Skip page header and navigation

Mae uned Gradd-brentisiaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn mynd ar daith i rannu ei harbenigedd â darpar gyflogwyr a myfyrwyr.

Yn gwisgo crys Prentisiaethau â brand y Drindod Dewi Sant, mae Emily Hunt yn gwenu tuag at y camera.

Bydd y sioe deithiol yn ymweld â Chaerdydd, Casnewydd, Llanelli, Treforys, Llansamlet a Fforest-fach, yn ogystal â lleoliadau yn Sir Benfro a Sir Gâr.

Emily Hunt: “Mae’n bleser cael mynd â’n huned brentisiaeth wych allan ar y ffordd. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chwmnïau o amgylch De Cymru i roi gwybod iddynt am ein prentisiaethau gradd a ariennir yn llawn gan y Llywodraeth sydd ar gael ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.”

Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Gradd-brentisiaethau prifysgol, sy’n darparu gradd-brentisiaethau i fwy na 100 o gyflogwyr ar hyn o bryd. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf â sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus gan gynnwys BBaCh, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.  

Rydyn ni’n deall heriau bob dydd busnesau ac, o ganlyniad, crëwyd Rhaglen Brentisiaeth dan arweiniad y Diwydiant gennym mewn partneriaeth â chyflogwyr sydd, o’i gyfuno â phrofiad ymarferol dyddiol yn y swydd, yn cefnogi myfyrwyr i gymhwyso’r wybodaeth a geir yn uniongyrchol i’r gweithle.

Mae ein gradd-brentisiaethau’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau. Gallwch ddilyn gradd-brentisiaeth i uwchsgilio, neu ail-sgilio os ydych eisoes mewn gwaith.

Gall busnesau ddefnyddio’r rhaglen brentisiaethau i wneud y canlynol:

  • Llenwi bylchau sgiliau yn eich busnes trwy uwchsgilio neu ail-hyfforddi gweithwyr.
  • Recriwtio gweithwyr dawnus â photensial i’ch busnes.
  • Cynllunio olyniaeth sy’n canolbwyntio ar nodi a datblygu doniau i lenwi swyddi arweinyddiaeth a hanfodol i’r busnes yn y dyfodol.
  • Darparu llwybr deniadol at gyfleoedd a dilyniant gyrfaol i weithwyr presennol.    

I ddarpar fyfyrwyr:

  • Gallwch ennill wrth ddysgu – Mwynhewch y manteision o fod yn weithiwr llawn amser a chael amser i ffwrdd â thâl i astudio a mynychu dosbarthiadau drwy gydol eich rhaglen radd.
  • Gallwch ennill cymwysterau a gydnabyddir yn Genedlaethol – ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.
  • Mae gradd-brentisiaethau’n rhoi llwyfan gwych i wella eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad ymarferol a fydd hefyd yn gwella eich cyflogadwyedd a’ch dilyniant gyrfaol.
  • Dim dyled myfyriwr – y Llywodraeth neu’r cyflogwr sy’n talu’r ffioedd dysgu, gweler y dudalen ariannu.   
    Gallwch gael mynediad llawn i wasanaethau a chyfleusterau gwych ein campysau.
  • Byddwch yn cael swyddog cyswllt prentisiaethau penodedig a fydd yn rhoi cymorth bugeiliol ac academaidd i chi drwy gydol eich rhaglen.
  • Cyngor a chymorth â’r cais ariannu.

I gael rhagor o wybodaeth: Emily Hunt e.hunt@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau