Skip page header and navigation

Ac yntau bellach yn ddylunydd graffig proffesiynol ac wedi graddio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Jac Elsey’n priodoli rhywfaint o’i lwyddiant i’r sgiliau a’r gymuned a feithrinwyd yn y Drindod Dewi Sant…

Jac Elsey yn gwenu yn ei ŵn a’i het academaidd.

Roedd Jac Elsey, o Gorseinon, Abertawe, bob amser wedi breuddwydio am ddylunio ar gyfer timau chwaraeon; breuddwyd a gychwynnodd pan oedd yn blentyn wrth iddo gystadlu yn y DU ac Ewrop gyda’i glwb cicfocsio a gwylio gemau pêl-droed.

“Byddwn yn cael fy nghyfareddu gan y ffaith fod pob cystadleuaeth yr oeddwn ynddi yn teimlo’n wahanol, nid oherwydd yr awyrgylch ond oherwydd y modd yr oedd wedi cael ei brandio ar draws y lleoliad,” meddai Jac. “A phan oeddwn i’n mynd i wylio Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, roeddwn yn llawer rhy brysur yn edrych ar raglen y gêm a’r posteri o amgylch y stadiwm i weld y gic gyntaf!”

“Roedd gen i gymaint o obsesiwn â graffigau nes i mi ddechrau creu rhai fy hun. Dechreuais dudalen ar Instagram tua diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd yn gwneud graffigau ar gyfer athletwyr cicfocsio, a wnaeth yn syndod o dda. Rhoddodd ddigon o hyder i mi gredu fy mod yn gallu dylunio’n eithaf da ac i benderfynu fy mod am fynd â hyn ymhellach.”

Ymwelodd Jac â llawer o brifysgolion eraill ar gyfer diwrnodau agored, ond dywed fod “y Drindod Dewi Sant yn teimlo’n wahanol”.

“Wrth gwrs, roedd yn gyfleus i mi fel un a oedd yn byw yn Abertawe, ond cyn gynted ag y cerddais i mewn ar y diwrnod agored hwnnw, roedd ethos y lle yn teimlo’n gartrefol iawn ac roedd y darlithwyr yn amlwg yn frwdfrydig. Roedd y gweithleoedd yn llawn gwaith ysbrydoledig gan gyn-fyfyrwyr, a wnaeth i mi gredu y gallwn i fod yn un ohonynt ryw ddiwrnod.

“Hefyd, mae’r sglodion yn y ffreutur yn dda iawn!” meddai gan dynnu coes.

Ac yntau’n mynd i mewn i’r cwrs o gefndir chwaraeon, cafodd Jac ei synnu o’r ochr orau wrth ehangu ei orwelion a chael ei wthio i weithio ar wahanol themâu. “Roedd cael amrywiaeth o brosiectau ar draws sawl maes yn werthfawr iawn, gan ei fod yn gwneud i mi sylweddoli fy mod yn hoffi mathau eraill o ddylunio, yn ogystal â dylunio chwaraeon. Fe wnes i ddarganfod sawl angerdd nad oeddwn i’n ymwybodol oedd gennyf ac agorwyd fy llygaid i olwg ehangach ar y maes dylunio.”

Mae cwrs BA Dylunio Graffig Coleg Celf Abertawe wedi’i leoli yn adeilad Dinefwr y Drindod Dewi Sant, lle roedd Jac yn teimlo fod darpariaeth briodol ar ei gyfer i ba gyfeiriad bynnag roedd am fynd. Mae’n nodi y caiff dylunwyr digidol a ffisegol fel ei gilydd y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys yr ystafelloedd a’r technolegau Mac diweddaraf, yn ogystal â pheiriannau Riso a sgrin-brintio. “Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect, ni fydd unrhyw beth yn eich cyfyngu yn yr adeilad hwnnw!”

Yn ei ddillad graddio, mae Jac Elsey yn sefyll gyda’i freichiau o gwmpas ei rieni.

Gyda ffocws cryf ar helpu myfyrwyr â chyflogadwyedd a byd gwaith, roedd Jac yn falch fod y briffiau wedi’u teilwra i adlewyrchu sefyllfaoedd realistig. “Mae’r darlithwyr yn eich paratoi ar gyfer sut brofiad yw gweithio mewn diwydiant, ac roeddwn i’n ffodus i weithio gyda nifer o sefydliadau a phobl yn ystod y cwrs, mewn rolau amser llawn a llawrydd.

“Roedd hyn o fudd mawr i mi – oherwydd am y flwyddyn a hanner ddiwethaf, ochr yn ochr â fy ngradd, rwyf wedi cael fy nghyflogi fel unig Ddylunydd Creadigol y Scarlets, tîm rygbi proffesiynol yn Llanelli.”

“Mae fy rôl yn rhoi rheolaeth i mi ar olwg a theimlad y brand, ac rwy’n dylunio unrhyw beth a phopeth, o graffigau marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, cynigion masnachol ar gyfer noddwyr posibl, i arwyddion y stadiwm.

“Roeddwn bob amser wedi breuddwydio am weithio yn y diwydiant chwaraeon, felly pan wnaethon nhw ffonio i ddweud fy mod wedi cael y swydd yng nghanol fy ail flwyddyn yn y Drindod Dewi Sant, daeth y freuddwyd honno’n wir! Mae wedi bod yn brofiad gwych ac yn bleser gwirioneddol i fod yn rhan o gymuned gref y Scarlets yn Llanelli.”

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai’n ei argymell fwyaf am y cwrs, dywedodd Jac: “Ble mae dechrau? Bob dydd rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd, a dyna pam, nawr fy mod i wedi graddio, y byddaf yn colli camu i mewn i’r adeilad hwnnw dair gwaith yr wythnos am byth.

“Pe bawn i’n ceisio rhestru’r holl bethau da, byddwn i yma am ddiwrnodau, felly dywedaf i hyn: os oes gennych angerdd am ddylunio, byddwch yn siŵr o fwynhau’r cwrs hwn . Yn syml, ni allwn ddychmygu lle gwell i ddylunydd gyrraedd ei botensial.

“Mae gan y darlithwyr brofiad anhygoel yn y maes ac yn anad dim, maent yn bobl ffeind a fydd yn hapus i’ch helpu a’ch cefnogi. Mae’r cyfleusterau heb eu hail. Os edrychwch chi ar y portffolio o lwyddiant graddedigion, mae’n siarad drosto’i hun: Apple, Manchester City, Pentagram, Lego… mae’r rhestr yn parhau.

“Os ydych chi’n breuddwydio am weithio i unrhyw gwmni a fynnwch yn y byd i gyd, gall y radd Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant sirhau swydd i chi yno. Hyd yn oed os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd cael swydd ar ôl i chi raddio, mae gan y cwrs enw eithriadol o dda ymhlith rhwydwaith y diwydiant dylunio, felly rwy’n gwarantu na fyddwch chi’n brin o gyfleoedd.

“Mae’n gymaint mwy na gradd academaidd yn unig. Mae’r cwrs yn eich dysgu sut mae’r byd yn gweithio, ynglyn â deall pobl, beth i chwilio amdano a beth i’w osgoi mewn cyflogaeth.

“Des i mewn iddo gan ddisgwyl dysgu am ddylunio, gwneud ychydig o brosiectau cŵl a thraethawd hir ac yna graddio. Ni allwn fod wedi bod yn fwy anghywir, oherwydd roedd yn gymaint mwy.

“Mae’r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud yma yn fy ngwneud i’n berson gwell, mae ganddyn nhw’r un diddordebau, ac rydw i wir yn credu y byddaf yn eu hadnabod am oes. Rwy’n amau a gaf i gystal tair blynedd yn fy mywyd fyth eto.

“Ond pwy a ŵyr beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig? Diolch i’r Drindod Dewi Sant, mae’r opsiynau i mi yn ddiddiwedd.”

Poster coch yn dangos Johnny Williams yn ei grys Scarlets gyda’r testun: Johnny Williams versus Ospreys.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau