Skip page header and navigation

Mae tri myfyriwr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi’u dewis ar gyfer Cyfnod Preswyl Digidol Gwobr Jane Phillips 2023, a weinyddir gan Oriel Mission.

Seren Trodden, Nia Davies ac Isabella Watkins.

Mae’r oriel gelf yn Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant ac yn cynnig cyfleoedd i rai myfyrwyr dethol o’r rhaglen Celf a Dylunio Sylfaen bob blwyddyn.

Eleni dewisodd Rhian Wyn Stone, cyfarwyddwr Oriel Mission, Seren Trodden, Nia Davies ac Isabella Watkins i dderbyn y cyfnod preswyl digidol, a gofynnwyd iddynt ymateb i’r syniad o Hiraeth yn eu gwaith.

Roedd gwaith Seren yn archwilio’r thema hon drwy faterion byd-eang megis newid hinsawdd a difodiant; canolbwyntiodd Nia ar edrych yn ôl trwy atgofion a ysbrydolwyd gan ofod a lle, tra defnyddiodd Isabella Origami i drawsnewid rhywbeth o’r gorffennol yn rhywbeth newydd.

Meddai Oriel Mission: “Rydym yn ymfalchïo o gael gweithio gyda’n partneriaid yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS ac yn edrych ymlaen at bwysleisio ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr.  

Mae’r cyfnod preswyl hwn yn darparu gofod ar-lein ar wefan Gwobr Jane Phillips i arddangos a datblygu gwaith, syniadau ac ymchwil, gan gynnig cymorth a chyfleoedd hyrwyddo trwy ein rhwydweithiau.”

Llun o waith celf â chefndir glas tywyll a blaendir melyn brith.

Meddai Katherine Clewett, Rheolwr Rhaglen y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yn PCYDDS: “Mae’r cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant yn falch iawn i gael ei ystyried unwaith eto yn rhan o raglen Cyfnod Preswyl Gwobr Jane Phillips yn Oriel Mission.

“Mae Oriel Mission yn darparu cyd-destun yn gyson i lawer o’n prosiectau a’n modylau cwrs, gyda’n myfyrwyr yn elwa mewn sawl ffordd o arddangosfeydd a chyfleoedd yr oriel.  

“Mae’r bartneriaeth lwyddiannus a hirsefydlog rhwng ein priod sefydliadau diwylliannol ac addysgol wedi cynnig cyfleoedd unigryw i ymgysylltu.  Rwy’n browd iawn o Nia, Seren ac Isabella ac yn falch drostynt, ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gallent ei gynhyrchu.”

Mae’r Cyfnod Preswyl Digidol yn rhedeg rhwng 5 a 30 Mehefin 2023.

Ynglŷn â Gwobr Jane Phillips

Wedi’i lansio yn Oriel Mission yn 2011, mae Gwobr Jane Phillips yn coffau Jane Phillips (1957-2011)), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Bwriedir i’r wobr fod yn waddol o angerdd Jane dros fentora a meithrin talent, wrth weithio gydag unigolion ar bob lefel – gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr yn ogystal ag artistiaid ar ddechrau eu taith.

Llun 3D o waith celf yn erbyn ffenestr.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau