Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi eu cydnabod mewn seremoni arbennig i ddathlu eu cyfraniad i gynllun mentoriaid Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid.

Group of students holding certificates stand outside historic university building.

Nod cynllun mentoriaid Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL) Y Drindod Dewi Sant yw gwella profiadau myfyrwyr blwyddyn gyntaf, drwy hwyluso’r broses bontio i’r brifysgol, helpu i gadw myfyrwyr, a darparu cyfleoedd i fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn ddatblygu eu priodoleddau graddedig.

Mae’r cynllun yn cynnal sesiynau galw heibio wythnosol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf (wyneb yn wyneb ac ar-lein) a gynhelir gan fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn, er mwyn creu cymunedau dysgu croesawgar a chyfeillgar o amgylch rhaglenni astudio penodol. Gall myfyrwyr y flwyddyn gyntaf drafod eu gwaith cwrs gyda myfyrwyr ail flwyddyn a thrydedd flwyddyn hyfforddedig a dan oruchwyliaeth sy’n deall yr heriau a ddaw yn sgil eu rhaglen astudio. Nid yw staff academaidd yn bresennol yn y sesiynau. 

Bellach mae cynlluniau dysgu cymheiriaid megis PAL yn rhan annatod o fywyd prifysgol myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled y byd.

Meddai Christopher Fleming, goruchwyliwr PAL yn Y Drindod Dewi Sant:

“Mae corff sylweddol o ymchwil yn dangos y gall y cynlluniau hyn wella ymdrechion i gadw myfyrwyr, gwella profiadau myfyrwyr, datblygu priodoleddau graddedigion, a gwella graddau. Mae cyfleoedd i gwrdd â chyfoedion, yn yr un flwyddyn (rhyngweithio llorweddol) ac o flynyddoedd uwch (rhyngweithio fertigol) yn cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr â’u Sefydliad Addysg Uwch a’u hymdeimlad o berthyn iddo, sy’n agwedd hanfodol ar gadw myfyrwyr.”

Meddai Rhys Dart, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr yn Y Drindod Dewi Sant:

 “Mae cymorth ac arweiniad yn  elfen hanfodol o brofiadau myfyriwr a’r profiad academaidd yn Y Drindod Dewi Sant. Rydyn ni’n yn cynnig ystod lawn o wasanaethau cymorth yn y Brifysgol ond mae rhwystrau o hyd yn atal pobl rhag manteisio ar wasanaethau.

“Mae’n wych cael myfyrwyr sy’n barod i roi o’u hamser i eraill a manteisio ar eu profiad.  Gobeithio bod y profiad wedi bod o fudd i chi’ch hun a’ch datblygiad eich hun yn ogystal â’r myfyrwyr y maent wedi’u mentora. 

“Un o brif nodweddion a chryfderau dysgu gyda chymheiriaid yw ei bod yn haws manteisio arno a’i fod ar gael. Er mwyn bod mewn sefyllfa i weithredu’n fentor cymheiriaid, rwy’n gwybod eich bod wedi gorfod ymrwymo i raglen hyfforddi gynhwysfawr fel y gallwch nodi materion ehangach yn briodol a chyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol priodol yn ôl yr angen.

“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch a llongyfarchiadau wrth y tîm PAL, ac i holl staff y rhaglen academaidd sydd wedi cymryd rhan ym mlwyddyn dreialu’r rhaglen eleni.”

Mae llawer o fyfyrwyr wedi elwa o’r cynllun ac yn teimlo ei fod wedi eu helpu gyda’u datblygiad yn fyfyriwr, ac yn unigolyn. Meddai Christine Joy, Mentor PAL mewn Busnes:

“Rwy wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd a’u rhoi ar waith, mae hyn wedi rhoi hwb i mi ac wedi fy annog i geisio symud ymlaen i radd ôl-radd addysgu ffurfiol. Rwy wedi magu hyder yn fy sgiliau a phob sesiwn rwy’n dysgu rhywbeth newydd ac yn addasu’r ffordd rwy’n rhedeg y sesiynau’n gyson, fel bod y myfyriwr yn gwneud yn fawr o PAL.”

Meddai Kirsty Wright, Mentor PAL mewn Cymdeithaseg / Eiriolaeth:

“Gallaf ddweud yn bendant fy mod i wedi magu hyder enfawr yn fy ngalluoedd fy hun trwy ddod yn fentor PAL, a oedd yn un o’r prif bethau rwy’n gobeithio ei ennill!

Teimlai Jessica Rowe, Mentoriaid PAL mewn Cymdeithaseg/Eiriolaeth fel hyn am y profiad:

“Yn sicr bu’n werth yr ymdrech rydyn ni wedi’i gwneud hyd yma, yn enwedig pan welwn ni mai’r hyn rydyn ni’n ei wneud yw helpu’r myfyrwyr - mae’n amlwg bod ein hyder, a hyder y myfyrwyr sydd wedi bod yn bresennol, wedi tyfu gyda’i gilydd. Mae’r profiad hefyd wedi helpu i gadarnhau’r wybodaeth a ddysgais i yn ystod fy mlwyddyn astudio flaenorol.”

Meddai Jo Kelleher, Goruchwyliwr PAL Y Drindod Dewi Sant:

“Hoffai tîm Goruchwylwyr PAL Y Drindod Dewi Sant estyn ein diolch cynhesaf i’r mentoriaid PAL rydym wedi gweithio gyda nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi, ac ni fyddai hyn yn bosibl heboch chi. Rydym wedi cael ein plesio’n arbennig gan sut rydych wedi defnyddio’r hyfforddiant a’ch profiad i helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu ym mywyd prifysgol ac adeiladu eich cymunedau dysgu eich hun. Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r digwyddiadau dathlu, a phob dymuniad gorau i chi ar gyfer y dyfodol.”

Four students stand in a line, holding certificates and smiling.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau