Skip page header and navigation

Ar ôl astudio gradd Seicoleg Gymhwysol, derbyniodd Jemma King rôl gydag elusen ieuenctid o Geredigion, Area 43, sy’n cefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles trwy gynnig lle iddynt i gymdeithasu ac ymofyn cyngor.

Jemma King yn sefyll yn ei gŵn a chap Graddio.

Jemma yw Rheolwraig Gwasanaethau Depot yn Aberteifi sef canolfan sy’n berchen i Area 43. Mae yna gaffi ac ardal digwyddiadau a chyfarfod yn y ganolfan, ac mae’n croesawu aelodau o’r gymuned sydd yn 14 i 25 oed i alw yn y man diogel hwn lle fyddan nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain a theimlo eu bod yn cael eu clywed.

Mae Depot, sydd wedi croesawu ymweliadau gan Lysgennad Iechyd Meddwl Ieuenctid y DU, Dr Alex George, wedi’i ffurfio trwy wrando ar adborth y bobl ifanc sy’n defnyddio’r ganolfan, ac mae hwn yn hanfodol wrth wneud iddynt deimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cefnogi.

Pan gawsom sgwrs i ddal i fyny â Jemma, dyma beth oedd ganddi i’w ddweud am ei rôl a sut wnaeth ei chwrs yn y brifysgol ei helpu i benderfynu ar ei llwybr gyrfa:

Profiad gwobrwyol

“Rhan o fy rôl i yw rhoi clust diragfarn ac empathetig i’r rheiny sy’n dod trwy ddrysau’r ganolfan.

Heddiw, yn fwy nag erioed o’r blaen,  mae llawer o bobl ifanc yn dioddef o straen, pryder cymdeithasol, a diffyg hunan-barch. Yn Depot, ein nod yw helpu’r bobl ifanc hyn i ddod o hyd i’w llwybr drwy ddatrys problemau gyda nhw, a’u cyfeirio at y gwasanaethau cwnsela rhad ac am ddim sydd ar gael ar y safle

Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy rôl yw gweld y siwrnai y mae’r bobl ifanc sy’n defnyddio ein cyfleusterau yn mynd drwyddi i ddod yn unigolion hyderus sy’n obeithiol am greu newid. Mae Depot yn rhywle y gallant wneud ffrindiau newydd a dod o hyd i’r ymdeimlad yna o berthyn.

Pan dwi’n disgrifio fy ngweithle, mae llawer o bobl  yn dweud y byddent wedi hoffi dod o hyd i le fel hyn pan oedden nhw yn ifanc. Mae’n rôl wobrwyol iawn ac mae Depot yn gyfleuster anhygoel i’r gymuned ifanc.”

Dau lun yn dangos y tu mewn i’r Depot yn Aberteifi, gorllewin Cymru.

Dod o hyd i’m llwybr

“Roeddwn i wastad yn gwybod fy mod i eisiau helpu pobl i ddeall y rhesymau dros y ffordd yr oeddent yn ymddwyn. Tra’n astudio Seicoleg Gymhwysol yn Y Drindod Dewi Sant, fe wnaeth yr amrywiaeth o fodiwlau y cyflwynwyd inni fy helpu i yn fawr iawn i ddod o hyd i’m llwybr.

Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dysgu am ddatblygiad meddyliau ifanc, yn enwedig sut mae cemeg yr ymennydd yn dylanwadu ar feddyliau ac ymddygiadau. Mae astudio hyn wedi fy helpu yn fy rôl bresennol i ddangos tosturi at bobl ifanc ac ystyried a deall yr heriau y gallent fod yn eu hwynebu.

Rwy’n gobeithio yn y dyfodol i astudio ar gyfer gradd meistr mewn seicotherapi i ddarparu cefnogaeth a chyngor manwl i bobl ifanc oherwydd dwi’n credu bod ymyriadau cynnar yn allweddol, ac felly dwi am fod yn rhan o’r broses i’w helpu i geisio am y cymorth cynnar sydd ei angen arnynt.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau