Skip page header and navigation

Heddiw, mae’r Parchedig Beti Wyn James wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio haf y Brifysgol. 

Y Parchedig Beti Wyn James gyda Dr Lowri Lloyd ac uwch aelodau eraill y Brifysgol, i gyd mewn gwisg academaidd ffurfiol.

Yn cyflwyno’r Parch Beti Wyn James i’r gynulleidfa roedd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Rhagoriaith yn Y Drindod Dewi Sant. Dywedodd hi:

“Pleser a braint yw cael cyflwyno’r Parchedig Beti Wyn James – un sydd wedi cyflawni llawer ei hun ond eto wedi cyflenwi cymaint mwy i eraill – yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Brifysgol hon.

Mae’n un mlynedd ar hugain ers i Beti Wyn symud i ardal Caerfyrddin. Wn i ddim ai fi sy’n dangos fy oedran, ond roedd hi’n arferol rhoi allwedd i rywun fyddai’n cyrraedd y pen-blwydd arbennig hwnnw. Heb os, Beti Wyn, rwyt ti wedi bod yn gwbl allweddol i fywydau cymaint o bobl.

Ac ydw, dw i am barhau â delwedd yr allwedd, a bydd pob un sy’n nabod Beti Wyn yn gwybod i ba gyfeiriad rwy’n mynd. Ie’n wir – at gyfnod y Clo.

Yn ein swigod unig, â drysau ein tai ar gau a’n Capeli dan glo, fe roddodd Beti Wyn allwedd a mynediad amhrisiadwy i addolwyr Cymru a thu hwnt trwy ddarlledu oedfaon Cymraeg digidol dros y we. Yn sydyn, er yn bell, trwy’r tonfeddi, daethom oll yn gymaint nes.

Mae’n ffaith bod gwasanaethau Cristnogol Beti Wyn yn ystod y cyfnod cloi wedi rhoi ffydd a chwmni y mae mawr ei angen i gynifer o bobl gyda dros 2,000 o ddilynwyr o bob rhan o’r byd. Cyfraniad allweddol yn wir.

Ac mae’r gwasanaethau hynny’n parhau o hyd bob dydd Sul – gyda rhyw 400 yn eu dilyn - er ein bod yn gwbl rydd erbyn hyn o hualau’r Clo Mawr, am fod Beti Wyn ei hun yn gwybod mor allweddol y mae’r gwasanaethau, ac yn wir, y gwerthoedd Cristnogol y mae hi’n eu hymgorffori, i eraill.

Nid yw gwaith gweinidog yn hawdd a gallaf dystio fod Beti Wyn wedi cael llawer o wasanaethau anodd a thrist i’w gweinyddu dros y blynyddoedd. I gynifer o deuluoedd, mae eich presenoldeb a’ch gofal wedi bod yn amhrisiadwy.Gallaf dystio’n bersonol i ti gynnal teuluoedd sydd wedi profi colledion anhymig o gynnar gan wneud hynny gydag urddas a dewrder. Ti, iddyn nhw, fu’r allwedd i’r goleuni mewn cyfnod o dywyllwch a chaethiwed.

A beth am Beti Wyn – y person? A oes amser ar gyfer unrhyw beth arall, neu yn wir iddi hi ei hun? Rwy’n gwybod yn iawn ei bod hi’n dod o hyd i amser ar gyfer ysgrifennu creadigol ac yn enillydd sawl cadair. Mae hi’n gerddwr brwd, yn awdures ac yn cymryd diddordeb mawr mewn celf.

Ond yn fwy na dim byd arall. ‘Mam’ yw Beti Wyn. Mam, angor, ffrind, datglo-wraig problemau, i Elin Wyn a Sara Llwyd – cannwyll ei llygaid yn wir – ac mi wn mor browd y mae’r ddwy ohonot ti hefyd.” 

Y Parchedig Beti Wyn James gyda Dr Lowri Lloyd ac uwch aelodau eraill y Brifysgol, i gyd mewn gwisg academaidd ffurfiol.

Ganwyd a magwyd Beti Wyn yng Nghlydach a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Lôn Las, Ysgol Ystalyfera a Choleg yr Annibynwyr Cymraeg, Aberystwyth. Ym 1994 fe’i hordeiniwyd yn Weinidog ar Gapel y Tabernacl yn y Barri. Yn 2002, daeth i Gaerfyrddin yn weinidog yng nghapeli Priordy, Cana a Bancyfelin. Ar hyn o bryd, mae Beti Wyn yn Llywodraethwr yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin, gwirfoddolwr gweithgar gyda’r banc bwyd lleol, cyflwyno’r gwasanaeth Sul wythnosol ar Radio Glangwili, Llywydd presennol Undeb yr Annibynwyr, Caplan Maer Tref Caerfyrddin am y degfed tro eleni, ac aelod o Orsedd y Beirdd Cymru, lle mae hi wedi dechrau yn ei rôl newydd fel Arwyddfardd eleni. 

Wrth dderbyn y wobr, ychwanegodd y Parch. Beti Wyn James: 

“Braint o’r mwyaf i mi yw derbyn yr anrhydedd hon. Daeth yn gwbl annisgwyl a sai’n credu fy ,od wedi dod dros y sioc!

Mae bron deng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi gael fy ordeinio yn weinidog. Rwy’ wedi treulio bron i ddwy flynedd ar hugain o’r blynyddoedd hynny yng Nghaerfyrddin a Bancyfelin ac wedi elwa cymaint o fod yn rhan o fywyd y naill gymuned a’r llall.

Dim ond tair merch oedd yn weinidogion yng Nghymru gyfan 30 mlynedd yn ôl. Fi oedd y pedwerydd. Mae pethau wedi symud ymlaen tipyn ers hynny diolch fyth.

Pe bydden i wedi gwrando ar bobol yn lle gwrando ar fy nghalon fy hunan mae yna bosibilrwydd na fyddem yn weinidog heddiw. Rwy’n credu bod yna wers yma i ni gyd, ac yn enwedig i chi sy’n graddio heddiw ac yn cychwyn ar gyfnod cyffrous iawn yn eich bywydau. Rydych wedi profi yn barod bod y gallu gyda chi ond cofiwch, mae angen angerdd fan hyn hefyd. Dilynwch ddymuniad eich calon a’ch breuddwyd - er efallai y bydd y freuddwyd honno yn wahanol i’r hyn mae eraill yn disgwyl oddi wrthych.

Diolch i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am yr anrhydedd hon. Fe fydd heddiw yn aros yn fy nghof am byth.”

I nodi’r achlysur, dyma gywydd arbennig a gyflwynwyd yn ystod y seremoni gan Dr Lowri Lloyd: 

Pan fu pell gymaint pellach
A’n byd yn llawn swigod bach,
Ymroi i agor cloeon,
Rhyddhau hualau wnaeth hon.
Rho’dd olau i’r dyddiau du,
hi, ein hallwedd, a’i gallu
trwy dirwedd y tonfeddi
a’n cadwodd, a’n hunodd ni.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau