Skip page header and navigation

Ar 6 Mehefin, croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant chwe thîm o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o wahanol Ysgolion a Cholegau i’w champws Glannau Abertawe, er mwyn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn amrywiaeth o heriau.

Chwe thîm o fyfyrwyr blwyddyn 12 o wahanol ysgolion a cholegau wedi ymgasglu y tu allan i adeilad IQ PCYDDS i ymgymryd ag ystod o heriau a gynhelir gan staff yr Academi Golau Glas.

Pwrpas y diwrnod oedd dod â myfyrwyr sy’n astudio gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd at ei gilydd neu sydd â diddordeb brwd mewn astudio Plismona Proffesiynol, Troseddeg neu Reoli Chwaraeon yn y dyfodol.

Cafodd yr heriau eu rhedeg gan ddarlithwyr a chynrychiolwyr o Heddlu De Cymru ac roeddent yn  cynnwys  amrywiaeth o weithgareddau megis gemau chwaraeon, Stopio a Chwilio a thasgau troseddeg.

Yn dilyn y rhain cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr gwestiynu’r academyddion niferus a oedd yn bresennol am gyrsiau a llwybrau gyrfa yn y dyfodol.

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas Y Drindod Dewi Sant: “Roedd yn bleser croesawu myfyrwyr blwyddyn 12 i’n diwrnod Her Academi Golau Glas gan ddod â nhw  i’r campws i gael blas ar fywyd prifysgol a chwrdd â’r academyddion a’r gweithwyr proffesiynol o faes plismona, troseddeg a’r gyfraith.

“Gweithiodd y myfyrwyr gyda’i gilydd i ddatrys dirgelwch llofruddiaeth, gwneud gwaith Stopio a Chwilio, a chystadlu mewn heriau chwaraeon.  Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu ateb eu cwestiynau am gyrsiau a chyfleoedd yn Y Drindod Dewi Sant, ac mae rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at ddiwrnod her y flwyddyn nesaf.”

Daeth Cwnstabl Aaron Biddiscombe o  Heddlu De Cymru, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, i’r digwyddiad, a dweud: “Mae’r amrywiaeth o gyfleusterau yn Y Drindod Dewi Sant yn  gyfoes a thrawiadol, ac mae sawl cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â staff, swyddogion heddlu a SCCH. Ces i a’m cydweithwyr groeso cynnes, ac fe wnes i fwynhau’r digwyddiad yn fawr.”

Meddai Rebecca Mugford, darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Gŵyr “Cafodd myfyrwyr Coleg Gŵyr gipolwg gwerthfawr ar y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn Y Drindod Dewi Sant. Roedd y diwrnod gyfle i’n myfyrwyr gwasanaeth amddiffynnol mewn lifrai, gael profiad o weithgareddau penodol i’r cwrs gan gynnwys ymchwilio i lofruddiaeth, gan ganiatáu iddyn nhw wella eu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu.”

Meddai Carolann Healy, darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi cyfle unigryw i’n myfyrwyr ddarganfod a phrofi beth yw prifysgol a beth y gallant ei ddisgwyl gan Y Drindod Dewi Sant. Mae’r gweithgareddau wedi bod yn ddiddorol ac wedi’u hystyried yn dda ac wedi eu helpu gyda’u sgiliau gweithio a chyfathrebu tîm. Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau eu profiad ac maen nhw eisoes yn edrych ymlaen at astudio yma.”

Meddai Ioan Bebb, athro o Ysgol Gymraeg Ystalyfera: “Mae pob un o’n myfyrwyr wedi mwynhau’n fawr yr holl weithgareddau a ddarparwyd ac roedd y wybodaeth yn werthfawr iddyn nhw. Roedd y cyflwyniadau’n glir ac yn hawdd eu dilyn, ac yn sicr fe brynodd yr heriau’r ysbryd cystadleuol! Unwaith eto, mae’r Drindod Dewi Sant wedi darparu profiad o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr.”

Dywedodd un o’r myfyrwyr, Morgan Palmer o Goleg Gŵyr: “Rhoddodd y diwrnod y sgiliau y galla i eu defnyddio yn y dyfodol. Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn yr holl heriau a chwrdd â phobl newydd. Roedd staff y Brifysgol yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo’n ddiolchgar. Byddwn wrth fy modd yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn eto.”

Cyflwynwyd tlws i’r tîm buddugol, o gampws Tŷ Coch Coleg Gŵyr, gan Rhiannon Lloyd, Rheolwr Rhaglen Plismona Proffesiynol, a oedd yn allweddol wrth drefnu’r digwyddiad ochr yn ochr â thîm  Ehangu Mynediad y Brifysgol.

Meddai: “Roedd yn wych gweld myfyrwyr o bob cwr o’r rhanbarth yn dod i’r campws ac yn gwneud eu hysgolion a’u colegau yn falch. Rydym yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr hyn eto ar y diwrnod agored nesaf lle gallan nhw ddysgu rhagor am barhau â’u taith gyda’r Drindod Dewi Sant.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau