Skip page header and navigation

Gwahoddwyd perfformiwr iaith a llafarganu sy’n byw yn yr Unol Daleithiau i siarad â myfyrwyr newydd am dreftadaeth ddiwylliannol yn rhan o Ddathliadau Mis Hanes Pobl Ddu.

Amarachi Attamah yn gwisgo ffrog wen gyda choron o gleiniau coch a chadwyn o gleiniau coch.

Mae Amarachi Attamah, sy’n byw yn Efrog Newydd ond sy’n hanu’n wreiddiol o  Nigeria, yn berfformiwr ac yn eiriolwr dros gynaliadwyedd iaith a diwylliant,  gan ganolbwyntio’n enwedig ar iaith de ddwyrain Nigeria, sef Igbo.

Fe’i gwahoddwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i rannu cyflwyniad ar ‘Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol’ gyda myfyrwyr newydd y flwyddyn gyntaf dros ddau ddiwrnod a hwyluso rhai gweithdai yn ymwneud â’r pwnc gan gynnwys elfennau perfformiadol. Y gweithdai hyn oedd cychwyn rhaglen y Brifysgol o ddigwyddiadau i ddathlu Hanes Pobl Ddu y mis hwn.

Yn nhirwedd y byd modern sy’n newid yn barhaus, mae ‘Diwylliant’ yn gysyniad dynamig sy’n rhoi ystyr i bobloedd ar draws y blaned. Gofynnodd Amarachi i’r myfyrwyr ystyried sut y gallwn ddefnyddio celf a pherfformiad i archwilio treftadaeth, hunaniaeth a’r hyn mae diwylliant yn ei olygu i unigolion.

Trwy ymarferion i ddarlunio ‘yr hyn a olygai cartref iddyn nhw’, gan symud eu gweithiau celf a’u cyrff o gwmpas yr ystafell, gadael fynd a chaniatáu i weithiau celf newid dwylo, bu myfyrwyr newydd BA Celf Gain yn archwilio diwylliannau ei gilydd a’u diwylliannau eu hunain ar ddiwrnod cyntaf eu gradd israddedig.

Yna bu Amarachi’n gweithio gyda myfyrwyr BA Eiriolaeth, BA Cymdeithaseg ac MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, gan eu hannog i gymryd rhan mewn trafodaethau amserol diddorol a chael y mynychwyr i ystyried treftadaeth ddiwylliannol yn y ffordd y maent yn meddwl am eu hastudiaethau wrth symud ymlaen.

Roedd pob myfyriwr yn dyst i berfformiad pwerus Amarachi yn llafarganu barddoniaeth Igbo, a wnaeth i’r ystafell ddistewi’n llwyr a gyrru ias i lawr cefn y gynulleidfa.  

Cyfranogion gweithdy yn dal darnau o bapur maint A2 i fyny sydd â sgetsys arnynt.

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a Chyfryngau yn y Drindod Dewi Sant: “Yng Ngholeg Celf Abertawe rydym yn falch o ddarparu cyfleoedd dysgu amrywiol a gwahanol i fyfyrwyr, felly roeddem wrth ein bodd i groesawu Amarachi o’r Unol Daleithiau i ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu mewn cydweithrediad â Race Council Cymru.

“Mae gwaith Amarachi yn arwyddocaol iawn, ac yn sgil ei gwaith mae wedi darlithio ym mhrifysgolion gorau America gan gynnwys Yale a Harvard. Mae Coleg Celf Abertawe wedi dod yn gyntaf yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU am lawer o’n rhaglenni yn Nhablau Cynghrair y Guardian 2023 – anrhydedd eithriadol y gellir ei gyflawni trwy roi profiadau cofiadwy sy’n ysgogi’r meddwl i fyfyrwyr fel yr un hwn. Diolch am rannu gyda ni, Amarachi.”

Meddai’r Athro Uzo Iwobi CBE, Is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant: “Roeddem wrth ein bodd i wahodd Amarachi Attamah, Perfformiwr Llafarganu gwych ac adnabyddus yn yr iaith Igbo, i’r Drindod Dewi Sant, i rannu ei phrofiadau artistig a chreadigol unigryw a nodedig gyda myfyrwyr.

“Yn ddiweddar mae Amarachi wedi cwblhau cymrodoriaeth berfformio pedwar mis gyda’r British Royal National Theatre yn y DU, gan berfformio yn Nigeria, Ghana, De Affrica ac America. Rwy’n falch iawn bod Amarachi wedi ysbrydoli’r myfyrwyr gyda’i hangerdd am fynegiant creadigol yn ei mamiaith Igbo, a bydd effaith hynny’n treiddio i’w dealltwriaeth hwy o ieithoedd a diwylliannau eraill.”

Golwg agos o sgets o wyneb benyw.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon