Rhestr fer wedi’i chyhoeddi ar gyfer Sioe Ddylunio Graddedigion Fyd-eang
Mae pedwar o fyfyrwyr sy’n graddio o’r Drindod Dewi Sant wedi’u cynnwys ar restr fer gan arbenigwyr y diwydiant am le ar y Sioe Ddylunio Graddedigion Fyd-eang, mewn cydweithrediad â’r brand ffasiwn, Gucci.
![Poster: Pleidlais gyhoeddus nawr ar agor – #globaldesigngraduateshow – Arts Thread mewn cydweithrediad â Gucci.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/shortlist-revealed-for-global-graduate-design-show.jpg?h=b6717701&itok=CvzDFoSH)
Mae Dela Ball, Haiyun Yang, Molly Ashton a Seren Willicombe wedi diogelu eu lle ar y rhestr ar ôl cyflwyno eu gwaith gradd terfynol i banel o arbenigwyr creadigol byd-eang.
Mae’r pleidleisio wedi dechrau, a gall y cyhoedd bleidleisio dros un person ym mhob categori. Daw’r pleidleisio i ben ar 11eg Hydref.
Archwiliwch waith bob un o artistiaid PCYDDS yn y dolenni isod:
Molly Ashton, BA Crefftau Dylunio – Icarus
Seren Willicombe, BA Ffotograffiaeth – Valley of the Willows
Dela Ball, BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau – The Sacred Talisman
Haiyun Yang, MA Ffotograffiaeth – Human Theatre
Gallwch bori’r cyrsiau creadigol sydd ar gael yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn pcydds.ac.uk
Rhagor o wybodaeth:
Sioe Raddedigion Dylunio Fyd-eang 2023 mewn cydweithrediad â Gucci yw pedwerydd cyhoeddiad y fenter hon ac roedd hi ar agor i bob myfyriwr celf a dylunio a raddiodd yn y flwyddyn 2022-23 (israddedig, graddedig ac ôl-raddedig) mewn unrhyw ddisgyblaeth greadigol, unrhyw le yn y byd.
Eleni lanlwythodd dros 5000 o fyfyrwyr eu prosiectau diwedd blwyddyn, sy’n gwneud hon yr arddangosfa ar-lein fwyaf o bobl greadigol sy’n graddio yn y byd.
Eleni, bydd y panel o feirniaid uchel eu parch yn dewis eu hoff artistiaid a dylunwyr, a chyhoeddir canlyniadau pleidlais y beirniaid a’r bleidlais gyhoeddus ar ddydd Llun, 16eg Hydref 2023.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384467078