Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi partneru gyda’r cwmni ynni EDF a’r Consortiwm Ynni (TEC) yn rhan o’i thaith tuag at Sero Net.

Golwg o’r awyr o Adeilad Dinefwr yn Abertawe yn dangos y paneli solar sydd ar y to.

Mae’r bartneriaeth hon wedi arwain at osod mwy na 1200 o baneli Solar ffotofoltaig ar 6 adeilad ledled ystâd y Brifysgol yn Abertawe a Llambed. Mae’r gosodiad mwyaf o’r rhain ar adeilad Dinefwr yng nghanol Abertawe.

Mae Dan Priddy, Rheolwr Perfformiad Cyllid a Busnes y Drindod Dewi Sant yn egluro:

“Roedden ni eisoes wedi gwneud rhai o’r camau cyflym ymlaen, fel newid i fylbiau LED, gosod switsys amseru, ac insiwleiddio adeiladau. Roedd hi’n amser ystyried sut y gallem oresgyn y rhwystrau i wireddu syniadau mwy o faint, fel hunangynhyrchu, a all wneud mwy o wahaniaeth. Wedi’r cyfan, ein busnes ni yw addysgu myfyrwyr i feddwl yn greadigol, felly roedd angen i ni arwain y ffordd.”

Paneli solar ar do adeilad ar Gampws Llambed.

Cefnogwyd y Brifysgol gan y Consortiwm Ynni (TEC) i edrych ar sut y gallai oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n unigryw i’r sector a allai ei hatal rhag cynhyrchu ei hynni adnewyddadwy ei hun, gan gynnwys y gwariant cychwynnol ar gyfer yr offer, neu’r amser sydd ei angen ar gyfer gwaith gosod.

Mae Paula Ponting, Cynghorydd Gwasanaethau Aelodau TEC, yn egluro rhai o’r rhwystrau y gall y sectorau addysg eu hwynebu. Meddai:

“Gall caffael fod yn broses gymhleth sy’n mynnu buddsoddiad, amser, ac arbenigedd ychwanegol. Gall mynediad ar gyfer gwaith gosod fod yn anodd hefyd, oherwydd yn ystod y tymor, rhaid blaenoriaethu cynnal diogelwch, parhad, a chyfleustra profiad y myfyrwyr. Wedyn, wrth gwrs, mae’r pwysau ar gyllidebau, gyda’r ansicrwydd presennol, yn ogystal â galwadau am gyllid sy’n gwrthdaro.”

“Yr allwedd i ddatgloi’r cyfle hwn, yn gyflym, yw’r Fframwaith a gynigir gan TEC i’w aelodau, gydag EDF fel y partner cyflenwi sy’n cynnig atebion ynni adnewyddadwy Sero Net ychwanegol.

“Wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer sefydliadau addysgol, mae’n sicrhau llwybr syml i osod offer hunangynhyrchu sy’n cydymffurfio â’r gofynion. Mae pob cam o’r ffordd eisoes wedi’i bennu, ei gytuno, a’i brofi. Felly, mae’n haws i reolwyr ynni mewn sefydliadau addysgol glustnodi cyllideb, cael cefnogaeth rhanddeiliaid mewnol a chychwyn arni â’r prosiect. Ein nod yw helpu sefydliadau addysgol gyflawni Sero Net, nid yn unig ar gyfer eu campysau ond ar gyfer eu myfyrwyr hefyd.”

Mae Peter Darke, Rheolwr Perthnasoedd EDF, yn egluro sut mae’r bartneriaeth yn gweithio.

“Trwy’r Fframwaith, mae TEC yn darparu pont rhwng sefydliadau addysgol, sydd am weithredu atebion ynni cynaliadwy – a darparwyr ynni cynaliadwy fel EDF, sydd hefyd yn cyfrannu profiad, arbenigedd, ac arloesi.

Ychwanegodd Dan Priddy;

“Mae gan y Brifysgol 200 mlynedd o hanes ac mae wedi bod yn dyst i nifer fawr o ddyfeisiadau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Nawr, ein gobaith ni yw arwain y ffordd mewn cynaliadwyedd a thuag at Sero Net.

“Diolch i’r paneli solar sydd wedi’u gosod ar dri tho, mae adeilad Dinefwr, sy’n gartref i Goleg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant, bellach yn rhedeg ar ynni solar. Yn y 1820au, pwy fyddai wedi meddwl y byddai ynni o’r haul yn pweru gwaith ein myfyrwyr mewn celf a dylunio yn y 2020au, a llu o ddisgyblaethau eraill sy’n defnyddio atebion digidol. Ond dim ond y dechrau yw hyn i ni.  

“Gyda TEC ac EDF y tu cefn i ni, byddwn yn parhau nid yn unig i gyflwyno ein prosiect cynhyrchu solar ledled ein campysau, ond rydym hefyd yn agored i gyfleoedd ynni cynaliadwy eraill, gan ddefnyddio technolegau ynni cynaliadwy newydd wrth iddynt ddod i’r amlwg.”

Mae ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd yn thema allweddol, ac mae myfyrwyr yn ei chroesawu.

Meddai Lucy Fairbrother, o Fryste, sydd yn ei blwyddyn olaf o’r cwrs Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd:

“Mae cyhoeddi datganiadau sy’n dweud eich bod chi’n ecogyfeillgar yn un peth. Ond mae buddsoddi go iawn mewn ynni solar yn gofyn am wir ymroddiad.”

Ac mae Joshua Todd, o Stroud, Sir Gaerloyw, sy’n astudio Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yn cytuno:  

“Rwyf ar hyn o bryd yn edrych ar y gwelliannau i systemau adeiladu i’w gwneud yn fwy ynni-effeithlon, ynghyd â systemau cyflenwi ynni. Mae fy nghenhedlaeth innau’n gwerthfawrogi gallu gweithio ac astudio mewn adeilad effeithlon o ran ynni. I ni, mae’n golygu bod ein dyfodol yn edrych yn fwy disglair bob dydd.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, i gloi:

“Mae’r ffordd at Sero Net yn gymharol ansicr, ond mae’r atebion i’r ansicrwydd hynny i’w cael ymhlith ein corff myfyrwyr.

“Ein rôl ni, does dim ots pa deitl swydd sydd gennym, yw annog ein holl fyfyrwyr i feddwl a gweithredu’n wahanol. Ac mae’r rhaglen hunangynhyrchu hon yn rhan o’r profiad hwnnw i fyfyrwyr.

“Gobeithio y bydd yn pweru’r gwaddol y mae’r genhedlaeth nesaf hon yn ei gadael ar ei hôl: byd mwy cynaliadwy.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon