Skip page header and navigation

Mae un o raddedigion BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi teithio i Galiffornia, ddyddiau ar ôl iddi raddio er mwyn hyfforddi tîm Cymru yng Nghwpan Pêl-droed y Byd i’r Digartref.

Jo Price mewn gwisg academaidd.

Daw Jo Price o Dyddewi, Sir Benfro. Ar hyn o bryd mae’n weithiwr ieuenctid i Wasanaeth Ieuenctid Sir Benfro ac yn gweithio gyda’r Tîm Cymorth Ieuenctid sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd yn ddigartref. Yn ogystal, mae’n gwirfoddoli yn yr Hive, o ganlyniad i’w lleoliad, i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc trwy chwaraeon i wella eu llesiant cyffredinol. Mae’n cynnig sesiynau aml-chwaraeon i bobl ifanc gan cynnwys pêl-droed, criced, bocsio, pêl-fasged, sglefrio, osgoi’r bêl a phêl-foli.

Ochr yn ochr â hynny, mae hi hefyd yn cydlynu sesiynau Pêl-droed Stryd i bobl dros 16 oed sy’n ceisio mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol trwy chwaraeon. Cynigir sesiynau’n wythnosol yn Hwlffordd sydd wedi bod yn hynod boblogaidd gan mai nhw sy’n denu’r niferoedd mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae wedi cael ei phenodi’n un o’r hyfforddwyr ar gyfer tîm Cenedlaethol Cymru (merched) yng Nghaliffornia y mis hwn. Meddai:

“Mae’r cyfle yn un yr wyf yn hynod falch ohono a byddaf yn sicrhau fy mod yn ei ddefnyddio i ysbrydoli pobl ifanc i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial a chroesawu’r cyfleoedd a gyflwynir iddynt. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth am wella dyheadau ar gyfer pobl ifanc yn Sir Benfro, rhywbeth rwy’n angerddol amdano ac eisiau darparu llwyfannau ar ei gyfer.”

Daeth Jo i astudio yn y Drindod Dewi Sant wrth i’r radd gael ei chynnig iddi drwy ei gwaith gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro. Astudiodd yn rhan-amser ochr yn ochr â chyflawni ei rolau fel uwch weithiwr ieuenctid.

“Gan fy mod yn angerddol am wneud yn fawr o botensial pobl ifanc, apeliodd y cwrs hwn ataf am lawer o resymau. Rwyf wedi bod yn angerddol am newid bywydau pobl o oedran ifanc, mae cymryd rhan yn y gymuned a darparu cyfleoedd i bobl, a phobl ifanc yn enwedig, i wella ansawdd eu bywyd yn faes y credwn y gallwn gael effaith arno.”

Mwynhaodd Jo elfen lleoliad y cwrs yn fawr, yn enwedig wrth ymweld â sefydliadau yn y trydydd sector. Roedd ei lleoliad yn yr Hive, sydd wedi’i leoli yn y Garth, yn uchafbwynt go iawn iddi fel myfyriwr.

“Ar ôl datblygu perthynas dda gyda’r rheolwr yn yr Hive (Anji Tinley), gallwn weld pa mor angerddol oedd hi am wneud yn fawr o botensial pobl ifanc a rhoi lle diogel ac ymdeimlad o berthyn iddynt yn yr Hive. Roeddwn i’n gwybod fy mod i hefyd eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn y ward honno a ledled Sir Benfro. O ganlyniad, buom yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau ac adrannau allanol ledled yr awdurdod lleol i sicrhau cyllid er mwyn datblygu cyfleuster chwaraeon sydd wedi bod o fudd i’r gymuned gyfan.”

Mae’r cyfleuster aml-chwaraeon sydd bellach wedi’i leoli yn yr Hive yn ofod y gall pobl ifanc ei ddefnyddio er mwyn gwella eu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol yn ogystal â chael lle y gallan nhw ei ystyried yn eiddo iddyn nhw a bod yn falch ohono. Sefydliad Cruyff yw’r prif gyllidwyr ac maent wedi penderfynu enwi’r llys yn ‘Cwrt Cruyff Jo Price’ yn dilyn ei rhan yn y broses a’i chefndir mewn chwaraeon.

Roedd Jo hefyd yn mwynhau’r amgylchedd o feithrin yn y darlithoedd a dod i adnabod y darlithwyr a’i chyd-fyfyrwyr trwy gydol y radd. Mae hi wedi gwneud ffrindiau o ganlyniad i gymryd rhan yn y cwrs sydd wedi bod yn daith wych.

Mae Jo’n credu ei bod yn weithiwr ieuenctid cyflawn sydd wedi ennill profiad mewn gwahanol sectorau ar draws y proffesiwn Gwaith Ieuenctid.

“Mae gen i well dealltwriaeth o egwyddorion a dibenion Gwaith Ieuenctid ac rwyf wedi datblygu angerdd dros ganolbwyntio ar wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.

“Rwy’n credu bod gen i’r ddawn i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â phobl ifanc, gan eu galluogi i gredu yn eu gallu i fynd ymlaen a chyflawni’r hyn maen nhw’n ymroi eu hunain iddo.”

Mae’r Brifysgol wedi gwella gallu Jo i weithio fel ymarferydd effeithiol ar draws y proffesiwn, ac mae’r darlithwyr wedi darparu cymorth cofleidiol i sicrhau ei bod yn gallu ymarfer Gwaith Ieuenctid mewn modd diogel ac addawol.

Pan fydd Jo’n dychwelyd o Galiffornia, mae hi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phobl ifanc i’w hysbrydoli a bod yn fodel rôl da, a’u hannog i osod nodau a gweithio mor galed ag y gallant i’w cyflawni.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau