Skip page header and navigation

Cafodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Gyfarfod Pabaidd ag Ei Sancteiddrwydd y Pab Ffransis yn y Fatican yr wythnos diwethaf. 

Llun o’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor PCYDDS, yn cwrdd â’r Pab Francis.

Trefnwyd y Cyfarfod Pabaidd yn rhan o genhadaeth strategol i’r Sefydliad Esgobol i drafod sefydlu cynghrair strategol rhwng Cymru a’r Pontificia Scholas Occurentes, menter ieuenctid rhyngwladol y Pab Ffransis.  Cynigodd gyfle hefyd i rannu cynlluniau ar gyfer sefydlu Sefydliad Rhyngwladol newydd yng Nghymru a fyddai’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth ieuenctid, dyfodol byd-eang a datblygiad cynaliadwy.

Wrth sôn am y Cyfarfod Pabaidd, meddai’r Athro Medwin Hughes: “Roedd hyn yn fraint ac anrhydedd mawr. Roedd cael fy nghyflwyno i’r Tad Sanctaidd yn brofiad gwefreiddiol. Cynigodd gyfle i rannu ein cynlluniau gydag ef i sefydlu’r Sefydliad ar gyfer Dyfodol Byd-eang a sut y bydd y fenter newydd hon yn adeiladu ar ein partneriaeth UNESCO gyfredol a chryfhau ymhellach ymrwymiad Cymru a fynegir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).

“Mae Cymru’n arwain y ffordd wrth feithrin partneriaethau rhyngwladol cryfion a fydd yn canolbwyntio ar raglenni addysgol ym maes Arweinyddiaeth Fyd-eang a Gwydnwch Ieuenctid”.  

Bydd dirprwyaeth o’r Sefydliad Esgobol yn ymweld â Chymru yn yr hydref i hyrwyddo’r ymgysylltiad strategol.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau