Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cynnal ei hail seremoni raddio yng Nghaerdydd. Yn ystod y Seremoni, a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant yng nghanol y ddinas, cyflwynwyd graddau i fyfyrwyr o amrywiaeth o raglenni gan yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor.

Mae myfyrwyr sy’n graddio yn taflu eu capiau academaidd yn yr awyr tu allan i Eglwys Caerdydd.

Yn ei haraith i raddedigion, dywedodd yr Athro Evans: “Rwy’n falch iawn o’ch croesawu i Seremoni Raddio’r Brifysgol yng Nghaerdydd. Mae hwn yn amser o ddathlu, i gydnabod cyflawniad ac i ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein myfyrwyr. Mae seremonïau graddio hefyd yn rhoi cyfle i deulu a ffrindiau rannu yn y dathliadau ac i’w cyfraniad sylweddol i lwyddiant y rhai sy’n graddio gael ei gydnabod.

“Mae llawer o’r rhaglenni a ddarperir ar ein campws yng Nghaerdydd yn rhai galwedigaethol eu natur ac yn cael eu cynnig mewn cydweithrediad â chyflogwyr. Maen nhw’n canolbwyntio ar sicrhau eich bod chi’n ennill y sgiliau, y wybodaeth, a’r priodoleddau sydd eu hangen arnoch chi i wneud gwahaniaeth yn eich gyrfa ddewisol ac i’n cymdeithas ehangach.

“Mae eich llwyddiant wrth ennill eich gwobr yn ganlyniad i’ch gwaith caled a’ch ymrwymiad. Gallwch fod yn falch o’ch cyflawniadau a chofiwch fod y Brifysgol yma i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus.”

Yn sefyll o flaen uwch aelodau eraill PCYDDS, mae’r Is-Ganghellor Elwen Evans yn diosg ei chap yn ystod y seremoni raddio.

Ymhlith y rhai a raddiodd heddiw roedd Perfformio, Astudiaethau Lleisiol Uwch yn ogystal ag Addysg Blynyddoedd Cynnar, Peirianneg, Arweinyddiaeth a Rheoli ac Ymarfer Plismona Proffesiynol.

Graddiodd ail garfan rhaglen Prentisiaeth Gradd y Brifysgol hefyd.Dywedodd Bridget Mosely, Pennaeth Uned Prentisiaethau PCYDDS: “Rwy’n falch iawn o ddathlu graddio ein prentisiaid heddiw. Mae wedi bod yn wych eu gwylio’n datblygu yn eu gyrfaoedd ac i rannu eu llwyddiant gyda’u cyflogwyr”.

Mae llawer o’r graddedigion wedi bod yn astudio’n rhan-amser ac yn y gymuned gan gynnwys y rhaglenni Arweinyddiaeth a Rheoli: Sgiliau ar gyfer y Gweithle ac Addysg Blynyddoedd Cynnar gan ganiatáu i fyfyrwyr gael mynediad at ddysgu mewn lle sy’n gyfleus iddynt.

Dywedodd Natalie Macdonald, Cyfarwyddwr Rhaglen Addysg y Blynyddoedd Cynnar: “Mae bob amser yn foment mor falch i ni weld ein myfyrwyr yn graddio a chael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda nhw. Mae ymrwymiad a chyflawniad y myfyrwyr yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydym yn credu yng ngrym mynd ag addysg allan i fyfyrwyr yn y gymuned. I’n tîm yn PCYDDS, nid datganiad yn unig yw ‘trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ – rydym yn ei weld trwy ein myfyrwyr a’n graddedigion anhygoel bob dydd.”

Dywedodd Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas PCYDDS: “Mae’n wych  gallu dathlu’r cyflawniadau ein myfyrwyr yn y seremoni raddio. Mae’n gyfle i ddathlu eu gwaith caled, eu penderfyniad a’u hymrwymiad i rôl cwnstabliaid yr heddlu a’u llongyfarch ar fod yn flaenllaw ar y llwybr newydd hwn i blismona proffesiynol.”

Graddedigion mewn gynau’n gwenu a chlapio yn ystod y seremoni.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon