Skip page header and navigation

Gwahoddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant siaradwyr o’r diwydiant Peirianneg Hedfan i fynychu digwyddiad yn ein hadeilad IQ yn Abertawe ar gyfer myfyrwyr a disgyblion cyfredol Ysgol Gyfun Cefn Saeson yng Nghastell-nedd.

Mae’r Awyr-lifftenant Jack DeSchoolmeester, yr Uwch-gapten Rosette Clarke-Morton, Carys Williams, un o raddedigion Peirianneg Drydanol / Electronig PCYDDS, disgybl o Ysgol Gyfun Cefn Saeson yng Nghastell-nedd a Patricia Mawuli Porter OBE yn sefyll mewn ystafell ddosbarth o flaen pedwar baner.

Gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM, a chyda ffocws penodol ar fenywod ym maes hedfanaeth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y prif siaradwr yn y digwyddiad oedd Patricia Mawuli Porter OBE, Peiriannydd ym maes awyr Hwlffordd a chyd-berchennog y cwmni awyrennau ysgafn, Metal Seagulls.  

Cefnogwyd y digwyddiad gan brosiect MADE Cymru yn y Drindod Dewi Sant, sy’n hyrwyddo uwchsgilio gweithgynhyrchwyr yng Nghymru ac sydd wedi cydweithio gyda Metal Seagulls o’r blaen. Ariennir y prosiect gan yr UE trwy Lywodraeth Cymru.

Mae Patricia bellach yn adeiladu awyrennau mewn awyrendy yn y maes awyr yng ngorllewin Cymru gyda’i gŵr, ond mae’n hanu’n wreiddiol o bentref yn Ghana lle darganfu ei hangerdd am hedfan am y tro cyntaf.

A hithau’n benderfynol o lwyddo, cafodd Patricia swydd yn y pen draw ym Maes Awyr Kpong yn Ghana er iddi gael ei gwrthod i ddechrau ‘oherwydd ei bod hi’n fenyw.’ Mae bellach yn fam ac yn berchennog cwmni, ac nid yw awydd Patricia i godi statws pobl eraill wedi newid, wrth iddi ddarparu interniaethau a chyfleoedd gwaith i bobl leol trwy Metal Seagulls.

Hi yw’r fenyw gyntaf o Ghana i gael ei hardystio’n beilot, yn beiriannydd awyrennau, yn athro ac yn hyfforddwr, a’r unig fenyw sydd wedi cymhwyso i adeiladu Peiriannau Awyrennau Rotax.

Meddai Patricia: “Mae bob amser yn bleser rhannu fy angerdd am STEM, pobl ifanc, peirianneg a hedfanaeth.  Roedd cyflwyniadau’r Drindod Dewi Sant ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 yn arbennig. Roedd siarad ochr yn ochr ag unigolion o safon mor uchel, a chyda chynulleidfa mor wych, yn bleser.  Rwy’n gobeithio y bydd fy stori’n gweithredu fel ffwlcrwm ac yn galluogi pobl ifanc i sicrhau eu llwyddiant eu hunain mewn gyrfaoedd STEM. Cofiwch mai’r unig wahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant yw gwaith caled, angerdd a phenderfyniad.”

Yn ogystal bu Carys Williams, un o raddedigion Peirianneg Drydanol / Electronig y Drindod Dewi Sant, sydd bellach yn gweithio i Metal Seagulls, yn siarad am ei thaith fel menyw ym maes STEM.

Meddai Carys: “Mae gallu siarad â phobl ifanc a dylanwadu arnynt i sylweddol bod STEM yn bwysig yn rhywbeth mae’n rhaid ei wneud y dyddiau hyn. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod mwyafrif y gweithgareddau a wnânt mewn bywyd bob dydd yn defnyddio rhyw ffurf ar STEM.

“Mae’n bwysig i bobl ifanc sylweddoli nad oes ots os nad ydynt yn cydymffurfio â’r ‘norm’. Nhw yw’r rhai fydd yn chwalu’r rhwystrau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gwnaeth yr Uwch-gapten Rosette Clarke-Morton, aelod o luoedd arfog yr Unol Daleithiau er 16 mlynedd, rannu ei thaith sydd wedi mynd â hi o amgylch y byd, yn cefnogi ymgyrchoedd milwrol. Mae wedi mwynhau gyrfa amlochrog yn gweithio ym maes cudd-wybodaeth, diogelwch, hedfanaeth, a gorfodi’r gyfraith.

Ar hyn o bryd mae’r Uwch-gapten Clarke-Morton wedi’i neilltuo i Gatrawd Signal 14 y fyddin Brydeinig fel uwch swyddog cyfnewid ym Mreudeth, Sir Benfro.

Mae Patricia Mawuli Porter OBE yn sefyll o flaen sgrin yn rhoi cyflwyniad.

Rhoddodd yr Awyr-lefftenant Jack DeSchoolmeester gyflwyniad ynghylch gweithio fel peiriannydd i’r Red Arrows, un o dimau arddangos campau hedfan gorau’r byd.

Meddai: “Mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn STEM. Rwy’n falch iawn i allu cynrychioli Tîm Campau Hedfan yr Awyrlu Brenhinol, y Red Arrows, yn Abertawe, fy nhref enedigol, i dynnu sylw at y modd rydym yn ymgorffori STEM yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd. Roedd yn anrhydedd i siarad ymhlith panel mor dalentog o Fenywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac i dynnu sylw at lwyddiannau’r Menywod sydd gennym yn y Red Arrows.”

Bu’r digwyddiad yn archwilio’r themâu cyffredinol o chwalu rhwystrau er mwyn sicrhau llwyddiant ac yn amlygu rhai llwybrau gyrfa cyraeddadwy i’r myfyrwyr a’r disgyblion ysgol oedd yn bresennol. Roedd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar draws gorllewin Cymru i ddathlu’r diwydiant hedfanaeth gan gynnwys cystadleuaeth a drefnwyd gan Faes Awyr Hwlffordd ar gyfer Diwrnod Menywod Cymru.

Meddai Abi Summerfield, uwch ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant:  “Wrth feddwl pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn bwysig, mae’n dipyn o her i recriwtio merched i faes STEM. Mae gwyddoniaeth yn gwneud yn dda gyda rhaniad o bron i 50/50, ond mae peirianneg a chyfrifiadura ymhell ar ei hôl. Felly mae angen mentrau ac achlysuron fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i godi ymwybyddiaeth ac i’n helpu i weithio tuag at chwalu’r rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig i gynyddu’r gweithlu benywaidd ar gyfer pob maes, ond yn enwedig y rhai lle mae’r diffyg yn parhau.”

Un o raddedigion Peirianneg Drydanol / Electronig PCYDDS, Carys Williams, yn sefyll o flaen sgrin yn rhoi cyflwyniad.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau