Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o fod wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau AV Magazine yn y categori Prosiect Addysgol y Flwyddyn am ein hystafelloedd trochi arloesol o’r radd flaenaf.

Ymwelwyr â’r ystafell drochi’n gwylio ffigyrau sy’n fwy na gwir faint yn symud o gwmpas y waliau pinc disglair.

Mae’r mannau newydd hyn yn darparu meysydd dysgu realiti rhithwir ac estynedig sy’n arwain y byd i fyfyrwyr a phartneriaid, a hwy yw’r cyntaf o’u math yng Nghymru.

Wedi’i sefydlu’n gadarn fel bathodyn rhagoriaeth heb ei ail ar gyfer y diwydiant clyweled mae gwobrau AV Magazine yn feincnod ar gyfer y safonau proffesiynol uchaf posibl ac arfer gorau, gan gydnabod cyflawniadau eithriadol unigolion, cwmnïau, prosiectau a thechnoleg ar draws y sectorau clyweledol, digwyddiadau, a chynhyrchu.

Dywedodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol y Brifysgol: “Trwy fannau trochi, rydym yn gallu chwyldroi’r ffordd mae myfyrwyr yn dysgu, trwy ddarparu profiad addysgol rhyngweithiol, diddorol, a chofiadwy ar eu cyfer sy’n dod â’r cwricwlwm yn fyw.

“Nid yn unig y mae gweithredu mannau trochi ym maes addysg yn cyfoethogi ymgysylltiad a chymhelliant myfyrwyr, ond mae’n eu galluogi hefyd i brofi a rhyngweithio gyda’r cwricwlwm mewn ffordd fwy ystyrlon a chofiadwy. Mae’r dull hwn yn caniatáu dysgu mwy ymarferol a dysgu trwy brofiadau, y mae ymchwil wedi dangos ei fod yn fwy effeithiol wrth hyrwyddo’r gallu i gadw gwybodaeth yn yr hir dymor.

“Mae’r defnydd o dechnoleg drochi, fel realiti rhithwir ac estynedig, yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio a dysgu am bynciau a chysyniadau a fyddai fel arall yn anodd neu’n amhosibl eu hatgynhyrchu mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gyffrous i fod ar reng flaen yr ymagwedd arloesol hon at ddysgu, gan ddefnyddio mannau trochi i gyfoethogi profiad dysgu’r myfyriwr a’u paratoi ar gyfer y dyfodol.  Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn.”

Gan weithio gyda phartner clyweled, IDNS, ac a ariennir yn rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae’r mannau dysgu newydd cyntaf o’u math yng Nghymru wedi’u lleoli ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe y Brifysgol. Mae’r Ystafelloedd Trochi yn defnyddio’r sgriniau Samsung LED diweddaraf ar draws tair wal gan greu profiad defnyddiwr rhithiol llawn a realiti estynedig.

Mae’r mannau hyn yn galluogi i fyfyrwyr brofi realiti rhithwir, fideos a delweddau 360° a chymwysiadau trochi trwy feddalwedd trochi Igloo Vision.

Mae dysgu trochi yn ffordd hynod o effeithiol i lawer o ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae’n darparu cynnwys ac amgylcheddau artiffisial a grëwyd yn ddigidol sy’n atgynhyrchu scenarios bywyd go iawn er mwyn gallu dysgu a pherffeithio sgiliau a thechnegau newydd. Ni fydd dysgwyr yn gwylio’n oddefol; ond yn hytrach, byddant yn cael bod yn gyfranogion rhagweithiol sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ganlyniadau. Hefyd, mae’n fan di-risg a diogel lle gellir ailadrodd yr hyn a ddysgir, a gellir mesur llwyddiannau’n gywir.

Er 25 mlynedd, mae gwobrau AV Magazine wedi tyfu mewn statws a maint, gan ddenu 1,400+ o weithwyr proffesiynol y diwydiant o bob cwr o’r byd. Dyma’r noson fwyaf a mwyaf mawreddog yn y calendr clyweled, lle mae pob rhan o’r byd clyweled yn ymuno â’i gilydd i rwydweithio, rhannu llwyddiannau ac, wrth gwrs, i ddathlu.

Bydd Gwobrau AV 2023 yn cael eu cynnal ar 3 Tachwedd yn Evolution, Llundain.

Mae waliau’r ystafell drochi’n arddangos panorama tanddwr i ymwelwyr.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon