Skip page header and navigation

Dewisodd Daniel Watts astudio Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei fod eisiau datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth oedd eu hangen arno i gamu ymlaen yn ei yrfa yng Nghanolfan Dechnoleg Sony Europe B.V. UK.

Daniel Watts

Ar hyn o bryd mae Daniel yn ei flwyddyn gyntaf ac mae eisoes wedi cael dyrchafiad i’w swydd bresennol fel peiriannydd awtomeiddio.

“Mae gallu dysgu gan ddarlithwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant, ac sy’n rhannu’r wybodaeth honno gan ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn y gall myfyrwyr uniaethu â nhw, hefyd yn rhywbeth wnaeth fy nenu,” meddai.

“Gyda fy mhrofiad gwaith a gyda chymorth y radd-brentisiaeth, rwy wedi gallu symud i swydd newydd, sy’n seiliedig ar ddylunio, lle rydw i bellach yn rheoli fy mhrosiectau fy hun ac yn dylunio offer profi ac awtomataidd newydd i’w cynhyrchu.”

Mae stori Daniel yn un o nifer mae’r Brifysgol yn ei rhannu fel rhan o’r Wythnos Brentisiaethau, sy’n dathlu gwerth prentisiaid i gyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru.

Mae gan Brifysgol Cymry Y Drindod Dewi Sant Raglen Brentisiaethau hynod lwyddiannus, a luniwyd mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru, sy’n darparu ansawdd gwych, y llwybrau sgiliau cywir, a’r lefel briodol o gymorth i helpu i sicrhau gwydnwch economaidd.

Gall pob cyflogwr yng Nghymru, waeth beth fo’u maint a’u sector, gael mynediad a chymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau sy’n cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i unrhyw un dros 16 oed i sbarduno economi sy’n seiliedig ar wybodaeth a sgiliau: gan ganiatáu i gyflogwyr a’u gweithwyr gyflawni eu potensial llawn.

Mae prentisiaid yn treulio 20% o’u hamser gweithio mewn hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith; mae hyn yn cynnwys diwrnodau astudio rheolaidd neu gyfnodau bloc yn y brifysgol, diwrnodau hyfforddi arbennig neu weithdai.

Meddai Bridget Moseley, Pennaeth Uned Brentisiaethau’r Drindod Dewi Sant: “Trwy gynnig prentisiaethau, mae busnesau nid yn unig yn gallu cryfhau eu busnes gyda ffrwd o dalent ond maent yn rhoi’r sgiliau cywir i weithluoedd y dyfodol i sicrhau bod Cymru’n parhau’n gystadleuol ar lefel fyd-eang.

“Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr, rydyn ni wedi datblygu ein portffolio o brentisiaethau i fodloni anghenion a blaenoriaethau Cymru.”

Mae Samantha John, sydd newydd gael dyrchafiad i fod yn Rheolwr Gwybodaeth a Chynnwys yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn defnyddio’i sgiliau o’i Gradd-brentisiaeth Ddigidol  yn y Drindod Dewi Sant i helpu i siapio a thrawsnewid gofal iechyd ar gyfer cleifion.

Meddai: “Mae’r radd-brentisiaeth ddigidol wedi darparu cymaint o gyfleoedd i mi o ran fy ngyrfa. Mae wedi rhoi’r hyder i mi i wneud cais am swyddi newydd yn y GIG ac wedi addysgu nifer o sgiliau newydd i mi. Rwy hefyd yn teimlo bod y cwrs hwn wedi gwella fy hyder ar lefel bersonol.”

Mae Rhys Treharne yn Brentis TG gydag LSN Diffusion Ltd, busnes bach a chanolig blaengar yn y maes gweithgynhyrchu sy’n gwneud powdwr sodro metelig ar gyfer marchnad fyd-eang.    

Meddai: “Trwy’r brentisiaeth hon rwy’n cael nifer fawr o gyfleoedd.  Mae’n caniatáu i mi gael profiad gwaith, ennill incwm ac astudio cwrs israddedig yn y Brifysgol. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gaf ar y cynllun prentisiaeth yn drosglwyddadwy iawn o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol a datblygiadau mewn awtomeiddio.”

Meddai Deborah Rees, Rheolwr AD yn LSN Diffusion Ltd: Mae’r wybodaeth a’r hyn mae Rhys wedi dod ar ei draws yn sgil ei gynllun prentisiaeth wedi ategu ei ymroddiad a’i ymrwymiad i’w waith, ac mae ar y trywydd iawn i fod yn weithiwr proffesiynol medrus iawn ym maes TG.”

Myfyriwr benywaidd yn gwisgo gorchuddion llygaid amddiffynnol ac yn gwenu gydag un llaw ar beiriant.

Mae Faith Over yn Arweinydd Gwelliant Parhaus yn Eaton ac yn astudio am BEng mewn Systemau Gweithgynhyrchu.

Meddai: “Pan ddechreuais fy swydd  mewn cyfleuster gweithgynhyrchu, roeddwn yn ei chael yn anodd dilyn rhai sgyrsiau. Ers dechrau ar raglen y Radd-brentisiaeth, mae cael 87% yn fy arholiad cyntaf wedi fy helpu i sylweddoli fy mod i’n fwy na galluog o gyflawni. Rydw i bellach yn ehangu fy ngwybodaeth ac yn arwain sgyrsiau yr oeddwn i ar un adeg yn pryderu ynghylch cymryd rhan ynddynt hyd yn oed.” 

Cyflwynodd Samuel Jackson nifer o atebion digidol arloesol i Adran Gwasanaethau Digidol Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ystod ei brentisiaeth.

“Byddwn yn argymell llwybr y Radd-brentisiaeth Ddigidol yn llwyr”, meddai. “Hoffwn weld mwy o ymwybyddiaeth ohono fel opsiwn yn syth o’r ysgol. Nid opsiwn amgen ydyw yn fy marn i – credaf ei fod lawn cystal â chwrs prifysgol amser llawn. Erbyn i mi orffen fy mhrentisiaeth, bydd gennyf bedair i bum mlynedd o brofiad a gradd. Pan ystyriwch y cydbwysedd rhwng profiad a chymhwyster, ni allwn ei argymell ddigon.”

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu Gradd-brentisiaethau yn y meysydd canlynol:

  • Arbenigwr Archaeolegol (L7)
  • Rheolaeth Seiberddiogelwch
  • Gwyddor Data
  • Peirianneg Meddalwedd
  • Cyfrifiadura Cwmwl
  • Datblygu Meddalwedd Cwmwl  
  • Peirianneg Drydanol ac Electronig
  • Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch
  • Rheolaeth Peirianneg
  • Gwyddor Defnyddiau
  • Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu
  • Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Prentisiaeth Broffesiynol OME

Gradd-brentisiaethau Uwch

  • Rheolaeth Adeiladu (L5)
  • Arolygu Meintiau (L5)
  • Technegydd OME (L4)
  • Crefftwr Gwydr Lliw (L4)

Mae Academi Golau Glas PCYDDS yn cyd-ddarparu Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae’r rhaglen wedi’i chyflwyno i dros 1200 o swyddogion heddlu newydd.

Myfyriwr gwrywaidd yn sefyll ar un o rodfeydd y llawr cyntaf yn yr Adeilad IQ newydd.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau