Skip page header and navigation

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gefnogi Arddangosfa Ymchwil Belron® yn nigwyddiad Best of Belron® 2024, a gynhaliwyd yn Arena MEO yn Lisbon ar 12-13 Mehefin.

Jordan and Kelvin with Dr Gwen Daniel, Belron  Head of Research,  Jeannette Chrisoffersen (Carglas Denmark)  and Lee Faulkner-Beirne (Belron UK) on the Belron trade stand in Lisbon
Jordan Jenkins a'r Athro Kelvin Donne gyda Dr Gwen Daniel, Pennaeth Ymchwil Belron, Jeannette Chrisoffersen (Carglas Denmark) a Lee Faulkner-Beirne (Belron UK)

Yn cynrychioli Canolfan Ymchwil Gwydr Modurol Cymru (WAGRC) PCYDDS, bu Jordan Jenkins, Darlithydd mewn Peirianneg, a’r Athro Kelvin Donne yn arddangos eu hymchwil arloesol a’u hoffer diagnostig datblygedig.

Daeth deuddegfed digwyddiad Best of Belron â thechnegwyr gorau o bob rhan o fusnes Belron ynghyd i gystadlu am deitl mawreddog y ‘Gorau o Belron’. Bu tri deg o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan, gyda phob un ohonynt eisoes wedi llwyddo yn eu cystadlaethau cenedlaethol. Am y tro cyntaf, roedd y gystadleuaeth yn cynnwys tair technegydd benywaidd, yn cynrychioli Ffrainc, y Ffindir, a De Affrica.

Jordan Jenkins from UWTSD discussing the research with delegates on the trade stand at the Belron conference in Lisbon
Jordan discussing the research with delegates

Dywedodd Jordan Jenkins, gan dynnu sylw at arwyddocâd y digwyddiad, “Mae cymryd rhan yn y Gorau o Belron 2024 wedi bod yn gyfle anhygoel i ddangos yr ymchwil arloesol rydym yn ei gynnal yn WAGRC. Mae’n galonogol gweld y gymuned fyd-eang yn dod at ei gilydd i wthio ffiniau atgyweirio gwydr modurol. .”

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cynhadledd o safon fyd-eang gyda phrofiadau ac arddangosfeydd trochi. Ar stondin Ymchwil Belron®, ar y thema “Mae Atgyweirio Heddiw yn Atal Amnewid Yfory,” dangosodd Jordan a Kelvin yr offer diagnostig datblygedig a ddefnyddir yn WAGRC. Mae’r offer hyn yn ganolog i ddeall y difrod a achosir pan fydd carreg yn taro sgrin wynt, gan bwysleisio pwysigrwydd atgyweiriadau amserol.

Kelvin Donne from UWTSD discussing the research with delegates on the trade stand at the Belron conference in Lisbon
Kelvin Discussing the research with delegates

Ychwanegodd yr Athro Kelvin Donne, “Mae ein cydweithrediad â Belron® dros y 25 mlynedd diwethaf wedi bod yn allweddol wrth symud ein hymchwil ymlaen. Mae digwyddiadau fel y rhain yn ein galluogi i arddangos ein canfyddiadau a chyfrannu at y ddeialog fyd-eang ar atgyweirio a diogelwch gwydr modurol.”

Belron®, sy’n gweithredu mewn 39 o wledydd ar draws chwe chyfandir ac yn cyflogi tua 30,000 o bobl, yw grŵp mwyaf blaenllaw’r byd ym maes atgyweirio, amnewid ac ailgalibro gwydr cerbydau. Gan wasanaethu tua 15 miliwn o gwsmeriaid bob blwyddyn, mae Belron® yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi yn y diwydiant.

Ers dros ddau ddegawd, mae PCYDDS wedi partneru â Belron i gynnal ymchwil arloesol mewn gwydr modurol. Mae Canolfan Ymchwil Gwydr Modurol Cymru wedi’i lleoli yn Adeilad IQ y brifysgol yn SA1.  Yno, mae labordy balistig, a gomisiynwyd gan Belron®, yn ymchwilio i ddifrod effaith o gerrig ffordd ar sgriniau gwynt cerbydau. Mae’r cyfleuster unigryw hwn, gyda’i siambr darged y rheolir ei dymheredd, yn gallu efelychu amodau o -10 °C i 50 °C, gan ddarparu mewnwelediad heb ei ail i ymddygiad gwydr modurol o dan amodau amgylcheddol amrywiol.

Yn ogystal â chefnogi Belron®, mae WAGRC wedi cynnal ymchwil contract ar gyfer cleientiaid rhyngwladol, gan gynnwys Corning (UDA) ac AGC (Ewrop). Mae’r Athro Kelvin Donne hefyd wedi datblygu modelau cyfrifiadurol cymhleth o’r broblem o ardrawiad ar gyflymder uchel, a’r craciau dilynol sy’n deillio o’r ‘tolc’ cychwynnol.  

I gael rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth yng Nghanolfan Ymchwil Gwydr Modurol Cymru PCYDDS (WAGRC), e-bostiwch Kelvin neu Jordan ar kelvin.donne@uwtsd.ac.uk neu j.jenkins@uwtsd.ac.uk 

Jordan Jenkins from UWTSD encouraging a client to damage a windscreen on the trade stand at the Belron conference in Lisbon
Jordan encouraging a client to damage a windscreen!

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau