Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio ei Hwb Iechyd Gwyrdd trwy gynnal diwrnod agored ar ei safle Cynefin yng Nghaerfyrddin.

Tua phymtheg o bobl mewn siacedi gaeaf trwchus a hetiau’n sefyll o gwmpas byrddau picnic mewn cae dan haen o rew.

Bu PCYDDS yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Lleol dros nifer o flynyddoedd i gefnogi datblygiad safle Cynefin i ddod yn Hwb Iechyd Gwyrdd, er lles pobl ledled Sir Gâr.

Mae prosiect Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin wedi derbyn cyfanswm o £270,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yw hyrwyddo cyfleoedd iechyd meddwl a lles cymunedol ar gyfer grwpiau cymunedol trwy fynediad at fannau gwyrdd lleol. Bydd yn gweithio gyda sawl partner i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo lles, clymau cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.

Ddydd Iau’r 18fed o Ionawr, cynhaliwyd digwyddiad lansio yn Cynefin i ddathlu dechrau prosiect blwyddyn o hyd, lle hyrwyddodd PCYDDS a Coed Lleol gyfleoedd iechyd a lles i bobl leol. Cynigodd Coed Lleol gyfle i gael blas ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl o’u rhaglenni trwy weithgareddau naddu syml, gwehyddu helyg a diodydd poeth o gwmpas y tân.

Meddai Becky Brandwood-Cormack, Swyddog Prosiect Llesiant Coetir ar gyfer Coed Lleol:

“Roedd ein digwyddiad lansio yn ddechreuad perffaith i’r hyn sy’n argoeli i fod yn flwyddyn lwyddiannus a boddhaus i ni i gyd yn Yr Hwb. Crëwyd cymuned o gwmpas y tân wrth i gyfranogwyr blaenorol ddod ochr yn ochr â’r rhai sy’n awyddus i ymuno â ni eleni. Fe wnaethom hefyd groesawu gweithwyr iechyd proffesiynol o Fwrdd Iechyd Hywel Dda, elusennau lleol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr a sefydliadau partner. 

“Gobeithiwn alluogi cynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar ymgynnull o gwmpas y tân a dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chysylltu â’r byd naturiol. Cynefin yw’r safle perffaith i wneud hyn, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni i ddysgu rhagor.”

Pobl wedi’u lapio yn erbyn yr oerfel yn sefyll yn siarad mewn cae gaeafol; rhai eraill yn tynnu nwyddau allan mewn ardal wedi’i hamgáu gan ffens wiail.

Mae Coed Lleol wedi bod yn darparu rhaglenni llesiant coetir rhad ac am ddim ledled Cymru ers mwy na 10 mlynedd, gan gyfuno’r byd naturiol a gweithgareddau wedi’u lleoli mewn coetiroedd i wella iechyd a lles. Mae eu gwaith yn cynnig cyfleoedd i unigolion gefnogi eu lles gyda 5 ffordd at les y GIG fel fframwaith (Rhoi, Bod yn sylwgar, Bod yn fywiog, Dal ati i Ddysgu, Cysylltu). Maen nhw’n mesur yr effaith y mae hyn yn ei gael ar unigolion sy’n cymryd rhan ac yn creu llwybrau dewisol o gyfranogwr i wirfoddolwr i arweinydd gweithgareddau.

Mae Cynefin wedi bod yn safle allweddol ar gyfer rhywfaint o ddarpariaeth Sir Gâr Coed Lleol yn y gorffennol, a oedd yn cynnwys y themâu rhaglen canlynol: lles a chadwraeth natur, a dathlu tymor y Gwanwyn. Maen nhw’n arbenigo yn y gweithgareddau hyn: Byw yn y Gwyllt, Fforio, Gwaith coed gwyrdd, Gwehyddu Helyg, Celf a chrefft natur, Cysylltiad â natur ac ymwybyddiaeth ofalgar, hyfforddiant Arweinydd Taith Gerdded Iechyd ac unedau eraill wedi’u hachredu gan Agored Cymru.

Meddai Andrew Williams, Swyddog Prosiect ac Ymgysylltu ar gyfer y Drindod Dewi Sant yn Cynefin:

“Rydym am i Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin fod yn rhywle lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, lle i gael ysbaid, cyfeillgarwch a thwf. Mae’r gweithgareddau a gynigir gennym yn Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn manteisio ar leoliad hardd Cynefin i gynnig cyfle i ymgolli mewn natur, dysgu sgiliau i symud ychydig yn nes at fyw’n naturiol, a chael ymarfer corff iach a hamddenol ymhlith cymuned gefnogol.”

Bydd yr Hwb yn cynnig casgliad o weithgareddau megis byw yn y gwyllt, naddu, gwehyddu helyg, canu, llifynnau ac inciau naturiol, tecstilau, chwedlau Cymreig, fforio, gwneud meddyginiaeth naturiol, coginio ar dân gwersyll, adrodd straeon, cysylltu â natur, plannu hadau, gwaith lledr a llawer mwy!

Cynhelir y gweithgareddau yn ystod cynulliadau misol neu fel darpariaeth o raglenni 6 wythnos o hyd. Mae’r gweithgareddau’n agored i bawb. Bydd rhai gweithgareddau i oedolion yn unig, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar deuluoedd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Andrew Williams (a.williams1@pcydds.ac.uk).

Pobl mewn cae gaeafol yn archwilio cyfarpar cerfio pren wedi’i osod ar fwrdd picnic; mae iwrt i’w weld yn y cefndir.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau