Skip page header and navigation

Mae’r carfannau cyntaf o Uwch Barafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Y graddedigion mewn gwisg academaidd o flaen yr Hen Adeilad, Campws Caerfyrddin.

Yn ddiweddar cyflwynodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru rôl newydd sef Uwch Barafeddyg, yn canolbwyntio’n benodol ar arweinyddiaeth glinigol reng flaen ei Pharafeddygon a’i Thechnegwyr Meddygol Brys. Lluniodd Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) yn y Drindod Dewi Sant raglen datblygu arweinyddiaeth i gefnogi hyn.

Mae hwn yn gynllun sy’n tyfu ac sy’n bwriadu datblygu rhagor o Uwch Barafeddygon bob blwyddyn. Nodwyd angen am raglen gyson, gydlynol a safonol i ddatblygu arweinyddiaeth er mwyn cefnogi staff yn y rolau hyn. Y dyfarniad sydd wedi deillio o hyn yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol (Arweinyddiaeth mewn Gwasanaethau Brys).

Mae rôl Uwch Barafeddyg yn fenter newydd o fewn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae’n ceisio datblygu rolau arweinyddiaeth glinigol i gefnogi’r gwasanaeth yn ei ymdrechion i gael mwy o arweinyddiaeth glinigol, ac i ddatblygu ymhellach wasanaeth sy’n gweithredu’n effeithiol ac sy’n addas at y dyfodol. Bwriad y swydd yw gwella lefel yr arweinyddiaeth glinigol reng flaen yn y sefydliad gyda’r prif nod o ddatblygu a gwella arfer yn ogystal â thrawsnewid y modd mae’n siapio’r clinigwyr i ddarparu gwasanaethau.

Meddai Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Parafeddygaeth yr Ymddiriedolaeth:

“Ar adeg pan fo’r gwasanaethau ambiwlans brys dan bwysau sylweddol, mae’r angen i newid a thrawsnewid y ddarpariaeth gofal yn fwy nag erioed. Gan hynny, mae sicrhau bod ein clinigwyr yn cael eu cefnogi gan arweinwyr gweithgar a brwdfrydig, sydd â dealltwriaeth gadarn o egwyddorion arweinyddiaeth a’r gallu i gyd-destunoli’r rhain yn ymarferol, yn bwysicach nag erioed.

“Gan weithio gyda’n partneriaid yn y Drindod Dewi Sant ac, yn fwy penodol, ein cyswllt Julie Crossman, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i gyflwyno rhaglen sy’n rhoi’r set sgiliau gadarn hon i’n carfan o Uwch Barafeddygon, gan eu meithrin i gefnogi ein taith drawsnewid. Elfen nodedig o’r rhaglen hon yw’r dull hyblyg o ddysgu. Mae angen digon o hyblygrwydd ar bob carfan i ddarparu ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio mewn amgylchedd dan bwysau, lle mae gwaith shifft a gofynion sy’n gwrthdaro yn galw am ddull anghonfensiynol o ddarparu addysg i ddiwallu’r anghenion hyn. Ymhellach, mae pob carfan yn gymysgedd o alluoedd academaidd, gyda phrofiad cyfredol a chefndir addysgol y dysgwyr yn amrywio, felly nid oedd dull confensiynol o weithredu taith academaidd y dysgwyr fyth yn mynd i lwyddo.

“Fodd bynnag, drwy weithio gyda Julie a’r Drindod Dewi Sant rydyn ni wedi cael rhaglen sy’n mynd i’r afael â’r holl ofynion hyn ac sydd wedi cyfrannu at gyflwyno’n timau yn llwyddiannus ledled Cymru.

Cyflwynwyd y rhaglen yn wreiddiol ar anterth y pandemig, ac ers hynny mae’r carfannau hyn wedi wynebu heriau di-ri yn y gweithle; gan gyd-bwyso bywyd teuluol, addasu i rolau arweinyddiaeth newydd ar yr adeg anoddaf yn hanes y GIG, yn ogystal ag ymgymryd â’u gwaith academaidd.

Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Ôl-raddedig, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am y Dyfarniad Rheolwr Siartredig o fewn tîm ACAPYC yn y Brifysgol.

Meddai’r Uwch Ddarlithydd Julie Crossman: 

“Mae pob myfyriwr wedi cyfoethogi a datblygu ei sgiliau arwain ers ymgymryd â’i rôl yn Uwch Barafeddyg a chychwyn ar y rhaglen datblygu arweinyddiaeth. I rai sy’n graddio, dyma oedd eu blas cyntaf o waith academaidd, er bod ganddynt flynyddoedd lawer o brofiad yn y gwasanaeth. Fodd bynnag, pob clod i’r myfyrwyr am lwyddo i gyd-bwyso gofynion eu rôl broffesiynol, eu hymrwymiadau teuluol a’u gwaith academaidd i gyflawni’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol yn llwyddiannus.

“Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar gymhwyso dysgu i arfer proffesiynol ac yn ceisio meithrin arweinwyr trawsnewidiol, gan gael y gweithlu i wynebu’r heriau o’u blaen o ran gwelliannau mewn ymarfer clinigol. Yn rhan o’u modwl terfynol, cwblhaodd y myfyrwyr brosiect seiliedig ar waith gyda’r bwriad o gyflwyno newid ystyrlon i’w meysydd cyfrifoldeb. Mae wedi bod yn anrhydedd gwirioneddol i gefnogi’r Uwch Barafeddygon yn ystod eu rhaglen astudio ac rwy’n cymeradwyo pob un ohonynt am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a’u parodrwydd i fanteisio ar y dysgu a gyflawnwyd.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau