Skip page header and navigation

Yr wythnos diwethaf, croesawodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) dros 50 o fyfyrwyr o MADE Cymru i’w hadeilad IQ yn Abertawe. Gwahoddwyd y myfyrwyr i gwrdd â’u cyd-fyfyrwyr yn bersonol, gan mai ar-lein y cynhelir dosbarthiadau Diwydiant 4.0 ac Arloesedd. Roedd hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr rwydweithio â’u cyfoedion ac archwilio cyfleusterau gweithgynhyrchu’r Brifysgol. Roedd rhai o’r myfyrwyr wedi teithio o bob rhan o Gymru, gan gynnwys cyn belled â Chonwy.

Croesawodd PCYDDS dros 50 o fyfyrwyr o MADE Cymru i adeilad IQ yn Abertawe. Grŵp o bobl yn sefyll ar waelod grisiau yn IQ.

Denodd y digwyddiad ystod amrywiol o fusnesau, o fusnesau newydd bychain i fusnesau sefydledig. Roedd y mynychwyr yn cynnwys Diamond Centre Wales, Brecon Water Llywodraeth Cymru, Hiut Denim, a Do Lectures. Cafodd y myfyrwyr gyfle i ymgysylltu â’i gilydd a rhannu profiadau o’u gwahanol sefydliadau.

Croesawodd y Dirprwy Is-ganghellor Barry Liles y myfyrwyr i’r campws a bu’n sôn am arwyddocâd MADE Cymru o ran adeiladu gweithlu medrus. Pwysleisiodd bwysigrwydd rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i unigolion er mwyn ysgogi newid yn eu sefydliadau.

Aethpwyd â’r myfyrwyr ar daith o amgylch cyfleusterau gweithgynhyrchu’r Brifysgol, gan gynnwys y Lab Roboteg, yr Ystafell Drochi newydd, a CBM Cymru. Mae gan y Labordy Roboteg y dechnoleg ddiweddaraf, sy’n galluogi myfyrwyr i ymgysylltu â systemau robotig ac awtomataidd. Mae’r Ystafell Drochi newydd yn cynnig profiad dysgu unigryw, gan ganiatáu i ymwelwyr weithio gydag offer realiti rhithwir. Mae CBM Cymru yn darparu arbenigedd ym maes deunyddiau uwch ac yn cynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr gyda thechnoleg flaengar.

Mae MADE Cymru yn brosiect a ariennir gan Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ers ei lansio yn 2019, mae’r prosiect wedi partneru â dros 140 o fusnesau ac mae dros 400 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar y cyrsiau. Cynlluniwyd y rhaglen er mwyn rhoi sgiliau ymarferol a gwybodaeth i unigolion, y bydd modd iddyn nhw eu cymhwyso yn eu swyddi o ddydd i ddydd. Y nod yw cael effaith drawsnewidiol ar gynnyrch, prosesau a chynhyrchiant busnesau Cymru.

Grŵp o bobl yn edrych ar y sgriniau yn yr ystafell Drochi yn PCYDDS.

Mae’r cyrsiau a gynigir gan MADE Cymru eisoes wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau Cymru, gyda rhai yn adrodd am fanteision economaidd sylweddol. Mae’r rhaglen wedi grymuso unigolion i ddod yn gyfryngau ar gyfer newid, gan ysgogi arloesedd a thwf yn eu sefydliadau.

Bu’r ymweliad yn llwyddiant mawr ac mae’n cefnogi ethos MADE Cymru o gydweithio a rhwydweithio er mwyn creu newid.

Dywedodd Chris Probert, Arbenigwr Arloesedd yn Llywodraeth Cymru (a myfyriwr MADE Cymru), “Roedd yn wych bod yn ôl yn PCYDDS er mwyn cwrdd â’r staff a chyd-fyfyrwyr, rhai rwyf wedi’u hadnabod ers dros 2 flynedd ond nad ydw i erioed wedi cyfarfod â nhw wyneb yn wyneb. Er fy mod wedi ymweld â’r campws sawl gwaith yn y gorffennol, roedd yna nifer o gyfleusterau newydd nad oeddwn wedi’u gweld o’r blaen felly roedd hynny’n ddefnyddiol. Mae amrywiaeth y sefydliadau sy’n elwa o MADE Cymru yn dod o bob rhan o Gymru, felly mae treulio amser yn rhannu ein profiadau a’n gwybodaeth o werth sylweddol. Yr hyn sy’n amlwg gan bawb yn yr ystafell yw’r angerdd sy’n cael ei rannu dros Gymru a gweithgynhyrchu yng Nghymru er mwyn iddo fod y gorau y gall fod ac mae MADE Cymru yn gatalydd ar gyfer hyn.”

Dywedodd Lowri Roberts, Busnes Cymru (a myfyriwr MADE Cymru), “Digwyddiad ysgogol arall wedi’i drefnu gan dîm MADE Cymru! Nid yn unig roedd hi’n wych profi sut y gall pob cyfleuster academaidd gefnogi gweithgynhyrchu, ond roedd yn arbennig gallu cydweithio â’r holl fyfyrwyr, o sectorau niferus sy’n defnyddio eu DPP i gydweithio ac i fod o fudd i dwf busnes. Bydd y buddsoddiad yn yr Ystafell Drochi mor ddefnyddiol ac yn sicr dyma oedd uchafbwynt y diwrnod!”

Dywedodd Richard Burnell, Arweinydd Gwelliant Parhaus, Safran Seats: “Cefais y pleser o ymweld â PCYDDS am y tro cyntaf heddiw i gwrdd, o’r diwedd, â chyd-fyfyrwyr a thîm MADE Cymru. Roedd yn wych gweld peth o’r gwaith arbennig mae’r Brifysgol yn ei wneud, a gwnaeth y cyfleusterau, y dechnoleg a’r bobl sydd ganddyn nhw yno argraff fawr arna’ i!

“Rwy’n gobeithio ymweld eto yn y dyfodol agos er mwyn manteisio ar y cyfleusterau anhygoel i’m cefnogi gyda fy mhapur traethawd hir a hefyd i feithrin y berthynas waith wych sy’n bodoli rhwng y Brifysgol a Safran Seats GB.”

Dywedodd Amanda Hughes, Rheolwr Prosiect PCYDDS: “Roeddwn yn gyffrous iawn wrth drefnu’r digwyddiad hwn a gweld pawb yn dod at ei gilydd ac yn rhyngweithio. Roedd yn bleser mawr cyfarfod â’r holl fyfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen hon gan MADE Cymru. Wnaeth ein tîm erioed ddychmygu’r dylanwad anhygoel y byddai’n ei gael, nid yn unig ar y myfyrwyr ond hefyd ar y diwydiant cyfan. Mae wedi bod wir yn fraint cael bod yn rhan o raglen mor ysbrydoledig.”

Dywedodd Barry Liles MBE, Dirprwy Is-ganghellor PCYDDS: “Roeddwn yn falch iawn o weld y nifer sylweddol o fyfyrwyr a fynychodd yr ymweliad â PCYDDS heddiw. Canlyniad annisgwyl y rhaglen fu gwylio myfyrwyr o sectorau a rhanbarthau amrywiol o Gymru yn dod at ei gilydd i gydweithio ac ymgymryd â phrosiectau ar y cyd. Mae effaith y cyrsiau hyn ar ddiwydiant a’u sylfaen wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Mae’r rhaglen, mae’n amlwg, wedi mynd y tu hwnt i ddysgu confensiynol.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, e-bostiwch MADE@pcydds.ac.uk os gwelwch yn dda.

Grŵp o bobl yn sefyll ac yn siarad yn adeilad IQ PCYDDS.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau