PCYDDS yn croesawu Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas i Lambed
Mae Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas wedi dychwelyd i gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) unwaith eto.
![Grŵp o bobl yn sefyll am lun yn yr heulwen, gyda’r môr yn y cefndir.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-welcomes-the-dylan-thomas-international-summer-school-1.jpg?h=4b785153&itok=fwVO3Isa)
Mae Ysgol Haf Dylan Thomas yn rhaglen ysgrifennu ddwys 12 diwrnod a gynhelir ar gampws Llanbedr Pont Steffan. Fe’i sefydlwyd gan Menna Elfyn yn 2014 ac mae’n cael ei chyd-gyfarwyddo gan Pamela Petro a Dominic Williams.
Mae’r garfan bresennol o fyfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Goleg Lesley a Smith yn UDA, lle mae Pamela Petro yn dysgu Ysgrifennu Creadigol. Ymhlith y myfyrwyr eraill sy’n dilyn y maes llafur mae’r rhai sy’n defnyddio’r ysgol haf i ennill cymhwyster MA o’r Drindod Dewi Sant ac athrawon o golegau eraill yn UDA sy’n dilyn y cwrs ar gyfer eu datblygiad proffesiynol eu hunain.
Dywedodd Dominic Williams, un o gyfarwyddwyr y cwrs:
“Unwaith eto, cawsom ysgol haf ardderchog yn Llanbedr Pont Steffan. Mae’r rhaglen ysgrifennu breswyl unigryw a dwys hon wedi’i gwreiddio mewn ymdeimlad o le ac mae’r gweithdai ysgrifennu gan amlaf wedi’u lleoli yn y fan a’r lle yn y mannau yr ymwelir â nhw o amgylch Cymru. Anogir y rhai sy’n astudio i beidio â bod yn fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth ac yn dwristiaid yn y dirwedd, ond yn ysgrifenwyr creadigol wrth eu gwaith 100% o’u hamser yma.
“Un o elfennau mwyaf llwyddiannus a chlodwiw yr ysgol haf yw’r gyfres o ddarlleniadau cyhoeddus mynediad am ddim y mae’r brifysgol yn eu cynnal ochr yn ochr â’r ysgol haf: rhaglen o ansawdd uchel o awduron byw gorau Cymru. Cyfle anhygoel i’n gwesteion Americanaidd gwrdd â’r llenorion hyn, ond mae hefyd o werth enfawr i gymuned leol Llanbedr Pont Steffan a Cheredigion na fyddai fel arall efallai byth yn cael gweld yr unigolionion eiconig hyn a’u traddodiadau llenyddol cenedlaethol.
“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac i’r myfyrwyr am ymgysylltu a chyfrannu cymaint at y sesiynau.”
![Llun o fynydd gwyrdd.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-welcomes-the-dylan-thomas-international-summer-school-2.jpg?h=2d235432&itok=431zKZL3)
Dywedodd Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America ac Symudedd Allanol) Academi Fyd-eang Cymru,
“Rydym yn falch iawn o gael cynnal yr ysgolion haf ar ein campysau unwaith eto eleni. Mae’n gyfle gwych i ddangos rhyfeddodau Cymru a’n campysau hardd.”
![Grŵp o bobl yn heicio drwy fynyddoedd gwyrdd.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-welcomes-the-dylan-thomas-international-summer-school-3.jpg?h=c5824d9d&itok=CPbAOgai)
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076