Skip page header and navigation

Mae Matthew Cowley, sydd wedi graddio o’r MA Astudiaethau Canoloesol, yn credu mai dod i gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oedd un o’r penderfyniadau gorau y gallai fod wedi’i wneud er mwyn dod ag ef o’i gragen.

Matthew Cowley

Wrth chwilio am brifysgolion yn ystod ei astudiaethau Lefel A, roedd Matthew (Matt) o Maidenhead eisoes yn gwybod nad oedd yn chwilio am gampws mawr a phrysur gyda dosbarthiadau o gannoedd o bobl, gan mai ef oedd y math o ddisgybl a deimlai’n bryderus wrth gerdded ar draws maes chwarae’r ysgol.

Fe ddaeth ar draws Y Drindod Dewi Sant, Llambed a chael ei ddenu gan yr ystod o gyrsiau a oedd ar gael, yn arbennig y rhai a oedd yn ymwneud â’i ddiddordeb mewn archaeoleg a hanes canoloesol.

Mae Matt eisoes yn gyn-fyfyriwr o’r Drindod Dewi Sant gan ei fod wedi graddio o’r BA Archaeoleg ac Astudiaethau Canoloesol yn 2020 cyn mynd ymlaen i gwblhau ei gwrs Meistr.  

Meddai Matt:

Cefais fy swyno ar unwaith gan Llambed. Ond Diwrnod Agored seliodd y fargen i mi, gan i mi droi at fy rhieni o fewn 5 munud i ni gyrraedd a dweud fy mod am ddod i’r brifysgol hon. Roeddwn i wedi syrthio mewn cariad â’r campws, gymaint felly bod 4 o’m 5 opsiwn UCAS i astudio yn Lambed.

“Pan ddes i i’r brifysgol am y tro cyntaf, roeddwn i’n unigolyn pryderus a swil iawn, ond diolch i’r holl gyfleoedd a chefnogaeth rwy wedi eu cael yma, rwy wedi magu hyder newydd ac, er bod hynny’n swnio fel ystrydeb, wedi datblygu i fod y person ydw i heddiw.”

Mae Matt wedi bod yn llysgennad myfyrwyr gweithgar iawn yn ystod ei amser yma yn Y Drindod Dewi Sant, gan hyrwyddo’r Brifysgol a’r campws trwy weithio ar ddigwyddiadau fel Diwrnodau Agored a Phenwythnosau Profiad Myfyrwyr. Mae e hefyd yn aelod brwd o’r Gymdeithas Ganoloesol, grŵp sy’n ailberfformio hanes yr 12fed ganrif. Mae’r hobi yma wedi galluogi Matt i archwilio angerdd newydd, cwrdd â phobl o’r un anian, a gwneud ffrindiau oes.

O ran ei uchafbwyntiau academaidd, roedd Matt yn gyffro i gyd pan brofodd y foment anhygoel o ddarganfod olion bysedd copïwr ar lawysgrif ganoloesol – eiliad y mae’n dweud “ychwanegodd elfen ddynol iawn at y ffynhonnell 700 oed.” Cafodd hefyd y cyfle i gyflwyno ei bapur academaidd cyntaf yn y gynhadledd ganoloesol flynyddol yn Neuadd Gregynog.

Ac yntau bellach yn ei chweched flwyddyn yn Llambed, penodwyd Matt yn rhan-amser gan y Brifysgol yn gwneud gwaith i annog cyn-fyfyrwyr Llambed i ymgysylltu â’r Drindod Dewi Sant, rôl sydd wedi’i hariannu’n garedig gan gyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru Llambed. Mae e’n edrych ymlaen at gymryd ei gam nesaf yn ei astudiaethau trwy ymgymryd â PhD.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau