Skip page header and navigation

Graddiodd Lewis Thornton yn ddiweddar o gwrs Addysg Antur Awyr Agored Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae wedi bod wrth ei fodd â’r awyr agored erioed, ac roedd o’r farn y gallai cael gradd yn seiliedig ar addysg fynd ag ef i unrhyw le yn y byd.

Lewis Thornton yn gwenu ac yn mwynhau mas draw yn ei ŵn graddio.

Cafodd ei ddenu at y cwrs i ddechrau ar ôl mynd i ddiwrnod agored ar gampws Caerfyrddin. Meddai:

“Dangosodd y darlithwyr pa mor angerddol y maen nhw am y pwnc, yn ogystal â chael lleoliad sy’n berffaith ar gyfer gweithgareddau awyr agored – roedd yn ymddangos mor berffaith ar gyfer yr hyn roeddwn i am ei wneud.”

Mwynhaodd Lewis ei dair blynedd yn y Drindod Dewi Sant, a’i hoff agwedd ar y cwrs heb os nac oni bai oedd gweld pa mor angerddol yr oedd yr holl ddarlithwyr.

“Roedden nhw wir yn lledaenu’r ymdeimlad o ‘fyw ar gyfer yr awyr agored’ ac yn addysgu llawer o’r pethau academaidd mor ymarferol â phosibl, yn ogystal â bod yn hyblyg gyda mi a’m harddulliau dysgu gan ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i mi wneud yn fawr o’r cwrs 3 blynedd.”

“Y ffordd bwysicaf iddynt fy nghefnogi oedd gyda fy “mhrosiect arbennig” diwedd cwrs. Yn hytrach na gorfod ysgrifennu traethawd hir, fe wnaethant fy nghaniatáu i wneud cynllun yn seiliedig ar yr awyr agored ar gyfer Caerfyrddin, a gweithio gyda mi arno, ond gan ddefnyddio fformat y traethawd hir o hyd. Gallaf ddweud heb air o gelwydd na fyddwn wedi dod drwy’r flwyddyn 1af heb y math hwnnw o gymorth, heb sôn am bob un o’r 3!”

Mae bywyd prifysgol wedi llwyddo i ddatblygu Lewis fel unigolyn, o ddysgu mwy amdano’i hun a’r ffordd y mae’n mwynhau’r awyr agored, i ffyrdd y gall addysgu eraill yn yr awyr agored.

“Rydw i wedi datblygu sgiliau caled a meddal trwy’r cwrs, ac mae gweld angerdd y darlithwyr ato yn sicr wedi fy ysbrydoli i dyfu hefyd, a rhannu’r angerdd hwnnw gyda chynifer o bobl â phosibl.”

Mae Lewis yn gweithio ar gyfer Ymddiriedolaeth Calvert ar hyn o bryd yn eu canolfan awyr agored arbenigol ar Exmoor. Mae’r ymddiriedolaeth yn ceisio helpu pobl ag ystod eang o anableddau ac anghenion arbennig i gyflawni eu potensial drwy her gweithgareddau anturus, ac yn annog integreiddio pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ledled cymdeithas. Maen nhw am roi rôl fwy parhaol i Lewis o ganlyniad i’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ganddo wrth astudio antur awyr agored yn y Drindod Dewi Sant. Yn y tymor hir, mae Lewis am fentro dramor i ddatblygu ei sgiliau technegol ymhellach ac i ddysgu mwy am antur mewn amgylcheddau gwahanol. Ond ar ôl iddo ddiflasu ar deithio, ei nod yn y pen draw yw dod o hyd i ysgol dda a helpu i redeg cwrs addysg awyr agored a fydd yn caniatáu iddo rannu ei gariad at antur awyr agored â phobl ifanc.

Meddai Graham Harvey, y Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Addysg Antur Awyr Agored:

“Bu Lewis yn fyfyriwr gwych dros y tair blynedd diwethaf. Gan ein bod ni’n gweithio gyda dosbarthiadau cymharol fach, rydyn ni’n dod i adnabod ein myfyrwyr yn dda iawn a gallwn addasu ein haddysgu a’n gweithgareddau i’w anghenion. Manteisiodd Lewis ar y dulliau asesu amgen a defnyddiodd ei sgiliau creadigol a digidol i gwblhau llawer o’r asesiadau. Mae hefyd wedi cymryd rhan yn ein teithiau a’n gweithgareddau allgyrsiol a gynhelir gennym ochr yn ochr â’r rhaglen a addysgir. Mae Lewis wir wedi ffynnu yn yr amgylchedd hwn, gan wneud camau enfawr ymlaen yn ei ddealltwriaeth a’i arfer. Mae’r staff wir wedi mwynhau ei gael ar y rhaglen ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn parhau i ddatblygu yn weithiwr proffesiynol ym myd addysg antur awyr agored.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau