Skip page header and navigation

Wedi meddwl am weithio dramor? Dros y blynyddoedd, mae nifer o aelodau staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi elwa o’r profiad hwn, ac i lawer o siaradwyr Cymraeg yn benodol, Patagonia (neu ‘Y Wladfa’) yw’r lle i fynd.  

Caeau blodeuog ym Mhatagonia, gyda mynydd mawr yn y cefndir ag eira ar ei gopa.

Mae tri aelod o staff cyfredol y Drindod Dewi Sant yn ystyried bod eu profiad o weithio ym Mhatagonia yn amhrisiadwy, ac yn teimlo ei fod wedi gwella eu datblygiad fel unigolion.  Mae Rheolwr yr Atom, Caryl Jones, a darlithwyr Rhagoriaith, Rhian Abbott ac Eluned Grandis yn annog pobl eraill i ddilyn yn eu hôl troed.  

Penderfynodd y Darlithydd, Eluned Grandis, ddychwelyd i Trevelin ym Mhatagonia fel Swyddog Datblygu’r Gymraeg rhwng 2010-17 ar ôl iddi ymweld â’r Wladfa cyn hynny tra oedd ar wyliau gyda’i chwaer. Meddai Eluned:

“Cefais i fy nghyfareddu gan y syniad o fyw a gweithio ym Mhatagonia wrth sgwrsio ag Ann-Marie Lewis (a oedd eisoes wedi cael y profiad) yn ystafell staff Ysgol y Strade, Llanelli lle roeddwn i’n gweithio fel athrawes Ffrangeg ar y pryd – honno oedd fy swydd gyntaf.    Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi magu profiad fel athrawes ac wedi bod yn Bennaeth Cyfadran y Gymraeg ac ar yr Adran Ieithoedd Tramor Modern mewn ysgolion uwchradd lleol, penderfynais i fynd amdani!

“Roedd y deg mis hynny yn ôl yn 2010 (a’r blynyddoedd yn dilyn hynny) yn llawn i’r ymylon o brofiadau cyfoethog sy’n rhy niferus i’w henwi yma.   Roeddwn i’n athrawes uwchradd ifanc ar y pryd ag ychydig iawn o brofiad o addysgu plant neu bobl hŷn, ond yn ystod fy nghyfnod yn y Wladfa, addysgais Gymraeg i blant bach mor ifanc â dwy flwydd oed hyd at siaradwyr iaith gyntaf yn eu hwythdegau.  Bellach rwyf yr un mor gyffyrddus yn canu hwiangerddi gyda phlant dosbarth Meithrin / Derbyn ar y carped ag yr ydw i yn trafod gramadeg dwys neu lenyddiaeth gyda dysgwyr/siaradwyr Cymraeg hŷn.  Mae’r sgil hwn yn arbennig o ddefnyddiol yn fy rôl i yma yn y Brifysgol.”

Gwelai Eluned fod balchder mawr gan y cymunedau yn eu gwreiddiau yng Nghymru, ac yn ystod ei hamser yno, roedd yn dwlu ar ymweld â’r henoed a phobl leol a’u clywed yn adrodd straeon am eu plentyndod.   Hefyd roedd yn dwlu ar dreulio amser gyda’r genhedlaeth iau a gweld eu hymdrechion diflino i sicrhau parhad y Gymraeg. 

Dwy fyfyrwraig yn sefyll gyda baneri Patagonia a Chymru.

Gweithiodd Rhian Abbott ym Mhatagonia rhwng 2000 – 2001. Aeth yno i weithio fel athrawes Cymraeg drwy’r Cyngor Prydeinig, gan addysgu grwpiau o oedolion ifanc a phlant.  Penderfynodd achub ar y cyfle am ei fod yn cynnig llawer o fanteision.

 Meddai:

“Yn sicr gwnaeth gweithio yn y Wladfa gyfoethogi fy mywyd.  Cefais y cyfle i dreulio amser gyda phobl arbennig iawn; dysgu ychydig o Sbaeneg; deall mwy am ddiwylliant a hanes De America; mwynhau arferion a bwydydd newydd, a rhoi cynnig ar bethau bythgofiadwy, fel rafftio dŵr gwyn a dringo rhewlif.

“Roedd pawb mor frwdfrydig, a llwyddodd llawer i godi’r iaith yn gyflym iawn.  Roeddwn i hefyd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg.  Roedd yn gyfle gwych i gael profiadau gwerthfawr megis cyflwyno rhaglenni wythnosol ar yr orsaf radio leol; trefnu clybiau cerdded a darllen; helpu i drefnu cyngherddau ‘Nosweithiau Llawen’; a cheisio addysgu grŵp dawnsio gwerin.”

Criw o athrawon ar achlysur croesawu Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, i Batagonia. Rhian yw’r 4ydd o’r chwith.

(Criw athrawon ar achlysur croesawu Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, i’r Wladfa. Rhian yw’r 4ydd o’r chwith)  

Cafodd Caryl Jones y cyfle i weithio fel athrawes yn Ysgol Gymraeg y Gaiman rhwng mis Chwefror a mis Mai 2020 – er mai aros yno am flwyddyn oedd y bwriad, tarodd Covid a bu’n rhaid iddi ddychwelyd adref.  

“Gwelais i’r swydd yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a meddwl i fy hun fod hwn yn gyfle rhy dda i’w golli. Roedd yr amser yn iawn ac roeddwn i’n barod am antur a phrofiad gwahanol ym myd addysg.”

Er bod Caryl wedi dychwelyd i Gymru roedd hi’n dal i addysgu’r plant o bell, gan lwyddo i wneud hyn am weddill y flwyddyn. Ychwanega:

“Roedd y profiad yn rhyfeddol.  Rwy’n meddwl mai un o’r pethau mwyaf a ddysgais i tra oeddwn i allan yno oedd i fwynhau pob dydd, a gwerthfawrogi’r pethau bach mewn bywyd.  Rwyf wedi parhau i gadw mewn cysylltiad â nifer o staff ysgol ar ôl i mi adael ac mae wedi bod yn hyfryd eu helpu gydag amryw o adnoddau.  Rwy’n teimlo bod y profiad wedi fy natblygu i fod yn fwy annibynnol gan roi’r hyder i mi gymryd risgiau o fewn byd gwaith.”

Grŵp o fyfyrwyr yn dal baner Cymru o flaen môr.

(Caryl Jones yn y Wladfa - 4ydd o’r chwith)

Wrth i’r tair edrych yn ôl ar eu profiad ym Mhatagonia, yn sicr maent yn annog pobl eraill i wneud yr un peth.  

Meddai Rhian:

“Rwy mor falch fy mod i wedi mynd yno yn f’ugeiniau, cyn ‘setlo lawr’ a phrynu tŷ.  Gwnewch yn fawr o’ch rhyddid i gymryd risgiau.  Yn ystod eich amser yn y Wladfa, byddwch chi’n creu atgofion gorau eich bywyd.  Does dim i’w golli a phopeth i’w ennill.”

Ychwanega Caryl:

“Ewch! Bydd yn agoriad llygad ac yn brofiad bythgofiadwy i chi ac yn bendant ni fyddwch chi’n difaru.  Mae’r ysgolion yn hyfryd a thîm da o staff yno sy’n gefnogol iawn ac yn rhoi cyfle da i chi ddatblygu fel athro.”

I Eluned:

“Mae byw a gweithio yn y Wladfa yn brofiad unigryw ac yn rhoi boddhad anhygoel.   Yn wir, mae’r profiad yn gallu agor drysau i bob math o gyfleoedd ac yn sicr byddai’n edrych yn dda iawn ar CV wrth chwilio am swydd yn ôl yng Nghymru.   

“Mae ymdeimlad go iawn o frwdfrydedd ymhlith yr hen a’r ifanc a’r awydd i gynnal yr iaith a’n traddodiadau.   Braf iawn yw meddwl bod cymaint o gysylltu a mynd a dod rhwng Cymru a’r Wladfa heddiw.   Mae’r byd yn fach a bywyd yn fyr, felly ewch amdani!”

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol y Drindod Dewi Sant:  

“Cyrhaeddodd y Cymry ym Mhatagonia yn gyntaf yn1865. Roedden nhw wedi mudo i ddiogelu eu diwylliant brodorol Cymreig a’u hiaith.  Mae’n fwy pwysig nag erioed bod y genhedlaeth nesaf yn teithio i Batagonia i ddiogelu a thrysori’r rhan arbennig hon o’r byd.”

Bydd ceisiadau am leoliadau 2024 yn agor eto ar ddiwedd mis Gorffennaf 2023, a bydd yr holl fanylion ar gael ar wefan y Cyngor Prydeinig. 

Tair baner wedi’u codi ar fastiau o flaen cefndir heulog.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau