Skip page header and navigation

Mae Gareth Howard yn Rheolwr Cydlynu Contractau yn TATA Steel ac mae wedi cyflawni carreg filltir sylweddol yn ei daith broffesiynol trwy raddio â rhagoriaeth o’r MA mewn Arfer Proffesiynol gydag Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) yn y Drindod Dewi Sant.

Gareth Howard mewn gŵn a het academaidd yn sefyll o flaen yr Hen Adeilad, Caerfyrddin.

Cafodd penderfyniad Gareth Howard i ddilyn y cwrs hwn ei ysbrydoli gan brofiadau ardderchog rhai o’i gydweithwyr a oedd wedi’i ddilyn yn flaenorol, ond hefyd gan aliniad di-dor y cwrs â galwadau ei gyfrifoldebau dyddiol yn TATA Steel.

Bu’r cwrs yn hwb i dwf proffesiynol Gareth, gan gyfoethogi ei ddealltwriaeth a rhoi mewnwelediadau newydd iddo ar agweddau hanfodol ar ei rôl. Fe wnaeth cynnwys y cwrs sy’n procio’r meddwl herio ei arferion gwaith presennol, gan ei annog i archwilio dulliau gwahanol a mwy effeithiol. Gyda’i bwyslais ar ddysgu ymarferol a pherthnasedd yn y byd go iawn, caniataodd y cwrs i Gareth integreiddio damcaniaeth i’w waith bob dydd yn ddidrafferth. Mae’r wybodaeth a gafodd wedi’i rymuso i wynebu heriau gyda phersbectif newydd, gan wneud penderfyniadau gwybodus sy’n ysgogi canlyniadau positif ar gyfer ei dîm a’r sefydliad.

“Nid oedd y cwrs yn benodol i’m rôl, a’i gwnaeth yn anodd ei egluro i bobl nad oeddent wedi dilyn y cwrs. Fodd bynnag, oherwydd natur yr astudiaethau a oedd yn berthnasol i’m rôl a hunanadfyfyrio yn benodol, gallais gymhwyso’r ddamcaniaeth a’r modelau i sefyllfaoedd yn fy ngweithle. Felly, er nad oedd y cwrs yn benodol i’m rôl, gallais ei deilwra’n naturiol i’m gweithle oherwydd llwyddais adnabod sefyllfaoedd ac arferion gwaith i weddu i bob modwl ac yna dadansoddi’r meysydd hynny’n fwy manwl.

“Cefais gyfle yn rhan o’r prosiect dysgu seiliedig ar waith i ymwneud â nifer fawr o bobl ar draws y diwydiant i gael gwell dealltwriaeth o ganfyddiadau pobl o broses bresennol yn gysylltiedig â’m hadran. Roedd hyn yn golygu ymgysylltu â rhanddeiliaid lluosog i gasglu gwybodaeth ddiddorol iawn i’w defnyddio yn y gweithle er mwyn gwella’r polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol.”

Mae’r cwrs Arfer Proffesiynol, sy’n uchafbwynt mewn datblygiad proffesiynol, wedi’i guradu â chyfuniad unigryw o fodylau sy’n benodol i arfer gwaith, prosiectau seiliedig ar waith, ac ymchwil y dysgwyr eu  hunain. Gydag ymrwymiad diwyro i’w dwf personol a gyrfaol, fe wnaeth Gareth ymhel â phob agwedd ar y cwrs yn angerddol, gan harneisio ei botensial i ddatblygu ei ddull gwaith o ddydd i ddydd, mewn perthynas â’i sgiliau arwain a rheoli prosiect yn arbennig.

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i adolygu fy arferion gwaith arferol. Mewn rhai achosion, atgyfnerthodd fy nulliau, ond fe wnaeth fy helpu hefyd i edrych ar ffyrdd gwahanol o weithio i gyflawni canlyniadau trwy sgiliau arwain mwy effeithiol neu reoli’r amrywiaeth o sefyllfaoedd rwy’n dod ar eu traws mewn rôl go amrywiol yn y busnes.”

Cyfyngodd y pandemig ar gyfleoedd Gareth i ryngweithio wyneb yn wyneb, ond fe wnaeth ei ddarlithwyr sicrhau nad oedd fyth yn teimlo’n anghysylltiedig â’i weithgareddau addysgol. Wrth iddo adfyfyrio ar ei brofiad, mae Gareth yn cydnabod yr effaith ddwys y cafodd y cymorth ar-lein ar ei berfformiad academaidd. Ychwanega:

“Roedd cydbwyso cyfrifoldebau teuluol, yn ogystal â gwaith ac astudio, yn anodd ar adegau, ond diolch byth cefais gymorth da gan fy nhiwtoriaid ac fe reolais fy amser yn eithaf da drwy gydol y cwrs, sy’n rhan hanfodol o fedru dilyn y math hwn o astudio yn llwyddiannus yn fy marn i.”

Teimla Gareth fod y cwrs wedi’i helpu i ddatblygu fel unigolyn o fewn y gweithle.

“Mae’r gwaith a wnaed mewn perthynas â’r cymhwyster hwn eisoes wedi fy helpu i adfyfyrio ar rai o’m harferion gwaith personol ac adrannol, gan edrych ar bethau o safbwynt gwahanol. Fodd bynnag, rwy’n teimlo yn bennaf ei fod wedi rhoi hyder i mi fod y ffordd rwy’n mynd at fy rôl, a’r adnoddau a’r technegau rwy’n eu defnyddio, yn effeithiol yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd. Roedd elfen adfyfyriol y cwrs yn anodd, ond trwy fynd drwyddo, rwy’n teimlo fy mod i wedi agor fy llygaid i dechnegau a dulliau ychwanegol a fydd, heb amheuaeth, yn parhau i’m helpu trwy weddill fy ngyrfa.

“Rwy’n teimlo ei fod wedi rhoi dealltwriaeth fwy trylwyr i mi o dechnegau ymchwil ac wedi herio rhai o’m credoau gwreiddiol gan agor fy meddwl i ffyrdd gwahanol o ddelio â phobl yn y gweithle, a sefyllfaoedd hefyd. Mae hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi fod yr hyn y bues i’n ei wneud cyn y cwrs yn cyd-fynd â rhai o’r safbwyntiau damcaniaethol mewn gwirionedd, heb i mi wybod hynny ar y pryd!”

Mae cyraeddiadau Gareth Howard yn adlewyrchu ymrwymiad diwyro TATA Steel i feithrin diwylliant o ddysgu a thwf proffesiynol parhaus ymhlith ei weithwyr. Mae ei lwyddiant yn ysbrydoliaeth i eraill, gan arddangos y canlyniadau go arbennig y gall ymroddiad a dyfalbarhad eu cyflawni.

Meddai Lowri Harris, Darlithydd mewn Arfer Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae taith Gareth drwy’r MA mewn Arfer Proffesiynol yn enghreifftio grym dysgu seiliedig ar waith a’i effaith drawsnewidiol. Gan ddefnyddio ei brofiad helaeth yn Tata Steel, fe wnaeth Gareth integreiddio’i wybodaeth a’i arbenigedd caffaeledig i’w astudiaethau’n ddidrafferth, gan ennill clod haeddiannol am ei gyraeddiadau proffesiynol. Gyda llygad craff am ddatblygiad sefydliadol, aeth prosiect dysgu seiliedig ar waith Gareth i’r afael â phwnc o berthnasedd sylweddol, gan gynnig buddion go iawn i’r sefydliad a gwella ei weithrediadau i’r dyfodol. Mae ymrwymiad Gareth i effaith go iawn ac ychwanegu gwerth yn brawf o botensial enfawr addysg ymarferol wedi’i theilwra.”

Byddai Gareth yn annog eraill i astudio ar gyfer cymhwyster mewn Arfer Proffesiynol. Meddai:

“Byddwn yn argymell y cwrs a thîm ACAPYC. Byddwn yn cynghori unrhyw ddarpar fyfyriwr i fod yn agored i newid ac, yn enwedig mewn perthynas ag elfen adfyfyriol y cwrs, i fod yn onest gyda’i hun er mwyn gwneud yn fawr ohono. Mae adfyfyrio ar eich hun yn beth anodd ei wneud, ond pan fyddwch chi’n cyrraedd yno, gall fod yn fuddiol iawn.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau