Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi partneriaeth gydweithredol rhwng y Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) ac adrannau’r Athrofa Addysg, sydd wedi’i hanelu at gefnogi myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglen yr MA Cenedlaethol mewn Addysg.

A cohort of the Professional Practice Framework sitting around a table at a conference/ lecture

Yn ystod yr Wythnos Dysgu yn y Gwaith ym mis Mai, a thrwy’r bartneriaeth hon, mae’r Tîm Arfer Proffesiynol wedi bod wrthi’n cynorthwyo myfyrwyr yr Athrofa sy’n ceisio hawlio credydau dysgu drwy brofiad i gwmpasu tri modwl gwerth cyfanswm o 60 credyd, gan gyfoethogi eu taith addysgol a’u datblygiad proffesiynol.

Mae rhaglen yr MA Cenedlaethol mewn Addysg yn cynnig archwiliad cynhwysfawr i fyfyrwyr o arfer ar sail tystiolaeth, addysgeg, ac arfer proffesiynol cydweithredol, gan eu paratoi i ragori mewn lleoliadau addysgol amrywiol. Yn rhan o’r rhaglen, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn modylau sydd wedi’u cynllunio i ddyfnhau eu dealltwriaeth a gwella eu heffeithiolrwydd yn ymarferwyr addysgol.

Meddai Alison Evans:

“Yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y cwrs Meistr Cenedlaethol yn yr Athrofa yn PCYDDS, rwy’n croesawu’r bartneriaeth gref rydym wedi’i chreu gyda chydweithwyr yn y tîm Arfer Proffesiynol. Mae hyn yn caniatáu athrawon mewn swydd nad oes ganddynt gredydau lefel 7 ar hyn o bryd i adfyfyrio ar eu harfer a dangos tystiolaeth o sut mae eu sgiliau a’u profiadau’n cyfateb i ddeilliannau dysgu’r modylau Meistr. 

“Mae myfyrwyr yn dweud bod dilyn y cwrs meistr wedi herio eu tybiaethau, caniatáu iddynt rwydweithio ag athrawon eraill ledled Cymru, eu cyflwyno i ddamcaniaethau gwahanol a darparu cyfleoedd i roi cynnig beirniadol ar bethau gwahanol yn eu dosbarthiadau eu hunain.”

Fe wnaeth Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd yn nhîm Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS, fynegi brwdfrydedd am y cydweithrediad, gan ddweud:

 “Mae ein partneriaeth gyda’r Athrofa’n cynrychioli ymrwymiad ar y cyd i roi cyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr ar gyfer dysgu drwy brofiad a thwf proffesiynol. Trwy integreiddio profiadau ymarferol ac adfyfyrio academaidd, mae myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o arferion addysgol ac yn cyfrannu at newid cadarnhaol mewn lleoliadau addysgol.”

Pwysleisiodd Lowri Harris, Uwch Ddarlithydd yn FfAP PCYDDS, werth dysgu drwy brofiad o ran gwella profiadau addysgol myfyrwyr, gan ddweud:

 “Mae’r cyfle i fyfyrwyr hawlio credydau dysgu drwy brofiad yn cyd-fynd ag ethos y Fframwaith Arfer Proffesiynol, sy’n ceisio cydnabod a dilysu arwyddocâd profiadau ymarferol wrth siapio datblygiad proffesiynol.”

Wrth i PCYDDS barhau i ddatblygu cydweithrediadau sy’n cyfoethogi profiadau addysgol ac yn grymuso myfyrwyr i ragori, mae’r bartneriaeth rhwng y Fframwaith Arfer Proffesiynol a’r Athrofa’n brawf o ymrwymiad y brifysgol i ragoriaeth ac arloesi addysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Arfer Proffesiynol a’r Athrofa yn PCYDDS, ewch i www.pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon