Skip page header and navigation

Yn y Senedd yr wythnos hon, daeth pum coleg AB a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant at ei gilydd i lansio rhwydwaith newydd o Sefydliadau Technegol Uwch i fynd i’r afael â thanberfformio ym marchnad lafur Cymru.

Grŵp o ddynion mewn siwtiau, gyda dwy fenyw, o’r colegau AB a PCYDDS.

Wrth i economi Cymru adfer ar ôl y pandemig, ac wrth i weithwyr straffaglu gyda’r argyfwng costau byw, bydd y bartneriaeth yn defnyddio grymoedd Prifysgol Cymru i ddod â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’i cholegau cyfansoddol, sef Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, yn ogystal â Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, a Choleg Sir Benfro, at ei gilydd i ffurfioli’r rhwydwaith.

Mynychwyd y lansiad gan y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS.

Dywedodd Jeremy Miles: “Rwy’n croesawu’r enghraifft hon o gydweithio rhwng sefydliadau AB ac AU i gryfhau’r ddarpariaeth addysg dechnegol uwch, arloesi ac ymchwil gymhwysol.

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu sgiliau lefel uwch i ddysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol gyfan.

“Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon yn dangos yn union yr hyn y gall darparwyr o bob rhan o’r sector ei gyflawni pan fyddant yn gweithio gyda’i gilydd.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Rydym yn ymateb i Lywodraeth Cymru a’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dengys tystiolaeth yr ymchwil diweddar yn glir bod angen brys i ddiwygio darpariaeth sgiliau lefel uwch a’n hymrwymiad fel rhwydwaith i chwarae ein rhan yn y broses hon.”

Bydd y bartneriaeth yn sefydlu rhwydwaith o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru i gyflwyno rhaglen o gymwysterau technegol uwch ar draws sectorau blaenoriaeth economaidd a chymdeithasol wedi’u gyrru gan anghenion cyflogwyr. Bydd yn darparu cyfleoedd dysgu uwch yn agosach at adref a chynnig cryfach i ‘ennill wrth ddysgu’ trwy astudio’n rhan amser a phrentisiaethau.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Iestyn Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Addysg, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y brifysgol:

“Rydym yn falch iawn o lansio Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru heddiw a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hyd yma. Mae angen rhagor o sgiliau lefel graddedig a ddarperir mewn ffordd sy’n cyd-fynd â bywydau go iawn ein dinasyddion a gallwn yn awr edrych ymlaen at ddatblygu ffordd newydd o gyflwyno, ariannu a rheoleiddio darpariaeth sgiliau Lefel Uwch.”

Noddwyd y digwyddiad gan Elin Jones AS, Llywydd, ac roedd yn cynnwys cyflwyniad i’r rhwydwaith gan Mike James, Prif Weithredwr, Grŵp Colegau Caerdydd a’r Fro ar ran y bartneriaeth AB. Gan siarad cyn y digwyddiad, meddai Mike James:

“Mae pob un o’n cydweithwyr wedi adeiladu partneriaethau cryf gyda phrifysgolion Cymru ac rydym wedi ymrwymo i barhau gyda hyn. Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn cynnig sector deuol, cydlynol wedi’i adeiladu ar bartneriaeth a chydweithredu diffuant.”

Logo Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau