Skip page header and navigation

Mae’r Gynhadledd Ryngwladol ar Ieithoedd Lleiafrifol (ICML) yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf ers 30 mlynedd wrth i dros ddau gant o gynadleddwyr o bob rhan o’r byd ddod i gampws y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon (20 – 24 Mehefin).

Logo cynhadledd ICML XIX.

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal y gynhadledd sy’n dod ag academyddion, ymchwilwyr ac arbenigwyr ieithoedd lleiafrifol ynghyd i rannu ymchwil, dysgu am syniadau newydd yn y maes, rhwydweithio, a chlywed am fentrau newydd.

Bydd y gynhadledd yn cychwyn ddydd Mercher (21 Mehefin) lle bydd Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Medwin Hughes DL, yn agor y gynhadledd yn swyddogol ym mhresenoldeb Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy MiIes MS, a’r Athro Fernand de Varennes o’r Cenhedloedd Unedig ac arbenigwyr rhyngwladol.

Cyn y gynhadledd, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL:

“Mae’n ddeng mlynedd ar hugain ers i’r Gynhadledd gael ei chynnal ddiwethaf yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at groesawu cynadleddwyr o bob rhan o’r byd i’n campws yma yng Nghaerfyrddin.

“Un o’n hamcanion wrth gynnal y Gynhadledd yng Nghymru oedd cynnig profiad sosioieithyddol byw o’r Gymraeg heddiw i’r cynadleddwyr a chyfle i rwydweithio ac adeiladu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr. Cawsom ymateb heb ei ail gan ein partneriaid yn Sir Gâr ac yn genedlaethol, ac rydym yn ymfalchïo yn eu cyfraniad at gyfoeth y rhaglen.”

Bydd prif areithiau’r gynhadledd yn cael eu cyflwyno gan yr Athro Fernand de Varennes, Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifol, yr Athro Durk Gorter, Prifysgol Gwlad y Basg, yr Athro Vesna Crnić-Grotić, Prifysgol Rijeka a Rosa Angelica Ramirez Rodriguez, Universidad Externado de Colombia.

Yn ei anerchiad, bydd yr Athro Fernand de Varennes yn canolbwyntio ar gyflwr ansicr hawliau ieithyddol lleiafrifoedd sy’n cael eu tanseilio mewn rhai rhannau o Ewrop. Bydd yr Athro Durk Gorter yn rhoi cyflwyniad byr i astudiaeth o dirweddau ieithyddol yn gyffredinol cyn ystyried sut mae amlygrwydd iaith yn ffactor allweddol i grwpiau ieithoedd lleiafrifol. Yn ei hanerchiad, bydd yr Athro Vesna Crnić-Grotić, yn rhoi trosolwg o brif nodweddion y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol a’i gweithrediad dros y 25 mlynedd diwethaf. Yn ei hanerchiad, bydd Rosa Angelica Ramirez Rodriguez yn holi ai colli iaith yw achos difodiant pobol frodorol lle bydd cyfle i dynnu sylw at sefyllfa pobol Kankuamo

Mae Fernand de Varennes yn Athro Gwadd yn yr Université catholique de Lyon (Ffrainc), Prifysgol Vytautas Magnus, Kaunas (Lithwania) a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway (Iwerddon). Fe’i penodwyd yn Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifol gan y Cyngor Hawliau Dynol a dechreuodd ei rôl ar 1 Awst 2017. Meddai:

“Mae hawliau iaith lleiafrifoedd mewn cyflwr ansicr ac yn cael eu tanseilio neu eu cydnabod llai mewn rhai rhannau o Ewrop. Roedd y camau breision 30 mlynedd yn ôl, yn ystod cyfnod o ansefydlogrwydd a gwrthdaro, hefyd yn gyfnod o adeiladu sefydliadau a gosod normau sydd bellach yn ymddangos fel pe baent wedi cropian i stop rhithwir - a hyd yn oed atchweliad.

“Mae angen ailfeddwl ac ailymrwymo sylfaenol i hawliau dynol lleiafrifoedd - gan gynnwys mewn perthynas â’u hawliau iaith - fel nad slogan wag yn unig yw arwyddair Ewrop o ‘Undod mewn Amrywiaeth’, ond egwyddor gynhwysol o ddemocratiaeth a philer dinasyddiaeth a hunaniaeth.”

Ychwanegodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Chadeirydd y Pwyllgor Academaidd Rhyngwladol ar gyfer y gynhadledd:

“Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Academaidd Rhyngwladol, ac i’n cydweithwyr ar draws y Brifysgol a’n sefydliadau partner am eu gwaith caled yn trefnu’r Gynhadledd hon.

“Mae gennym dridiau llawn gyda dros 130 o bapurau academaidd, paneli a phosteri gan siaradwyr hynod brofiadol ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, o sawl gwlad a chyfandir. Mae’r cyfnewid rhyngwladol hwn – o brofiadau, syniadau, theorïau, methodolegau, astudiaethau achos, cyd-destunau canlyniadau a chasgliadau – yn holl bwysig wrth i ni geisio sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n hieithoedd ac i amrywiaeth ieithyddol drwy’r byd.”

Bardd y Gynhadledd yw Menna Elfyn a chyhoeddwyd yr Athro Colin Williams, Athro Emeritws Prifysgol Caerdydd a Dr Ned Thomas yn Llywyddion Anrhydeddus y gynhadledd.

Bydd yr ICML nesaf yn cael ei gynnal yng Ngholombia, De America.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau