Skip page header and navigation

Yr wythnos hon, gwnaeth 12 o weithwyr proffesiynol ifanc o fyd lletygarwch gystadlu am deitl pencampwr Cymru yn rownd ranbarthol Cymru cystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc (CIGI) y Byd, a gynhaliwyd yn Abertawe gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Carys Webster (Gweinydd Buddugol) a Sam Everton (Cogydd Buddugol) yn dal eu tabledi gwobr o lechfaen ac yn gwenu ar gyfer y camera.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth gan PCYDDS gyda chefnogaeth y prif noddwyr, sef Compass Cymru a Stadiwm Swansea.com, ar 10–11 Medi yng Nghampws Glannau SA1 y brifysgol a stadiwm Swansea.com.

Ar ôl cwrdd â’u cyd-gystadleuwyr a chymryd rhan mewn diwrnod o weithdai, ar yr ail fore cafodd y cogyddion a oedd yn cystadlu bedair awr fer i baratoi cinio tri chwrs o’r dechrau ar gyfer bwrdd o feirniaid gwadd craff, wrth i’r gweinyddion a oedd yn cystadlu baratoi’r ystafell fwyta, ateb cwestiynau gan y beirniaid a gweini’r pryd a’r diodydd a baratowyd yn ddiffwdan.

Yn hwyrach y noson honno, yn dilyn raffl ar gyfer partner elusen y gystadleuaeth, sef The Burnt Chef Project, a gododd dros £1000 i gefnogi iechyd meddwl yn y diwydiant Lletygarwch, cyhoeddwyd y canlyniadau yn ystod cinio gala yn stadiwm Swansea.com.  

Y cogydd buddugol oedd Sam Everton, sy’n ddarlithydd Lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion ac yn gweithio’n rhan amser yng nghegin Y Seler yn Aberaeron, a’r gweinydd buddugol oedd Carys Webster, sy’n Chef-de-Rang (gweinydd adran) yn Grove of Narberth.

Yn ail, roedd y cogydd Alex Dunham a’r gweinydd Adele Sutherland, ac yn drydydd roedd y cogydd Ellie Osborne a’r gweinydd Robbie Hughes. Bu’r gystadleuaeth yn eithriadol o agos eleni, a chymeradwyodd y beirniaid yr holl gystadleuwyr am y sgiliau a ddangoswyd ganddynt dros y deuddydd.

Meddai Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwraig y rhaglenni Lletygarwch yn PCYDDS: “Diben y gystadleuaeth CIGI yw addysgu a chefnogi datblygiad pobl ifanc, p’un a ydynt yn dysgu mewn lleoliad proffesiynol neu o fewn amgylchedd Addysg Uwch.

“Roedd yn wych gweld myfyriwr o’n rhaglen Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yn cyrraedd rownd derfynol Cymru eleni, yn ogystal â chystadleuwyr o sefydliadau y mae gennym gysylltiadau cryf iawn gyda nhw a fydd yn darparu lleoliadau gwaith ar gyfer ein cyrsiau. Mae adeiladu rhwydweithiau proffesiynol mor bwysig  yn y diwydiant hwn ac mae’n bleser gennym yn PCYDDS ddod â’r cystadleuwyr at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad hwn a’u helpu i ymestyn eu potensial.”

Mae fflam tair troedfedd yn saethu i fyny o badell sy’n cael ei dal gan y cogydd Ellie Osborne.

Meddai Carys Webster, enillydd y categori Gweinydd, “Rwy’n dal i fod mewn sioc ar ôl ennill CIGI Cymru. Des i’r gystadleuaeth i ymestyn fy ngwybodaeth a dysgu cymaint â phosibl, ac rwyf mor ddiolchgar i fod wedi cael y cyfle i gystadlu ochr yn ochr â chymaint o bobl anhygoel a chlywed eu hanesion lletygarwch yn rownd genedlaethol Cymru. Dydw i ddim yn meddwl y bydd fy llwyddiant yn fy nharo’n llawn am rai dyddiau eto, ond rwy’n gwybod bod arna’i eisiau gwneud Cymru’n falch yn rownd derfynol y byd yn Monaco, a gwneud ein gorau glas fel tîm!”

Meddai Sam Everton, y cogydd buddugol, “Wrth wneud cais i’r gystadleuaeth, dim ond rhywfaint o ddatblygiad personol a hwyl roeddwn yn ei ddisgwyl. Roedd ennill yn fonws enfawr! Mae’n fraint gen i gynrychioli Cymru ar y llwyfan fyd-eang ac rwy’n hapus iawn i fod mewn pâr gyda Carys. Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda hi i ddarparu gwasanaeth a bwyd o’r radd flaenaf – a’r gobaith yw y gallwn ddod â thlysau pencampwriaeth y byd yn ôl i Gymru.”

Meddai Jane Byrd, Rheolwr Gyfarwyddwr Compass Cymru, “Mae’r gystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc (CIGI) yn gyfle arbennig i weithwyr proffesiynol y diwydiant lletygarwch yng Nghymru ddangos eu sgiliau, a bu’n anrhydedd cefnogi’r beirniadu eleni. Rydym ni yn Compass Cymru yn ymrwymo i frolio ein talent a chroesawu mwy o bobl i’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru, a dyna holl ddiben CIGI.

“Rwyf wedi fy syfrdanu gan y dalent rwyf wedi’i gweld. Mae’r dyfodol yn ddisglair i bawb a fu yn y rownd derfynol ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Cynhelir rownd derfynol y byd 2023 yn Monaco ar 23–24 Tachwedd. Bydd cystadleuaeth ranbarthol Cymru y flwyddyn nesaf yn agor yn y gwanwyn, a chroesawir ceisiadau gan weithwyr proffesiynol lletygarwch o dan 28 oed sy’n byw a gweithio yng Nghymru.

Mae PCYDDS yn cynnig ystod o raglenni cyffrous ym meysydd twristiaeth, digwyddiadau a lletygarwch sy’n darparu cyfleoedd cyflogadwyedd a’r sgiliau gwasanaethau gwestai blaengar sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad fyd-eang sy’n tyfu’n gyflym. Mae pob rhaglen yn ffocysu ar y diwydiant, gan helpu i fyfyrwyr adeiladu rhwydweithiau gyrfa eithriadol gydag arweinwyr y farchnad ledled y byd.

I gael rhagor o wybodaeth, porwch dudalennau cyrsiau Lletygarwch y Brifysgol.

Un ar ddeg cystadleuydd mewn gwisg wen y cogydd neu deis a ffedogau du’r gweinydd.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau