Skip page header and navigation

Mae un o raddedigion BA Dylunio Set a Chynhyrchu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael swydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Jevon Mckenna yn ei gap a’i ŵn academaidd.

Penderfynodd Jevon Mckenna o Abertawe astudio yn PCYDDS gan ei fod am ddilyn yn olion traed ei deulu drwy astudio yn yr un sefydliad â nhw, gan fod hwnnw yn teimlo fel lle arbennig. Meddai:

“Yr hyn sy’n gwneud PCYDDS yn arbennig (i mi o leiaf) yw pa mor glòs y mae pethau, nid yn unig o ran y cymunedau staff a myfyrwyr, ond sut mae hynny’n effeithio ar yr adnoddau y gallan nhw eu neilltuo i chi. Mewn dosbarth mwy, fyddwn i ddim wedi cael agos at gymaint o amser un-i-un gyda’r darlithwyr, yn fy marn i.”

Penderfynodd astudio’r cwrs BA Dylunio Set a Chynhyrchu yn PCYDDS yng Nghaerfyrddin gan ei fod yn gwrs ymarferol iawn. Teimlodd Jevon nad oedd yn unigolyn academaidd, ond mwynhaodd greu pethau â’i ddwylo. Roedd wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu cyn cofrestru fel myfyriwr yn PCYDDS, a gan ei fod wedi dewis arbenigo mewn propiau a phypedau, roedd yn gallu dod â pheth gwybodaeth gyfredol i’w astudiaethau a’i defnyddio.

Teimlodd Jevon fod y cwrs wedi rhoi cyfle iddo ddatblygu fel unigolyn.

“Rwy’n credu fy mod wedi datblygu mewn ffyrdd rwy’n ddiolchgar iawn amdanyn nhw, yn yr ystyr fy mod yn teimlo fel ymarferwr llawer mwy gostyngedig a diolchgar nawr nag y bues i o’r blaen. Rwy’n teimlo y bues i’n eithaf ansicr am fy sgiliau a rhinweddau, a drwy PCYDDS rwy’ wedi dysgu bod yn fwy goddefgar a meithringar – nid yn unig i fi fy hunan ond hefyd i eraill.”

Drwy’r cyfleoedd pwrpasol unigryw a gyflwynwyd iddo gan y cwrs, roedd Jevon yn gallu darganfod pypedwaith, sydd wedi’i arwain at ei swydd gyntaf yn y diwydiant.

Ar hyn o bryd, mae Jevon yn dechnegydd llwyfan teithiol cynorthwyol i Opera Cenedlaethol Cymru, a seilir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

“Yn ystod ein taith ddiwethaf, bues i nid yn unig yn rhan o’r tîm sy’n gosod/datod y set ar gyfer y ddwy sioe, ond rhwng y ciwiau ar y llwyfan i newid y set, bues i hefyd yn trwsio ac yn cynnal y pypedau a’r propiau amrywiol. Fyddwn i ddim wedi cael y swydd yma oni bai am y sgiliau a’r wybodaeth a enillais i wrth astudio’r cwrs Dylunio Set a Chynhyrchu.

“Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i’n cael gweithio i gwmni fel OCC, a hoffwn i wneud eu propiau a’u pypedau drostyn nhw yn y dyfodol, yn ogystal â’u trwsio a’u cynnal.”

Dywedodd Stacey Jo Atkinson, Rheolwr Rhaglen Dylunio Set a Chynhyrchu:

“Mae ffocws ar ddiwydiant a chyflogaeth wrth galon y radd Dylunio Set a Chynhyrchu. Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i gyd i wthio eu hunain i’w helpu nhw i ddod o hyd i’w hangerdd a’r hyn maen nhw am ei ddilyn. Roedd Jevon yn gallu archwilio a datblygu yn ystod ei amser ar y cwrs a defnyddio’r sgiliau yr oedd wedi dod o hyd iddyn nhw o’r newydd, yn ogystal â’i sgiliau cyfredol, i ddarganfod ei awch am bropiau a phypedwaith. Roedd yn gallu edrych ar ei opsiynau a daeth o hyd i gyfle gydag OCC. Mae’r cyfle hwn wedi arwain nid yn unig at brofiad gwaith ond nawr yn mynd ymlaen i weithio gyda’r cwmni yn ystod  tymor yr Hydref a’r Gaeaf fel cyn-fyfyriwr o’r Drindod Dewi Sant 2023.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau