Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi’i chydweithrediad â Phartneriaeth Porth Agored i nodi Wythnos Dysgu yn y Gwaith gan ddathlu twf a datblygiad proffesiynol. 

an image of Saffron Gregory

 Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn nodi carreg filltir arwyddocaol i weithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol sydd wedi cofrestru ar y rhaglen Tystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol, gan ail-ddatgan yr ymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg gwaith cymdeithasol.  

Mae’r bartneriaeth hirdymor rhwng PCYDDS a deuddeg Awdurdod Lleol ar draws Cymru yn rhoi sylw i’r proffesiynoldeb sy’n datblygu ac yn cynyddu ym maes gwaith cymdeithasol.  Mae’r Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol wedi’i theilwra ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd eu Cymhwyso mewn Awdurdodau Lleol a darparwyr gwaith cymdeithasol eraill, ac mae’n sefyll fel cymhwyster nodedig a achredir gan Ofal Cymdeithasol Cymru (GCC). 

Pwysleisiodd Carol Armstrong, Cadeirydd Porth Agored, ymrwymiad y bartneriaeth i ragoriaeth, gan ddweud: 

“Mae ein rhaglen yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu platfform ystyrlon ar gyfer ein hymarferwyr, i oedi, adfyfyrio, a mireinio eu datblygiad proffesiynol ymysg galwadau eu rolau.” 

Mae rhaglen y Dystysgrif Raddedig yn defnyddio’r doreth o wybodaeth a phrofiad y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu cronni yn eu hymarfer dyddiol. Dan arweiniad Gweithwyr Cymdeithasol sy’n rhagori yn ardaloedd eu Hawdurdodau Unedol eu hun, mae’r cwrs yn datblygu amgylchedd dysgu deinamig a gyfoethogir gan fentoriaeth a chefnogaeth bersonol gan Gydlynwyr Hyfforddi Awdurdodau Unedol.  

Meddai Saffron Gregory, myfyriwr cyfredol sy’n cael ei chyflogi gan Gyngor Abertawe: 

 “Mae cymryd rhan yn y Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol wedi fy nghyfoethogi’n fawr.  Mae wedi rhoi cyfle i mi blymio’n ddwfn i f’ymarfer, gan fireinio fy sgiliau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r safonau diweddaraf a’r arferion gorau.” 

Rhoddodd Sarah Loxdale, Rheolwr Rhaglen o dîm Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS, ganmoliaeth i’r ffordd y mae’r rhaglen yn cyd-fynd â fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus Gofal Cymdeithasol Cymru, gan roi sylw i’w rôl ganolog o ran cryfhau hyder proffesiynol a chymhwysedd ymhlith gweithwyr cymdeithasol.  Wrth i’r rhaglen ddathlu’i chyfraniadau nodedig, mae’n falch o gydnabod ymrwymiad a brwdfrydedd mwy na 1,100 o ddysgwyr wrth iddynt geisio rhagoriaeth.  

I gael rhagor o wybodaeth am y Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol, cysylltwch â PPF@uwtsd.ac.uk  


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau