Skip page header and navigation

Mae effaith Clefyd Huntington  ar Carly Evans a’i theulu yn aruthrol. Mae’n gyflwr sy’n niweidio celloedd nerfol yn yr ymennydd gan achosi iddynt roi’r gorau i weithio’n iawn. Mae’n glefyd a etifeddir, hynny yw ei drosglwyddo gan rieni i’w plant. Gall effeithio ar symudiad, gwybyddiaeth (canfyddiad, ymwybyddiaeth, meddwl, barn) ac iechyd meddwl.

Carly Evans yn gwenu yn ei gynau graddio.

Mae Carly, 29, yn frwd dros gefnogi cymuned Clefyd Huntington. Mae hi eisiau defnyddio ei phrofiad personol o’r clefyd i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r effaith y mae’n ei gael ar deuluoedd.

Heddiw, mae Carly yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Seicoleg a Chwnsela, sydd wedi ei gweld yn ymgymryd ag ymchwil, fel rhan o’i thraethawd hir, oedd yn canolbwyntio ar yr heriau y mae person ifanc yn eu hwynebu wrth fynd trwy fywyd wedi’i effeithio gan Glefyd Huntington.

Mae hi hefyd yn llysgennad ar gyfer Sefydliad Ieuenctid Clefyd Huntington (HDYO) a Chymdeithas Clefyd Huntington (HDA) gan helpu i gefnogi cymuned y clefyd ac addysgu cymdeithas.

Fis diwethaf, cyflwynodd Carly ei hymchwil dan y teitl: ‘Dadansoddiad ffenomenolegol deongliadol yn archwilio’r profiad o fod yn llysgennad i Sefydliad Ieuenctid Clefyd Huntington’ yng nghynhadledd flynyddol Cangen Cymru o Gymdeithas Seicolegol Prydain. Roedd hyn yn ei galluogi i roi mewnwelediad gwerthfawr i’r effeithiau, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, ar bobl ifanc sy’n dioddef o Glefyd Huntington.

Dywedodd Carly: ‘mae mor bwysig i mi fy mod yn defnyddio fy mhrofiad eithriadol o anodd yn dilyn yr effaith mae Clefyd Huntington wedi’i gael arnaf i wneud rhywbeth cadarnhaol a bod yno i eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg.

“Rwy eisiau taflu goleuni ar yr heriau iechyd meddwl mae unigolion a effeithir gan Glefyd Huntington yn eu hwynebu a’r diffyg enfawr mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn proses brofi genetig y clefyd.

“Mae’r wybodaeth sydd gan gynifer o ymarferwyr iechyd meddwl ynghylch Clefyd Huntington hefyd yn gyfyngedig sy’n cynyddu’r anawsterau o ran cael cymorth.”

Mae Carly hefyd yn dioddef o gyflwr genetig prin, sef niwropatheg optig etifeddol Leber neu LHON, sy’n golygu bod ganddi nam ar ei golwg. Er gwaethaf ei hanawsterau iechyd, mae wedi parhau i fod yn benderfynol o ddal ati, i brofi ei bod yn ‘fwy na chyflwr genetig.’ Mae hi eisiau defnyddio ei phrofiadau mewn goleuni cadarnhaol i gefnogi eraill.

Aeth Carly, sy’n byw yn Abertawe, drwy’r broses o gael profion genetig am Glefyd Huntington, a derbyniodd ei diagnosis cadarnhaol yn ystod Covid. Ar adeg pan oedd llawer ohonom eisoes yn teimlo’n fregus ac ar ein pennau ein hunain yn ystod y cyfnod clo, bu’n rhaid iddi hi hefyd ddod i delerau â’r wybodaeth hon oedd yn newid ei bywyd.

Yn ystod y pandemig, cofrestrodd Carly yn y Drindod Dewi Sant i astudio cwnsela a seicoleg, penderfyniad sydd, yn ei geiriau hi, yn ei rhoi mewn sefyllfa nawr i gefnogi eraill a effeithir gan Glefyd Huntington. Dywedodd nad oedd yn academaidd yn yr ysgol a’i bod wedi’i chael hi’n anodd, a gyda’r rhwystrau ychwanegol roedd yn ansicr a allai gwblhau ei chwrs.  Ond dewisodd ddyfalbarhau a phrofi iddi hi ei hun ac i eraill ei fod yn bosibl.

Mae hi nawr eisiau defnyddio’r sgiliau y mae wedi’u dysgu mewn addysg uwch dros y tair blynedd diwethaf i helpu eraill ac i dynnu sylw at y diffyg cefnogaeth cwnsela i unigolion a effeithir gan Glefyd Huntington.

Meddai Carly: “Mae’r cyflwr yn cael effaith ddinistriol. I mi mae wedi golygu fy mod wedi gorfod dangos gwydnwch i allu symud ymlaen mewn bywyd. Wrth gwrs mae rhai dyddiau yn gallu bod yn arbennig o heriol, a dyna pam rwy wedi dewis tynnu sylw at yr anawsterau sy’n dod o ganlyniad uniongyrchol i fyw gyda Chlefyd Huntington. Rwy’n ffodus bod gen i deulu cryf o’m cwmpas sy’n fy nghefnogi’n barhaus ac eisiau’r gorau i mi, yn ogystal â fy mhartner, ffrindiau a staff darlithio yn y Drindod Dewi Sant.

“Gall cael eich effeithio gan Glefyd Huntington fod yn lle unig iawn i fod ac rydw i eisiau i hynny newid. Rwy’n obeithiol y gall fy astudiaethau, fy ymchwil a’m heiriolaeth barhaus newid hynny, ac y gallaf wneud gwahaniaeth wrth helpu eraill sy’n mynd trwy amgylchiadau tebyg.”

Ar gyfer ei thraethawd hir, cyfwelodd Carly â phobl ifanc eraill y mae Clefyd Huntington yn effeithio arnynt i archwilio’r heriau maent yn eu hwynebu mewn teulu a effeithir gan Glefyd Huntington. Mae Carly yn gobeithio cyflwyno ei chanfyddiadau i gyrff iechyd perthnasol mewn ymgais i sicrhau mwy o gefnogaeth seicolegol. Dyfarnwyd gwobr BPS Cymru i Carly am y traethawd hir seicoleg gorau i gydnabod ansawdd ac effaith bosibl yr ymchwil hwn.

Mae hi hefyd yn bwriadu parhau â’i hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant, gan astudio ar gyfer gradd meistr mewn Arfer Seicotherapiwtig, gan fynd â hi gam yn nes at ei dyhead o gael gyrfa yn y dyfodol yn y maes arbenigol hwnnw.

Meddai Carly: “Rwy’n wirioneddol gredu bod gen i ran bwysig i’w chwarae i sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc neu unigolyn arall a effeithir gan Glefyd Huntington byth yn teimlo’n agored i niwed, yn ynysig neu’n unig a bod ganddynt y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.”

Ym mis Mawrth eleni, gwahoddwyd Carly i fod yn rhan o banel ‘holi’r arbenigwyr’ yng Nghyngres Ryngwladol HDYO yn Glasgow, lle rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr i’w phrofiad a’r effaith y mae Clefyd Huntington yn ei chael ar bobl ifanc ar hyd a lled y byd a sut mae cefnogaeth mor hanfodol.

Dywedodd Ceri Phelps, Prif Ddarlithydd mewn Seicoleg Iechyd yn y Drindod Dewi Sant: “Mae Carly yn fenyw ifanc eithriadol y mae ei hangerdd a’i hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o effaith seicolegol Clefyd Huntington mor ysbrydoledig.  Mae wedi bod yn bleser goruchwylio ymchwil Carly ar gyfer ei thraethawd hir dros y flwyddyn ddiwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda hi i fanteisio i’r eithaf ar effaith yr ymchwil hwn.”

Nodyn i’r Golygydd

Mae Carly yn llysgennad ar gyfer Sefydliad Ieuenctid Clefyd Huntington (HDYO)  - grŵp o bobl ifanc o bob cwr o’r byd. Maent yn arweinwyr ac yn eiriolwyr yng nghymuned Clefyd Huntington. Nod y grŵp yw gwirfoddoli, codi ymwybyddiaeth o Glefyd Huntington a chodi arian.

Lansiwyd y grŵp ym mis Ebrill 2021 ac mae’n cyfarfod bob mis. Maent yn wirioneddol fyd-eang gan ddod o Ganada, De America, yr Unol Daleithiau, Ewrop, Awstralia, a’r Dwyrain Canol.

Maen nhw’n rhannu eu profiadau ac yn anelu at gysylltu cymuned Clefyd Huntington i ddangos nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Maent yn canolbwyntio ar nifer o ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys rhannu Awgrymiadau Da i helpu eraill, amlinellu eu teithiau eu hunain, datblygu ymgyrchoedd codi arian, a chael gwybod y diweddaraf am Glefyd Huntington yn gyson.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau