Skip page header and navigation

Partneriaeth addysg Bellach ac Addysg Uwch i drawsnewid hyfforddiant galwedigaethol wrth i adroddiad ddatgelu marchnad lafur anweithgar Cymru.

Heddiw (Dydd Mawrth, 6 Mehefin), bydd pum coleg AB a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio rhwydwaith newydd o Sefydliadau Technegol Uwch i fynd i’r afael â thanberfformio ym marchnad lafur Cymru. Daw’r lansiad wrth i ddadansoddiad manwl diweddar o ddeallusrwydd marchnad lafur ddatgelu ei bod 40 y cant yn llai gweithredol na chyfartaledd y DU gyda chyflogau canolrifol a hysbysebwyd yng Nghymru 13 y cant o dan gyfartaledd y DU.

Logo Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru.

Wrth i economi Cymru adfer ar ôl y pandemig, ac wrth i weithwyr straffaglu gyda’r argyfwng costau byw, bydd y bartneriaeth yn defnyddio grymoedd Prifysgol Cymru i ddod â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’i cholegau cyfansoddol, sef Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, yn ogystal â Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, a Choleg Sir Benfro, at ei gilydd i ffurfioli’r rhwydwaith.

Cyn y lansiad, a fydd yn cynnwys ymateb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Rydym yn ymateb i Lywodraeth Cymru a’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dengys tystiolaeth yr ymchwil diweddar yn glir bod angen brys i ddiwygio darpariaeth sgiliau lefel uwch a’n hymrwymiad fel rhwydwaith i chwarae ein rhan yn y broses hon.”

Bydd y bartneriaeth yn sefydlu rhwydwaith o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru i gyflwyno rhaglen o gymwysterau technegol uwch ar draws sectorau blaenoriaeth economaidd a chymdeithasol wedi’u gyrru gan anghenion cyflogwyr.  Bydd yn darparu cyfleoedd dysgu uwch yn agosach at adref a chynnig cryfach i ‘ennill wrth ddysgu’ trwy astudio’n rhan amser a phrentisiaethau.

Cynhaliodd Lightcast, dadansoddwyr y Farchnad Lafur Fyd-eang, ei ddadansoddiad tua diwedd 2022. Nododd bod marchnad lafur Cymru yn tueddu bod 40 y cant yn llai gweithgar na’r DU, sy’n awgrymu efallai bod cyflogwyr yn ei chael yn anoddach llenwi swyddi gwag. Nododd bod cyflogau canolrifol a hysbysebwyd yng Nghymru 13 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Nododd yr adroddiad bod marchnad recriwtio graddedigion Cymru 25 y cant yn fwy gweithgar na chyfartaledd Cymru.

Gan ymateb i’r adroddiad, dywedodd Iestyn Davies, Pro Is-Ganghellor a Deon Addysg, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol:

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi i ni fewnwelediad gwerthfawr i’r farchnad lafur bresennol yng Nghymru gan alw am ffordd newydd o gyflwyno, ariannu a rheoleiddio darpariaeth sgiliau lefel uwch. Mae angen rhagor o sgiliau ar lefel raddedig wedi’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweddu i fywydau go iawn ein dinasyddion.”

Noddir y digwyddiad gan Elin Jones AS, Llywydd, ac fe fydd yn cynnwys cyflwyniad i’r rhwydwaith gan Mike James, Prif Weithredwr, Grŵp Colegau Caerdydd a’r Fro ar ran y bartneriaeth AB. Gan siarad cyn y digwyddiad, meddai Mike James:

“Mae pob un o’n cydweithwyr wedi adeiladu partneriaethau cryf gyda phrifysgolion Cymru ac rydym wedi ymrwymo i barhau gyda hyn. Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn cynnig sector deuol, cydlynol wedi’i adeiladu ar bartneriaeth a chydweithredu diffuant.”

Nodyn i’r Golygydd

Digwyddiad Lansio

Bydd rhwydwaith a fydd yn dod ag addysg uwch ac addysg bellach at ei gilydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd heddiw am 12:00 Dydd Mawrth, 20 Mehefin.  Bydd y cyflwyniadau’n cychwyn am 12:30. Mae sylwadau a chyfweliadau pellach ar gael yn ddwyieithog gan y sefydliadau partner cyn ac yn ystod y digwyddiad.

Adroddiad Lightcast

Gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gomisiynu Lightcast i ddarparu mewnwelediad i’r farchnad lafur bresennol yng Nghymru. Ymgynghoriaeth ryngwladol, gydnabyddedig yw Lightcast sy’n ymwneud â swyddi, sgiliau, talent y gweithlu, a deinameg marchnadoedd llafur, ac yn arbennig rôl Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddata o ystadegau swyddogol a mewnwelediadau o lyfrgell postiadau swyddi ar-lein Lightcast, sy’n cynnwys dros 80 miliwn o bostiadau swyddi unigryw a gasglwyd yn y Deyrnas Unedig er 2012, canfu’r adroddiad:  

  • Yn ystod 2022, fod tua 300,000 o bostiadau swyddi wedi’u postio ar-lein yn y farchnad lafur yng Nghymru – cynnydd o 30 y cant o’i gymharu â 2021.
  • Er gwaethaf hyn, mae’r farchnad lafur yng Nghymru’n tueddu bod 40 y cant yn llai gweithgar na marchnad y Deyrnas Unedig. Er bod postiadau swyddi yn tueddu parhau ar-lein am ddiwrnod yn hirach ar gyfartaledd nag yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol – sy’n awgrymu y gall cyflogwyr fod yn ei chael yn anoddach llenwi’r swyddi hyn – mae’r cyflogau canolrifol a hysbysebwyd yng Nghymru 13 y cant yn is na’r cyfartaledd yn y DU.
  • O’r 300,000 o bostiadau swyddi a bostiwyd ar-lein yn y farchnad lafur yng Nghymru yn 2022, roedd ychydig dros 130,000 ohonynt ar gyfer swyddi graddedigion. Yn gyffredinol, mae marchnad recriwtio graddedigion Cymru 25 y cant yn fwy gweithgar na chyfartaledd Cymru.
     

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau