Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Saint David wedi creu Gerddi Coffa ar draws ei champysau yn Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe cyn Sul y Cofio sy’n nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar 11 Tachwedd 1918.

Twmpath gwyrdd wedi’i addurno â chroesau gwyn, silwetau du o filwyr, a phabïau coch mawr wedi’u paentio â chwistrell ar y glaswellt.
Remembrance Garden in Lampeter

Mae’r Gerddi yn cynnwys ffigyrau o Tomi, croesau â thorchau a phabïau dur a gellir eu gweld o amgylch Adeilad Dewi Sant yn Llambed, Yr Egin a  Chanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin ac o amgylch Y Fforwm ac adeilad IQ yn Abertawe. Bydd adeiladau’r Brifysgol hefyd yn cael eu goleuo yn goch.

Ail-grewyd y gosodiadau celf eleni gan Dîm Gweithrediadau’r Brifysgol gan gynnwys Stuart Tawse a wasanaethodd yn y 5ed Bataliwn Catrawd Frenhinol y Ffiwsilwyr, Gareth Williams, Rhodri Davies, Bleddyn Edwards yn ogystal Neal Summerfield a thîm y gerddi.

Croesau bach gwyn a silwetau metel du o filwyr Prydeinig y Rhyfel Byd 1af yn addurno darn o laswellt o flaen Llyfrgell y Fforwm.
Remembrance Garden in Swansea

Gellir rhoi rhodd i Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig drwy wefan y Lleng Brydeinig.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau