Skip page header and navigation

Mae pencampwr y gymuned LHDTQ+ a chynhyrchydd creadigol, Berwyn Rowlands, wedi’i wneud yn Gymrawd Er Anrhydedd yn seremoni raddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin heddiw.

Berwyn Rowlands a’r Athro Medwin Hughes yn ysgwyd llaw â’i gilydd ac yn edrych tuag at y camera.

Berwyn Rowlands yw sylfaenydd Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris, gŵyl ffilmiau byr LHDTQ+ yng Nghaerdydd sy’n dathlu ac yn hyrwyddo teitlau LHDTQ+ a gwneuthurwyr ffilm gyda negeseuon sy’n gadarnhaol ac yn galonogol. Mae hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r celfyddydau creadigol yng Nghymru.

Wrth dderbyn ei wobr dywedodd Bewyn Rolwands: “Rwy’n teimlo’n ostyngedig yn derbyn y gymrodoriaeth hon gan y Brifysgol ond ar yr un pryd yn falch iawn o gael fy nghydnabod fel hyn am fy nghyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru a gwelededd LHDTQ+ drwy Wobr Iris a phrosiectau eraill. Gan adlewyrchu ar y 40 mlynedd diwethaf, rwy’n teimlo’n falch fod Cymru heddiw yn wlad sy’n dathlu amrywiaeth – nid oedd hyn, o bosib, yn wir bob amser.”

Wrth gyflwyno Berwyn Rowlands i’r gynulleidfa, dywedodd Shone Hughes, Ymgysylltydd Staff y Brifysgol: “Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno Berwyn Rowlands i dderbyn cymrodoriaeth er anrhydedd y Brifysgol. Mae Berwyn wedi gwneud cyfraniad rhagorol i’r celfyddydau creadigol yng Nghymru yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y celfyddydau. Mae’n entrepreneur nad yw wedi bod ag ofn gwthio ffiniau ac nid yw’n syndod i mi ei fod wedi cael ei gydnabod â chymaint o ganmoliaeth. Fel cyd-frodor o Ynys Môn, gwn fod Berwyn wedi gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth i fywyd diwylliannol Cymru.”

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol David Hughes, Ynys Môn, dangosodd Berwyn ei ddawn entrepreneuraidd yn ifanc, gan sefydlu grwpiau’r Urdd yn ogystal â chylchgrawn tra oedd yn dal yn yr ysgol.

Tra’n byw yn Aberystwyth sefydlodd Gwmni Cadwyn, cwmni theatr-mewn-addysg a fu ar daith o amgylch Cymru gyda chynyrchiadau wedi’u comisiynu ac yn 1990 ar y cyd â chyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar y pryd, Alan Hewson, cynhyrchodd Ŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru hyd 1998. Yn 1995 cynhyrchodd y ddrama ar gyfer S4C o’r enw Llety Piod gyda Bill Nighy a Sandra Dickinson yn serennu.

Parhaodd dawn a chariad Berwyn at gyhoeddi o’i ddyddiau ysgol gyda theitlau fel Ffocws, cylchgrawn dwyieithog deufisol i’r diwydiant cyfryngau Cymraeg, o 1994 hyd 1998.

Ym 1997 fe’i penodwyd yn brif weithredwr Sgrîn, Asiantaeth y Cyfryngau, ac yn ystod ei gyfnod yn y swydd bu Sgrîn yn cydlynu’r gwaith o sefydlu gwasanaeth lleoli ffilmiau yng Nghymru, Comisiwn Sgrin Cymru a’r Archif Sgrin a Sain Genedlaethol mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu’n Gyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru rhwng 1989 a 1997.

Yn 2006 gadawodd Sgrîn a sefydlu The Festivals Company. Trwy’r cwmni hwn sefydlodd Wobr Iris, cystadleuaeth ryngwladol ar gyfer ffilmiau byr LGBTQ+ a ddyfernir yn flynyddol yng Nghaerdydd.

Mae The Festivals Company wedi mynd o nerth i nerth, gyda chydnabyddiaeth gyhoeddus yn cael ei dyfarnu i Berwyn trwy nifer o wobrau gan gynnwys cyfraniad eithriadol i fywyd LHDTQ+ yng Ngwobrau LHDT Q+2020. Mae wedi cael ei gydnabod fel person dylanwadol LHDTQ+ yng Nghymru, gan ennill lle ar Restr Binc y Western Mail bob blwyddyn ers cyhoeddi’r rhestr gyntaf yn 2015.

Yn 2015 cafodd hefyd ei restru ar Restr Pwer Celfyddydau Cymru fel un o hanner cant o bobl sy’n gwneud marc ar ddiwylliant Cymru oherwydd llwyddiant Gwobr Iris.

Cyflwynwyd iddo wobr yng Nghwobrau Dewi Sant am Ddiwylliant gan Brif Weinidog Cymru yn 2022 i gydnabod ei waith gyda Gwobr Iris.

Berwyn Rowlands gydag uwch gynrychiolwyr y Brifysgol, i gyda mewn gwisg academaidd ffurfiol.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau