Skip page header and navigation

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r ail brifysgol uchaf* yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw (10 Awst 2023).

Adeilad Alex yn Abertawe, y cwad a’r ffynnon ar gampws Llambed, a’r Hen Adeilad ar gampws Caerfyrddin.

Mae’r Arolwg Cyffredinol o Fyfyrwyr annibynnol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu cyrsiau a rhoi eu barn ar ystod o bynciau gan gynnwys addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth a sut maent yn teimlo y gwrandawyd arnynt yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.

Y Drindod Dewi Sant oedd y Brifysgol orau yng Nghymru o ran ‘Cyfleoedd Dysgu’ ac am ‘gyfathrebu cymorth lles meddwl’. Yn ogystal, y Drindod Dewi Sant oedd yr ail brifysgol uchaf yng Nghymru ar gyfer ‘asesu ac adborth’ a ‘llais y myfyriwr’.

Wrth siarad am y canlyniadau eleni, dywedodd yr Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-ganghellor Profiad Academaidd y Brifysgol:

“Rydym yn croesawu’r canlyniadau hyn mewn meysydd o bwysigrwydd allweddol ar gyfer profiad academaidd myfyrwyr.

Yn y Drindod Dewi Sant, rydym bob amser yn anelu at ddarparu amgylchedd deniadol a chefnogol i’n myfyrwyr ond yn bennaf oll rydym am i’n myfyrwyr fwynhau eu hamser gyda ni.

Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad staff ar draws y sefydliad. Mae ein holl staff yn angerddol am addysgu ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.”

Mae’r brifysgol hefyd yn dathlu sawl llwyddiant ar lefel pwnc mewn meysydd fel seicoleg, chwaraeon, cwnsela, gwaith cymdeithasol ac astudiaethau iechyd.

*I fyfyrwyr ag addysgwyd gan y darparwr.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon