Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu potensial mewn pynciau STEM
Ymwelodd merched blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera â champws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe i brofi cyfleoedd dysgu STEM.
![Merched ysgol yn sefyll mewn rhes y tu ôl i brototeip o siasi glas.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-12/uwtsd-offers-students-an-opportunity-to-explore-their-potential-in-stem-subjects.jpg?h=d2f8208b&itok=evk4aaSu)
Y nod oedd darparu profiad ymarferol a chyflwyno’r disgyblion i gyrsiau a gyrfaoedd ym maes TG a STEM.
Roedd y digwyddiad yn rhan o gyfres Ehangu Mynediad cyfredol y Brifysgol sef ‘Merched mewn TG’ sydd eisoes wedi rhoi cyfle i dros 200 o ferched ysgol brofi cyfleusterau o’r radd flaenaf y Brifysgol a chlywed gan siaradwyr arbenigol.
Meddai Rhodri Noakes, Swyddog Ehangu Mynediad yn y Drindod Dewi Sant:
“Rwy wrth fy modd i fod yn rhan o fenter sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o addysg uwch a chyfleoedd llwybr a gyrfa, modelau rôl a rhaglenni mentora i ferched gyda menywod mewn STEM . Nod y sesiynau blasu yw gwella’r canfyddiad fod pynciau STEM yn ‘anodd’ neu’n ‘anhygyrch’ i ferched, a rhoi cipolwg gwerthfawr ar lwybrau gyrfa ac amgylcheddau gwaith cyn i ddisgyblion wneud eu dewisiadau pwnc TGAU.
“Gobeithio bydd ein sesiynau blasu Merched mewn STEM yn rhoi sgiliau a hyder i ferched i lwyddo mewn mathemateg a gwyddoniaeth.”
![Y merched ysgol yn gwrando ar Abigail Penny yn ystod taith o’r gweithdy.](/sites/default/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-12/uwtsd-offers-students-an-opportunity-to-explore-their-potential-in-stem-subjects-2.jpg?h=869d9947&itok=GtVQxDpf)
Gan fod llwybrau i yrfaoedd STEM yn cael eu ffurfio’n gynnar wrth ddewis pynciau TGAU a lefel A, mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn cefnogi’r ymdrechion hyn drwy gynnig sesiynau blasu i ddisgyblion sydd â diddordeb mewn Cyfrifiadura, Peirianneg, Adeiladu neu astudiaethau Amgylcheddol. Mae’r cyrsiau blasu arbennig hyn wedi’u sefydlu i geisio gwella’r canfyddiad fod pynciau STEM yn ‘anodd’ neu’n ‘anhygyrch’ i ferched.
Sefydlwyd y fenter hon mewn ymateb i ymchwil gan Ymgyrch WISE a amlygodd mai dim ond 21% o’r holl weithlu Technoleg yn y DU yn 2021 oedd yn weithwyr proffesiynol TG benywaidd, a dim ond 12.5% oedd yn Beirianwyr benywaidd, sy’n dangos yr angen am anogaeth ychwanegol i fenywod a merched i fynd i’r meysydd hyn.
![Mae'r myfyrwyr mewn ystafell gyfrifiadurol yn gwrando ar Yolanda Rendón Guerrero; mae sgrin y tu ôl iddynt yn darllen: Gweithgaredd Modelu 3D TinkerCAD.](/sites/default/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-12/uwtsd-offers-students-an-opportunity-to-explore-their-potential-in-stem-subjects-3.jpg?h=869d9947&itok=gM0Sjjr8)
Meddai Dr Ewa Kazimierska, darlithydd cemeg a rheolwr y rhaglen Brentisiaeth mewn Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron yn y Drindod Dewi Sant:
Profodd y digwyddiad ‘Merched mewn STEM’ yn y Drindod Dewi Sant fod gan ferched o bob cefndir y potensial i ragori yn y meysydd cyffrous a boddhaus hyn. Trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol a’u cyflwyno i gymwysiadau’r byd go iawn, rydym yn tanio diddordeb mewn STEM ymhlith merched o ysgolion cyfun lleol, gan eu grymuso i ddilyn eu breuddwydion a dod yn arloeswyr, gwyddonwyr neu beirianwyr y dyfodol’.
Yn ystod y digwyddiad, llwyddodd disgyblion i ddarganfod rhagor am fyd TG a thechnoleg a gyrfaoedd mewn STEM. Bu dau siaradwr gwadd o adran Systemau a Seilwaith TG y Drindod Dewi Sant, Swathi Padmanabhan ac Amina Meah, yn sôn am eu profiadau mewn gyrfaoedd STEM, o addysg i brentisiaethau, i weithio yn y Brifysgol.
Rhoddodd Yolanda Rendón Guerrero, Cymrawd Arloesi yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol y Brifysgol (ATiC) gyfle i’r merched ysgol ddysgu am argraffu 3D a dangos y math o dechnolegau maent yn eu defnyddio yn y ganolfan ymchwil. Cafodd disgyblion gyfle hefyd i fodelu eu dyluniadau eu hunain gan ddefnyddio TinkerCAD.
Aeth Abi Penny o’r adran Beirianneg â’r merched ar daith o amgylch y labordai a’r cyfleusterau fel y gallai’r merched gael cipolwg ar yr hyn sydd gan y brifysgol i’w gynnig.
Cyflwynodd Rich Morgan o’r rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol sesiwn dylunio gemau a oedd yn cynnwys ymarfer grŵp ar fapio’r meddwl i drafod ac archwilio pwy sy’n chwarae gemau a pham, ac yna cafwyd profiad o gêm i aml-chwaraewyr a fwriadwyd i roi enghraifft o gasglu ymchwil gwreiddiol trwy ymgysylltu a chwarae gweithredol.
![Y myfyrwyr yn eistedd wrth gyfrifiaduron; mae’r sgriniau’n dangos dyluniadau gemau ar blatfform lliwgar.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-12/uwtsd-offers-students-an-opportunity-to-explore-their-potential-in-stem-subjects-4.jpg?h=919d6fad&itok=Kd8U2HlT)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476