Y Drindod Dewi Sant yn cynnal ‘Noson o’r Sioe’ yn Llambed
Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at gynnal cyngerdd mawreddog o fyd y sioeau cerdd ar gampws Llambed fis Mehefin.
![Poster WAVDA PCYDDS ar gyfer Noson o’r Sioe.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/UWTSD-to-hold-A-Night-At-the-Musicals-in-Lampeter1.jpg?h=e85f6c07&itok=V8BA7035)
Bydd y gyngerdd hon, a gynhelir yn Neuadd y Celfyddydau ar Gampws Llambed nos Sadwrn, Mehefin 17eg am 7.30 yr hwyr, yn cynnwys perfformiadau gan sêr y West End Luke McCall a Samuel Wyn Morris; Myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, a Chôr Ysgol Bro Pedr, gyda’r amryddawn Caradog Williams yn cyfeilio. Yn arwain y noson fydd un o sêr tref Llambed, Gillian Elisa.
Dywedodd Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr, Llambed:
“Mae’n anrhydedd i Ysgol Bro Pedr dderbyn y gwahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad arbennig iawn hwn a drefnwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Fel ysgol, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n prifysgol leol, ac mae ein disgyblion yn elwa’n fawr o’r bartneriaeth hon”.
Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed:
“Fel rhan o’r broses o gryfhau’r berthynas rhyngddi a chymuned Llambed, mae’r Brifysgol yn falch iawn o ddenu rhai o sêr y West End – gan gynnwys rhai o’n cyn-fyfyrwyr – i’r campws fis Mehefin. Bydd y cyngerdd yn adeiladu ar lwyddiant Cyngerdd y Daucanmlwyddiant y llynedd gan roi llwyfan i artistiaid lleol yn ogystal. Mi ddylai fod yn noson i’w chofio.”
Mae modd archebu tocynnau i’r gyngerdd drwy ddilyn y ddolen hon. Trinity Saint David online ticket sales powered by TicketSource. Mae’r tocynnau yn £10 yr un.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476