Skip page header and navigation

Mae ymdrech ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), elusen Cerebra a staff o ddau o siopau gwella’r cartref Abertawe wedi arwain at uwchraddio gardd un o’r ysgolion cynradd lleol.  

Disgyblion, staff a chynrychiolwyr Cerebra’n bloeddio ac yn gwenu o gwmpas cerflun y rhaeadr synhwyraidd newydd.

Dr Ross Head yw Athro Cysylltiol Dylunio Cynnyrch PCYDDS ac mae’n arwain Canolfan Arloesi Cerebra’r Brifysgol, sy’n dylunio a gwneud cynhyrchion i wella bywydau pobl ifanc ag anghenion arbennig. Prosiect ar y cyd rhwng PCYDDS a’r elusen genedlaethol, Cerebra, yw Canolfan Arloesi Cerebra.

Dechreuwyd y prosiect yn Ysgol Gynradd Dyfnant wedi i Ganolfan Arloesi Cerebra PCYDDS  wneud cais am grant o £1000 gan y B&Q Foundation i weithio ar brosiect a fyddai’n elwa’r gymuned. Tarodd Dr Head ar y syniad o greu cerflun synhwyraidd cyffyrddol i ddisgyblion anghenion addysgol arbennig (AAA) ymgysylltu a chwarae gydag ef.

Wrth ddewis Ysgol Gynradd Dyfnant yn Abertawe, meddai Dr Head ei fod yn falch i allu “rhoi rhywbeth yn ôl” i’r ysgol yr aeth ei blant iddi, gan wybod y byddai’n cael ei groesawu a’i werthfawrogi gan y staff a’r myfyrwyr yno.

Mae dyluniad y rhaeadr synhwyraidd yn cynnwys tair haen. Bydd dŵr yn diferu o’r top i’r gwaelod trwy gyfres o olwynion dŵr sy’n troelli i mewn i fasnau ar lefel is, gyda lle i tua deg o blant bach chwarae, ochr yn ochr, o’i gwmpas. Mae wedi’i wneud o bren i greu teimlad naturiol, gyda lluniau a siapiau ar y tu allan i’w wneud yn ddeniadol yn weledol.

Ymunwyd â Dr Head a’i dîm gan staff o B&Q a Valspar, a ddefnyddiodd y cyfle i ddarparu diwrnod cymunedol ar gyfer eu staff, a gweithiodd y tri thîm yn gydweithredol i wneud holl ardal tir yr ysgol yn brafiach.

Dr Ross Head yn gwenu wrth iddo sefyll uwchben gwely uchel wedi’i amgylchynu gan bum aelod prosiect arall mewn siacedi llachar.

Darparodd B&Q yr holl ddeunyddiau i adeiladu’r cerflun, ac fe arddiodd a chliriodd eu staff ardal pwll yr ysgol wrth i dîm paent Valspar ailbeintio ac ychwanegu lliw i’r gwelyau uchel yng ngardd yr ysgol.

Meddai Dr Ross Head: “Bu’r prosiect hwn yn un cydweithredol cymunedol gwych a llwyddiannus iawn. Mae wedi amlygu pwysigrwydd allgymorth ddinesig yn ein cymuned, ac mae’n dangos bod tîm brwdfrydig yn gallu cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr. Roedd gweld y plant yn mynd yn fwy a mwy chwilfrydig a chyffrous yn ystod y dydd yn hyfryd, ac yn heintus! Mae pawb fu’n rhan o’r prosiect yn awyddus i helpu eto.”

Meddai Kerry Thomas, Pennaeth Ysgol Gynradd Dyfnant: “Bu’n bleser gweithio ochr yn ochr â Chanolfan Arloesi Cerebra PCYDDS i ddatblygu’r rhaeadr ar gyfer y disgyblion, ac i ddatblygu ein pwll ac ardal berllan ymhellach gyda help staff B&Q a Valspar.”

“Mae dysgu yn yr awyr agored yn fuddiol iawn i blant oed ysgol gynradd ac rydym yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu’r ardaloedd sydd gennym o hyd, ond yn aml nid oes gennym yr adnoddau i gyflawni hynny. Mae’r timau wedi cwblhau mwy o waith nag y gallem ni fod wedi’i wneud yn yr ysgol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu help a’u hamser. Mae’r plant yn gyffrous iawn yn barod i fynd i ddefnyddio’r rhaeadr a’r pwll!

Meddai Steve Winfield, Rheolwr Siop B&Q Abertawe: “Mae’n wych gallu rhoi help llaw yn Ysgol Gynradd Dyfnant gyda chymorth Cerebra. Mae’r holl dîm yn dwlu ar ddefnyddio eu sgiliau ymarferol, ac mae’n well fyth pan fydd hynny i gefnogi achos da.”

Plant yn tyrru o gwmpas y ffynnon; mae ambell un yn edrych ar y dŵr tra bod un bachgen yn troi at y camera ac yn gwenu.

Nodyn i’r Golygydd

Mae Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) yn brosiect cydweithredol rhwng elusen genedlaethol Cerebra a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae Cerebra yn helpu teuluoedd sydd â phlant ag anaf i’r ymennydd i oresgyn heriau a darganfod gwell bywyd gyda’i gilydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cerebra


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau