yw un o’r perthnasoedd cyntaf o’r fath sydd wedi’i llunio o gwmpas clwb Lled-Broffesiynol Cymraeg ac mae’n dangos y pwyslais mawr a roddwn ar bob agwedd ar ddatblygiad chwaraewyr yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri.”

Tri dyn yn sefyll o amgylch bwrdd glas yn llofnodi dogfennau.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau