Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024 – dathliad wythnos o hyd (5 i 11 Chwefror) sy’n dwyn busnesau a phrentisiaid at ei gilydd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau yn ei chael ar unigolion, busnesau, a’r economi ehangach.

Prentisiaid.

Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024 yw “Sgiliau am Oes” a byddwn yn cynnal digwyddiadau ac yn rhannu straeon am sut y gall prentisiaethau helpu unigolion i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil, a chyflogwyr i ddatblygu gweithlu gyda sgiliau sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Mae gan PCYDDS Raglen Gradd-brentisiaethau hynod lwyddiannus a ddatblygwyd mewn partneriaeth â busnesau o Gymru, gan ddarparu ansawdd gwych, y llwybrau sgiliau cywir, a’r lefel gywir o gymorth i helpu i gyflawni gwydnwch economaidd.  

Gall yr holl gyflogwyr yng Nghymru, ni waeth beth yw eu maint a’u sector, gyrchu ac ymgysylltu â’r Rhaglen Brentisiaethau sy’n cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel wedi’i ariannu’n llawn i unrhyw un dros 18 oed i yrru economi seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth: gan ganiatáu i gyflogwyr a’u gweithwyr gyflawni eu potensial llawn.

Mae prentisiaid yn treulio 20% o’u hamser gwaith yn gwneud hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith; mae hyn yn cynnwys cael eu rhyddhau o’r gwaith yn rheolaidd am ddiwrnod, neu floc, i’r brifysgol, diwrnodau hyfforddi arbennig neu weithdai ymarferol.  

Meddai Bridget Moseley, pennaeth Uned Brentisiaethau PCYDDS: “Trwy gynnig prentisiaethau, mae busnesau nid yn unig yn gallu cryfhau eu busnes gyda ffrwd o dalent ond maen nhw hefyd yn rhoi’r sgiliau cywir i weithluoedd y dyfodol i sicrhau bod Cymru’n parhau’n gystadleuol ar lefel fyd-eang.

“Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr, rydyn ni wedi datblygu ein portffolio o brentisiaethau i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru.”

Cafodd darpariaeth prentisiaethau’r Brifysgol ei barnu’n ‘Dda’ mewn arolwg diweddar gan Ofsted.

Roedd yr arolwg o ddarpariaeth a ariennir drwy Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau Llywodraeth y DU (ESFA) ac roedd yn cynnwys:

  • BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol
  • Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (Lefel 6)
  • Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (Lefel 4)
  • MA Ymarfer Archeolegol (Lefel 7)
  • Electroneg Mewnblanedig
  • Gwydr Lliw (Lefel 4)
  • Arweinydd Uwch (Lefel 7)

Daeth yr arolwg i’r casgliad bod y ddarpariaeth yn dda mewn perthynas â’r holl feini prawf a amlinellwyd o ran Ansawdd Addysg, Ymddygiad ac Agweddau, Datblygu Personol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Phrentisiaethau’r Fframwaith Arolygu Addysg.

Tynnodd yr arolygwyr sylw hefyd at y dysgu ychwanegol a gofal bugeiliol ardderchog a ddarperir gan y Brifysgol yn ogystal â’r casgliad o fwrsariaethau ariannol sydd ar gael i gefnogi prentisiaid i barhau â’u hastudiaethau.

Nodyn i’r Golygydd

Ewch i’n stondin yn Hwb IQ drwy gydol yr wythnos prentisiaethau sy’n dechrau ddydd Llun 5ed Chwefror:

  • Prentisiaethau I Bawb – Ewch i’n stondin yn IQ i gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau
  • Dydd Mawrth Astudiaethau Achos A Siopau Gwib – Edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn mynd â phrentisiaethau ar daith
  • Dydd Mercher Cyflogwyr, Ystafell IQ002 – Archebwch stondin i arddangos eich busnes a recriwtio prentisiaid newydd, anfonwch e-bost at Emily Hunt – e.hunt@pcydds.ac.uk i archebu eich stondin
  • Dydd Iau Prentisiaid, Ystafell 1Q307 – Digwyddiad rhwydweithio ar gyfer prentisiaid
  • Dydd Gwener Dathlu Ar-Lein – seremoni wobrwyo ar-lein ar gyfer prentisiaid, swyddogion cyswllt prentisiaid a darlithwyr
  • Dydd Sadwrn A Sul Hunluniau – trosolwg o’r wythnos prentisiaethau ar y cyfryngau cymdeithasol

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu stondin yn ein digwyddiad i gyflogwyr, e-bostiwch Emily Hunt – e.hunt@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau