Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda grŵp o rieni o Ysgol Gynradd Awel y Môr ym Mhort Talbot, gan gynnig cyrsiau ‘cerrig camu’ 4 wythnos sy’n cynnwys ystod o sgiliau.

Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd yn sgwrsio.

Ym mis Ebrill, dechreuodd dysgwyr raglen 4 wythnos “Troseddu, Niwed a Chymuned” a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd ar ran Y Drindod Dewi Sant gan y Darlithydd Troseddu, Dr Bridget Kerr. Datblygodd cyfranogwyr sgiliau meddwl beirniadol a dysgu’r syniadau diweddaraf ym maes Troseddeg. Dysgon nhw hefyd sut i wneud synnwyr o bŵer, trosedd a niwed yn eu cymuned leol a sut i gymryd rhywfaint o’r pŵer hwnnw’n ôl.

Cyn y cwrs hwn, roedd y grŵp wedi cwblhau cwrs 4 wythnos “Byw Bywyd i’r Eithaf” i wella llesiant a gwydnwch, a gyflwynwyd gan Adran Ehangu Mynediad Y Drindod Dewi Sant, a ddysgodd ystod o sgiliau bywyd yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol.

Meddai Elizabeth Watkins, un o’r dysgwyr sy’n oedolion sydd wedi cwblhau dau gwrs cerrig camu’r Drindod Dewi Sant: “Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn y ddau gwrs gyda’r Drindod Dewi Sant oherwydd rhoddodd bersbectif newydd i mi ar bethau na fyddwn i’n meddwl amdanyn nhw, fel arfer.

“Gwnaeth y cwrs ‘Byw Bywyd i’r Eithaf’ fy helpu i symud fy meddylfryd i ffwrdd o feddyliau negyddol, a dangos i mi y gallwn gyflawni pethau pe bawn i’n eu torri i lawr yn ddarnau, un cam ar y tro. Mae dysgu am Droseddeg wedi newid fy marn ar beth yw trosedd mewn gwirionedd a sut rwy’n gweld pethau mewn bywyd bob dydd. Edrychaf ymlaen at ragor o gyrsiau gyda’r Drindod Dewi Sant ac at ddatblygu fy sgiliau ymhellach.”

Meddai Donna Williams, Swyddog Ehangu Mynediad Y Drindod Dewi Sant: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda rhieni yn Awel y Môr. Rydyn ni wedi meithrin cysylltiad cryf â’r grŵp, ac o fewn cyfnod byr mae ein cyrsiau wedi helpu unigolion i nodi eu cryfderau a’u sgiliau eu hunain, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

“Rwy’n eiddgar i gynnig rhagor fyth o gyfleoedd dysgu yn y dyfodol - mae rhai eisoes wedi cofrestru ar gyfer dosbarth meistr Celf Mehefin Y Drindod Dewi Sant – ac i ddod â dysgwyr newydd i’n campysau. Mae ymgysylltu â phobl yn ein cymunedau yn hanfodol i godi dyheadau ac i symud y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad i Addysg Uwch a dysgu pellach.”

Meddai Dr Bridget Kerr: “Yr agwedd fwyaf cyffrous ar addysgu yw’r ffaith ei fod yn stryd ddwyffordd. Mae’n fraint ennyn diddordeb cymunedau mewn Troseddeg, cymryd rhan mewn damcaniaethau a thystiolaeth flaengar sydd â pherthnasedd yn y byd go iawn, ac i ddatblygu dyheadau, diddordebau a hyder yn gam tuag at ddysgu pellach.

“Yn ogystal, mae profiadau amrywiol a safbwyntiau craff cyfranogwyr yn bwydo i mewn, yn cyfoethogi ac yn bywiogi fy meddwl fy hun ynghylch sut rydym yn deall ac yn ymateb i broblemau hollbwysig megis ‘trosedd’ a ‘niwed’ yn ein cymunedau, yn y byd academaidd, a thu hwnt.”


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau