Skip page header and navigation

Mae Dr Ross Head, PCYDDS, a’r tîm yng Nghanolfan Arloesi Cerebra (CIC) y Brifysgol wedi helpu Rhys i ddarganfod pleser padlfyrddio gydag addasiad clyfar!

Yn dal rhwyf, mae Dr Ross Head yn sefyll wrth ymyl Rhys sy’n gwenu ac yn eistedd ar sedd letem ar badlfwrdd.

Mae Rhys yn ei arddegau ac mae ganddo gyflwr genetig cynyddol sy’n effeithio ar ei draed a’i ddwylo a’i gryfder corfforol. Er ei fod wedi rhoi cynnig ar syrffio, ac mae’n mwynhau hynny pan fo’r môr yn dawel, mae gwlychu a mynd yn oer yn anodd iddo. Gwnaeth ei fam, Adele, gysylltu â’r Ganolfan Arloesi i weld a fyddai’n bosibl iddynt ddyfeisio cynllun i helpu Rhys i fwynhau’r môr mewn ffordd wahanol - trwy ei helpu i ddefnyddio padlfwrdd i gael hwyl gyda’i ffrindiau.

Esboniodd mam Rhys, Adele, nad oes gan Rhys yr un opsiynau â phlant eraill neu nid yw’r cyfle i gymryd rhan mewn pethau arferol fel gweithgareddau yn hygyrch iddo a bod y teulu’n gallu teimlo’n ar wahân i weddill cymdeithas ar brydiau.

Mae Dr Ross a’i dîm yn enwog am eu haddasiadau creadigol, wedi addasu bwrdd syrffio cynt i alluogi i blant ag anableddau brofi pleser syrffio’n ddiogel, felly doedd dim ffordd yn y byd roeddynt am wrthod yr her hon!

Oherwydd bod ffyrfder cyhyrau Rhys yn isel, esbonia Dr Ross Head, roedd dylunio rhywbeth a fyddai’n caniatáu iddo eistedd yn gyffyrddus ac, yn fwy pwysig, yn ddiogel yn eithriadol o bwysig. Ar ôl gwaith peirianneg clyfar, dyluniodd y tîm CIC sedd ar siâp lletem a osodir ar badlfwrdd cyffredin ac yn caniatáu i Rhys eistedd yn gyffyrddus a help cymorth.

Mae clymu fflotiau bob ochr i’r bwrdd yn ychwanegu at y diogelwch, gan sicrhau bod y padlfwrdd yn llai tebygol o droi drosodd. Roedd y dyluniad yn bodloni anghenion Rhys yn berffaith am y gellir addasu dyluniad y sedd yn ôl faint o gymorth sydd ei angen ar Rhys unrhyw ddiwrnod penodol – os nad yw’n teimlo’n wych, gellir gostwng y gadair nôl er mwyn rhoi gwell cefnogaeth.

Cymeradwyodd Adele y bwrdd gan ddweud: “Yr hyn roeddwn yn ei hoffi am y padlfwrdd yw bod risg isel iawn i Rhys ddisgyn oddi arno. Am ei fod yn gallu gwisgo ei gymhorthion clywed a’i sbectol mae’n gallu gweld y bywyd gwyllt ac mae’n cael gwell profiad yn y dŵr. Mae gallu mynd allan a joio mor dda i’w iechyd a llesiant. Mae gallu mynd allan ar y bwrdd yn helpu i Rhys gadw’n heini; mae’n ei gadw’n gryf ac yn cynnal ei lesiant corfforol a meddwl. Mae iddo nifer o fuddion eraill yn ogystal â galluogi iddo wneud pethau cyffredin gyda ffrindiau, sy’n ei gadw’n gymdeithasol.”

Yn profi’r padlfwrdd, mae Dr Ross Head yn padlo wrth i Rhys droi a gwenu tuag at y camera.

Mae Adele yn gobeithio y bydd y padlfwrdd yn parhau i elwa Rhys yn y dyfodol:“Rwyf wedi gwthio Rhyd ychydig o hyd gan fod rhan o’i gyflwr yn golygu ei fod yn debygol o fod yn fyddar a dall pan fydd yn hŷn ac wrth i’w gyflwr symud ymlaen fe fydd yn fwy nerfus wrth i bethau newid. Mae gallu mynd allan ar y môr a theimlo’n gyffyrddus gyda hynny nawr, ac yntau’n gallu gweld a chlywed yn weddol dda, yn golygu y bydd yn fan cyfarwydd iddo yn y dyfodol, a bydd ganddo’r cyfle i gadw’n brysur i helpu ei iechyd corfforol a meddwl.

Wrth gwrs, ni fyddai’r un broses ddylunio’n gyflawn heb fynd â’r cynnyrch gorffenedig i’w brofi! Mae’n debyg y gallwch weld yn y fideo isod, bu’r treial yn llwyddiant enfawr a chafodd Rhys fodd i fyw yn y dŵr! Dyma a ddywedodd Rhys wrthym:

“Gwnes i wir fwynhau padlfyrddio. Gwelsom slefren fôr! Gwelsom grancod! Gwnes i fwynhau’r padlo; mae’n fy nghadw’n heini. Rwy’n teimlo’n saff ac yn gyffyrddus ar y bwrdd. Hoffwn fynd i badlfyrddio eto a hoffwn gymryd fy ffrindiau.”

Mae’r Tîm Arloesi’n frwdfrydig am ddylunio ac adeiladu cynnyrch sy’n swyddogaethol ond hefyd yn cŵl iawn ac mae plant eisiau dangos eu hunain wrth eu defnyddio. Maent yn rhannu ethos Adele o ran os ydy plant anabl yn gweld eraill yn mwynhau gweithgareddau, mae’n creu opsiynau nad ydynt o bosibl wedi’u hystyried. Fel y dywed Adele: “Mae’n caniatáu i chi ddychmygu eich hun mewn gofod ac os byddwch yn gweld rhywbeth felly, rydych yn dychmygu eich hun yno ac yn fodlon rhoi cynnig arno. Pe baech chi’n dweud wrth rieni llawer o bobl anabl ‘hoffech chi fynd i badlfyrddio’, efallai na fydden nhw’n hyd yn oed meddwl bod hynny’n opsiwn, ond os byddant yn gweld rhywbeth fel hyn gallant ddychmygu eu hunain yn ymuno yn yr hwyl. Pan welwch rywbeth fel hyn, rydych chi’n meddwl ‘o wow, gall fy mhlentyn i wneud hynny!”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon