Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi Pedr ap Llwyd FLSW, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru yn Athro Ymarfer.

Pedr ap Llwyd a’r Is-Ganghellor Medwin Hughes mewn gwisg raddio; mae Pedr ap Llwyd yn gwenu ac yn gwisgo tei pinc streipiog.

Cyflwynir y teitl ‘Athro Ymarfer’ i unigolyn i anrhydeddu a chydnabod y person hwnnw am ennill bri academaidd a/neu broffesiynol yn y disgyblaethau hynny sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y Brifysgol.

Pedr ap Llwyd yw Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe’i hapwyntiwyd i’r rôl yn 2019 wedi pedair blynedd fel Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell (2015-2019) a chyn hynny bu’n Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr Llywodraethiant rhwng 2003-2015). Bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr ar Gyngor Llyfrau Cymru rhwng 1990 a 2003.

Mae’n frodor o Benrhyndeudraeth ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Gogledd Cymru Bangor / Prifysgol Bangor ble enillodd raddau BA, DAA ac MA. Mae ganddo gymwysterau proffesiynol ym meysydd Adnoddau Dynol o Brifysgol De Cymru ac mewn Llywodraethiant Gyhoeddus. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cyfarwyddwr Anweithredol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac aelod o bwyllgor Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri.

Yn ei rôl fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, arweiniodd un o sefydliadau pwysicaf Cymru drwy gyfnod y pandemig gan ennill cydnabyddiaeth am lywio strategaeth drawsnewidiol ar gyfer y Llyfrgell. Ym mis Ionawr 2023, cafodd ei enwi yn un o 100 o Ysgogwyr Newid gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Llyfrgell wedi gweld datblygiadau pwysig dan ei arweinyddiaeth fel sefydlu Archif Ddarlledu Cymru. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst bydd yn cael ei urddo i’r Orsedd am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Mae ei arbenigeddau ym meysydd Llyfrgellyddiaeth, Rheoli Gwybodaeth, Archifau, Addysg, Ymchwil, Treftadaeth, Polisi Cyhoeddus ac Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus.

Meddai’r Athro  Pedr ap Llwyd:

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi fy mhenodi’n Athro Ymarfer ac rwy’n gobeithio y gall fy nghefndir proffesiynol ym meysydd llywodraethiant, arweinyddiaeth a’r sector treftadaeth yn ehangach ddod â gwerth ychwanegol i’r cydweithio agos sydd rhyngom fel sefydliadau cenedlaethol Cymreig.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, CBE Is-Ganghellor:

“Mae’n bleser gennyf groesawu Pedr ap Llwyd fel Athro Ymarfer i’r Brifysgol. Rwy’n hyderus y bydd ei arbenigeddau a’i brofiad sylweddol yn gaffaeliad mawr wrth i’n sefydliadau adeiladu ar y berthynas arbennig sydd rhyngom. Mae Pedr yn adnabyddus ac yn uchel iawn ei barch yng Nghymru fel un sydd wedi gwneud cymaint o waith i hyrwyddo’r gwerthoedd sydd yn gyffredin i’n sefydliadau.”

Meddai’r Athro Elwen Evans KC, Darpar Is-Ganghellor:

“Edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Pedr ap Llwyd fel arweinydd sefydliad cenedlaethol sydd â gwreiddiau dwfn wrth wasanaethu pobl Cymru, Yn wir, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Llyfrgell i Gymru a’r Byd.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon