Sinema Awyr Agored yn dod i Gampws Llambed
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn trefnu dau ddigwyddiad ar gampws Llambed yn ystod yr haf lle caiff dwy ffilm boblogaidd eu dangos trwy gyfrwng Sinema Awyr Agored. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r Brifysgol drefnu digwyddiadau o’r fath.
Dangosir y ffilmiau ar lawnt yr Hen Goleg, y gyntaf – Top Gun Maverick ar nos Wener, Gorffennaf 21ain a’r ail, Mamma Mia, ar nos Sadwrn 12fed o Awst.
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost y Campws, fod y digwyddiadau “yn rhan o’r broses barhaus o gryfhau’r berthynas rhwng y Brifysgol a’r dref. Ry’ ni’n gobeithio’n fawr y daw criw da – yn bobl leol ac yn ymwelwyr â’r dref – i’r digwyddiadau hyn. Mae’r ffilmiau wedi eu dewis yn ofalus gyda’r bwriad o ddenu cymaint â phosibl i’r digwyddiadau.”
Mae modd archebu tocynnau i’r Sinema Awyr Agored, sy’n £5.00 yr un, ar-lein. Bydd drysau’r sinema’n agor am 7.00 yr hwyr gyda’r ffilmiau’n dechrau am 8.30 yr hwyr.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476