Skip page header and navigation

Bydd ymchwilwyr o Lydaw yn ymweld ag Aberystwyth i fynychu cynhadledd arbennig i drafod y cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw.

Brittany flag flying on a flag pole on Aberystwyth pier

Yn 2022, llwyddodd cais ar y cyd gyda’r Centre de recherche bretonne et celtique ym Mhrifysgol Brest, a’r Llyfrgell Genedlaethol, i gronfa CollEx-Persée i weithio ar archif Lydewig bwysig y Llyfrgell, ac archifau Cymraeg a gedwir yn Llydaw. 

Nod y prosiect yw cyfoethogi, digido, ac ehangu mynediad at rai o ddogfennau’r casgliadau sydd yn yr archifau Llydewig yng Nghymru, dogfennau sydd yn eu tro yn cysylltu â rhai o’r dogfennau sydd mewn archifdai yn Llydaw ac yn Ffrainc. Bydd hyn yn rhoi darlun llawnach inni o’r berthynas rhwng Cymru a Llydaw dros y ddwy ganrif ddiwethaf. 

Ymwelodd dau ymchwilydd o ochr y Ganolfan â’r archifau yn Llydaw (Prifysgol Brest a’r Archives départementales yn Quimper) yn ystod 2023, a daeth grwp o Brifysgol Brest i weithio ar yr archif Lydewig yn ystafell ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ym mis Chwefror ac ym mis Mehefin 2023. Yn ogystal croesawyd myfyrwraig ddoethuriaethol o Brest i dreulio tri mis yn y Ganolfan er mwyn iddi hithau hefyd weithio ar yr archif yn LlGC yng nghyd-destun y prosiect hwn. Dyfarnwyd bwrsariaeth y prosiect i Catrin Mackie i alluogi ymchwilydd gyrfa gynnar i gymryd rhan yn yr ymchwil. Treuliodd gyfnod yn yr archifau ym Mhrifysgol Brest ac yn Quimper yn ystod haf 2023. 

Yn 2024 aeth tri ymchwilydd o Gymru i Brest i gymryd rhan mewn cynhadledd undydd agored i’r cyhoedd a hybrid ym mis Chwefror, a bydd saith aelod o’r Ganolfan Ymchwil Geltaidd ym Mhrifysgol Brest yn dod i Aberystwyth ar 21 Mehefin i rannu ffrwyth eu hymchwil mewn cynhadledd undydd agored.

Dyma fanylion y rhaglen: Fforwm Cymru-Llydaw: 21 Mehefin 2024 | University of Wales

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: 

Dyma brosiect ymchwil pwysig iawn sy’n tystio i’r cydweithio strategol cryf rhwng y tri phartner: y CRBC yn Llydaw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gyda phob un yn dod â’i arbenigedd unigryw i’r gwaith er budd ysgolheigion, y sector treftadaeth a chymunedau yng Nghymru, Llydaw ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Ronan Calvez, cyn-Gyfarwyddwr y Centre de Recherche Bretonne et Celtique ym Mhrifysgol Brest: ‘Mae ymchwilwyr y CRBC wrth eu boddau gyda’r cyfle hwn i weithio ar archifau Llydewig yng Nghymru. Mae yma ddeunydd cyffrous sy’n sicr yn haeddu sylw, a bydd y gwaith academaidd yn cryfhau cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a Llydaw.’ 

‘Les chercheuses et les chercheurs du CRBC se réjouissent de travailler sur les archives bretonnes du pays de Galles, qui n’ont pour l’heure pas fait l’objet d’études et qui méritent grandement d’être valorisées. Ce projet scientifique permettra de renforcer les liens entre chercheurs, de part et d’autre de la Manche.’

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/

4. ‘Centre de Recherche Bretonne et Celtique’ [Canolfan Ymchwil Llydewig a Cheltaidd], Prifysgol Brest, Llydaw, Ffrainc https://www.univ-brest.fr/crbc/. Canolfan ymchwil sydd wedi gweithio yn agos gyda’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd dros gyfnod o flynyddoedd. 

5. Dyfarnwyd y grant gan CollEx-Persée https://www.collexpersee.eu/a-propos/who-are-we/ a gyllidir gan Lywodraeth Ffrainc.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon