Skip page header and navigation

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Heddlu De Cymru garfan newydd o swyddogion heddlu.

Bronwen Williams yn sefyll yng nghanol grŵp o ddeg o heddweision newydd yn eu lifreion du.

Roedd y naw deg saith o swyddogion newydd yn cynnwys Prentisiaid Heddlu, graddedigion a’r myfyrwyr hynny oedd wedi dilyn y radd mewn Plismona Proffesiynol cyn ymuno â’r llu. Yn yr Ardystiad maent yn tyngu llw o deyrngarwch i’r Brenin ger bron ynad ac yn cael eu Hardystio’n Swyddogion Heddlu. Mae deg o’r myfyrwyr hyn eisoes wedi graddio o’r Drindod Dewi Sant ac fe’u derbyniwyd gyda’r garfan newydd o swyddogion heddlu.

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas y Brifysgol:

“Mae hyn yn gyflawniad gwych i’n graddedigion.  Roedd yn hyfryd gweld ein myfyrwyr yn ymuno fel graddedigion yn ogystal â’r rhai sydd wedi ymgymryd â’r radd mewn Plismona Proffesiynol.”

“Dros y 5 mlynedd ddiwethaf rydym wedi creu partneriaeth gref gyda Heddlu De Cymru sydd wedi ein helpu i greu’r Radd mewn Plismona Proffesiynol, un sy’n addas i’r pwrpas ac yn paratoi ein myfyrwyr i ymuno â’r heddlu.”

“Ers mis Mawrth 2019, mae’r Brifysgol wedi bod yn ddarparwr academaidd ar gyfer Gradd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) a’r Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP) ac mae wedi croesawu pedair carfan y flwyddyn gan ddarparu ar gyfer dros 1,000 o swyddogion heddlu newydd.”

“Rwy’n falch iawn i fod yma heddiw i weld y garfan ddiwethaf hon yn cychwyn ar ein rhaglenni.”

Fel llu rydym wedi ymrwymo i ddenu, cyflogi a chefnogi gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn parhau i annog unigolion o grwpiau a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried ymuno â ni.

Meddai’r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:  

“Rwy wrth fy modd ein bod fel llu wedi cryfhau ein niferoedd o swyddogion ar y rheng flaen ac mewn rolau arbenigol sydd oll yn gweithio i gadw cymunedau De Cymru’n ddiogel.

“Mae hyn wedi creu cyfleoedd i bobl ymuno â Heddlu De Cymru a gwneud gwir wahaniaeth yn ein cymunedau.

“Mae swyddogion heddlu’n dangos balchder a dewrder bob dydd i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed ac i fynd ar drywydd y rhai sy’n benderfynol o achosi niwed i eraill.

“Yn ogystal rydym wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod ein recriwtiaid newydd hefyd yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a gwnaethpwyd hyn drwy estyn allan i annog pobl i wneud cais a’u helpu drwy’r broses.

“Mae ein recriwtio wedi denu ystod eang o sgiliau a phrofiadau, a bydd hyn ond yn gwella ein gwasanaeth i’r cyhoedd yn ogystal â chryfhau ein niferoedd mewn rolau arbenigol hanfodol, fel ein Tîm Camfanteisio a’n Timau Unigolion Coll.”

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oedd un o’r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i gydweithio gyda heddluoedd i ddarparu dwy raglen newydd o dan Fframwaith newydd Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF):

Gan weithio ar y cyd â Heddlu De Cymru, mae’r Brifysgol yn darparu‘r rhaglenni hyn i swyddogion heddlu trwy’r Academi Golau Glas, canolfan ragoriaeth i ddarparu fframwaith proffesiynol newydd i hyfforddi swyddogion a staff brys.

Mae’r hyfforddiant ar gyfer recriwtiaid Heddlu De Cymru’n cael ei rannu rhwng hyfforddiant craidd i swyddogion heddlu gan Staff Gwent a De Cymru mewn lleoliadau hyfforddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chwmbrân, mewn partneriaeth â’r Brifysgol i ddatblygu, asesu ac achredu elfen gymwysterau eu hastudiaethau.

Mae’r Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP) yn rhan o’r PEQF ac mae’n ddiploma graddedig dwy flynedd. Nod y PEQF yw sicrhau arfer cyson o ran gweithredu, asesu, ac achredu’r hyfforddiant cychwynnol i’r heddlu ar draws y 43 llu yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r diploma graddedig yn cwmpasu’r arfer plismona craidd y bydd ei angen ar swyddogion er mwyn cael statws patrolio annibynnol yn eu blwyddyn gyntaf o waith ac mae’n cynnwys modylau dysgu seiliedig ar waith a ategir gan ddysgu tu allan i’r gwaith i sicrhau cymhwysedd galwedigaethol llawn ar ddiwedd yr ail flwyddyn.

Cafodd y cynllun cydweithredu rhwng y Drindod Dewi Sant a heddluoedd ei greu 4 blynedd yn ôl, mewn ymateb uniongyrchol i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona, i gyd-ddarparu Gradd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu a Diploma Graddedig mewn Arfer Plismona Proffesiynol. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu’r radd cyn-ymuno newydd mewn Plismona Proffesiynol, a luniwyd i godi safonau a phroffesiynoli plismona.

Mae gan y Drindod Dewi Sant dîm mewnol cydweithredol yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, yn cynnwys tîm y Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus, tîm Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol, a’r tîm Datblygu Prentisiaethau, sy’n gweithio mewn partneriaeth â heddlu De Cymru i ddarparu’r radd-brentisiaeth a’r diploma ôl-raddedig mewn Arfer Plismona Proffesiynol.

Y 97 o recriwtiaid newydd gydag uwch swyddogion yn sefyll yn y blaen.

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon